- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011. Daw i rym ar 25 Tachwedd 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “BPEX” (“BPEX”) yw'r is-adran o'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth sydd â chyfrifoldeb dros y diwydiant moch yn Lloegr.
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch;
ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw fan lle y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw tag clust neu datŵsy'n cydymffurfio ag erthygl 6;
ystyr “marc cenfaint” (“herdmark”) yw cod alffaniwmerig a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 4(2);
ystyr “MLCSL” (“MLCSL”) yw Meat and Livestock Commercial Services Limited;
ystyr “rhif CPH” (“CPH number”) yw'r rhif sir, plwyf a daliad a ddyrennir i ddaliad gan Weinidogion Cymru.
3.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig.
(2) Caiff trwyddedau a chymeradwyaethau fod yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir eu hatal, eu diwygio neu'u dirymu, mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.
4.—(1) Rhaid i feddiannwr daliad sy'n dechrau cadw moch ar y daliad hwnnw ac unrhyw berson sy'n cymryd meddiannaeth o ddaliad lle cedwir moch hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth ganlynol o fewn un mis—
(a)eu henw a'u cyfeiriad; a
(b)cyfeiriad y daliad.
(2) Pan ddaw hysbysiad o dan baragraff (1) i law Gweinidogion Cymru, rhaid iddynt ddyroddi marc cenfaint.
(3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid yn yr wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis.
(4) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn un mis os yw'r meddiannydd hwnnw'n peidio â chadw moch ar unrhyw ddaliad yr hysbyswyd yn ei gylch o dan baragraff (1).
5.—(1) O fewn 36 awr ar ôl symud mochyn i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad lenwi'r ffurflen yn yr Atodlen.
(2) Unwaith bob blwyddyn, rhaid i'r ceidwad gofnodi uchafswm nifer y moch sydd fel arfer ar y daliad a'r nifer gwirioneddol o foch ar y daliad ar y dyddiad hwnnw.
(3) Rhaid i'r ceidwad ddal gafael ar y cofnodion hyn am 3 blynedd o leiaf.
6.—(1) Rhaid i dag clust—
(a)bod yn hawdd i'w ddarllen drwy gydol oes y mochyn;
(b)bod wedi ei wneud naill ai o fetel neu o blastig neu o gyfuniad o fetel a phlastig;
(c)gwrthsefyll ymyrryd ag ef;
(ch)bod yn amhosibl i'w ailddefnyddio;
(d)gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu'i stampio arno; ac
(dd)bod wedi ei ddylunio i barhau ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.
(2) Rhaid gosod tatŵnaill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwnnw rhaid ei osod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwnnw rhaid ei osod ar y ddwy ysgwydd, ac yn y ddau achos rhaid iddo fod yn hawdd i'w ddarllen.
(3) Fel dewis arall, yn hytrach na gosod tatŵgan ddefnyddio'r dulliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff ceidwad osod tatŵar y ddwy ysgwydd gan ddefnyddio cyfarpar sy'n defnyddio aer cywasgedig i yrru'r pinnau tatwio i mewn i groen y mochyn, ar yr amod bod y tatŵyn hawdd i'w ddarllen.
(4) Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth bellach, neu ychwanegu gwybodaeth bellach ar y tag clust neu at y tatŵ, ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n eglur rhwng yr wybodaeth bellach a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.
7.—(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni fydd gan y mochyn—
(a)tag clust sy'n dwyn y llythrennau “UK” a ddilynir gan farc cenfaint y daliad y symudir y mochyn ohono; neu
(b)tatŵ, a osodwyd yn unol ag erthygl 6, sy'n dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau “UK” neu hebddynt).
(2) Yn ddarostyngedig i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(1), yn achos marchnad—
(a)caniateir symud mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â marc cenfaint y daliad y cyrhaeddodd y mochyn ohono;
(b)os nad yw'r mochyn wedi ei farcio'n gywir yn unol â'r Rheoliadau hyn pan yw'n cyrraedd y farchnad, caiff ei geidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc cenfaint y daliad y cyrhaeddodd y mochyn ohono, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny, ni chaniateir ond dychwelyd y mochyn i'r daliad y daeth ohono.
8.—(1) Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd—
(a)naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan symudir ef, yn galluogi adnabod y daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf;
(b)yn parhau hyd nes bo'r mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.
(2) Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir—
(a)i farchnad;
(b)i ladd-dy;
(c)at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu
(ch)i sioe.
9.—(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad—
(a)i sioe neu arddangosfa;
(b)at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y'i symudwyd ohono; neu
(c)at y diben o gasglu semen mewn canolfan semen moch,
oni fydd y mochyn wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 neu gyda marc cenfaint sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw.
10. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵsydd yn y ddau achos yn dwyn y llythrennau “UK” a ddilynir gan farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd osod ar y mochyn dag clust neu datŵsy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn—
(a)y llythrennau “UK”;
(b)y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y cyflwynir y mochyn a fewnforir iddi;
(c)unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno gosod y gyfryw wybodaeth; ac
(ch)y llythyren “F”.
(2) Rhaid gosod y tag clust neu'r tatŵar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag cyn symud y mochyn o'r daliad hwnnw.
(3) Nid oes raid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd osod marc adnabod newydd yn unol â pharagraff (1) os symudir mochyn yn uniongyrchol i ladd-dy ac y'i cigyddir o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i erthyglau 13, 14, 15 ac 16(2) rhaid i geidwaid, ac eithrio marchnadoedd, hysbysu BPEX ynghylch pob symudiad moch o'u daliadau, cyn bo'r symudiadau hynny'n digwydd.
(2) Caiff ceidwaid hysbysu BPEX yn electronig drwy gofnodi'r wybodaeth ganlynol yn system gofnodi symudiadau BPEX—
(a)cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH, y daliad y symudir y mochyn ohono a'r daliad y'i symudir iddo;
(b)dyddiad y symudiad;
(c)nifer y moch a symudir;
(ch)marc adnabod pob mochyn a symudir, ac yn achos symudiad a bennir yn erthygl 9 neu 10 rhaid i'r marc adnabod hwnnw gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw sy'n ofynnol gan yr erthyglau hynny.
(3) Os nad yw ceidwad yn hysbysu BPEX yn electronig, rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth a restrir ym mharagraff (2) i MLCSL dros y teleffon neu mewn ysgrifen, ac ni chaiff symud y moch hynny cyn cael dogfen oddi wrth MLCSL sy'n cofnodi'r wybodaeth honno.
(4) Pan fo MLCSL yn cael hysbysiad o wybodaeth symudiad o dan baragraff (3), rhaid i MLCSL, o fewn un diwrnod gwaith ac eithrio penwythnosau ar ôl cael yr hysbysiad, anfon at y ceidwad nifer digonol o gopïau o ddogfen sy'n cofnodi'r wybodaeth honno, er mwyn galluogi'r ceidwad ac unrhyw gludydd a'r ceidwad yn naliad y gyrchfan i gyflawni eu rhwymedigaethau cofnodi.
(5) Pan symudir moch o farchnad, rhaid i'r farchnad hysbysu BPEX o'r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn perthynas â'r moch hynny, yn electronig ar y diwrnod y'u symudir.
(6) Yn yr erthygl hon, ystyr “system gofnodi symudiadau BPEX” (“BPEX movement recording system”) yw'r system gofnodi symudiadau electronig a gynhelir gan BPEX at ddiben hysbysiadau o dan y Gorchymyn hwn, ac ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn neu'n ddydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2).
13.—(1) Tan 1 Ionawr 2012, os na all y farchnad hysbysu BPEX yn electronig yn unol ag erthygl 12(5), rhaid iddi ddarparu'r wybodaeth a restrir yn erthygl 12(2) i MLCSL dros y teleffon neu mewn ysgrifen ar ddiwrnod y gwerthiant
(2) Tan 1 Ebrill 2012 caiff ceidwad, ac eithrio marchnad, sy'n anfon moch i ddaliad arall, yn hytrach na hysbysu ynghylch y symudiad o dan erthygl 12, lenwi a llofnodi dogfen sy'n pennu—
(a)cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH, y daliad y symudir y mochyn ohono a'r daliad y'i symudir iddo;
(b)dyddiad y symudiad;
(c)nifer y moch a gynhwysir yn y ddogfen;
(ch)marc adnabod pob mochyn a symudir, ac yn achos symudiad a bennir yn erthygl 9 neu 10 rhaid i'r marc adnabod hwnnw gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw sy'n ofynnol gan yr erthyglau hynny.
(3) Rhaid i'r ceidwad roi copi o'r ddogfen hon i'r person sy'n cludo'r moch.
(4) Rhaid i'r cludydd roi copi o'r ddogfen hon i'r ceidwad sy'n derbyn y moch.
(5) Rhaid i'r ceidwad y rhoddir copi iddo o'r ddogfen hon wrth iddo dderbyn y moch anfon y ddogfen at MLCSL o fewn 3 diwrnod.
14.—(1) Nid oes raid i geidwad sy'n symud moch i farchnad roi hysbysiad ymlaen llaw ynglŷn â'r symudiad os yw'r farchnad yn hysbysu BPEX o'r wybodaeth a restrir yn erthygl 12(2), yn electronig ar y diwrnod y mae'r moch yn cyrraedd y farchnad.
(2) Nid oes raid i geidwad sy'n symud moch i ganolfan gasglu roi hysbysiad ymlaen llaw ynglŷn â'r symudiad os yw'r ganolfan gasglu wedi cytuno gyda'r ceidwad i hysbysu BPEX o'r wybodaeth a restrir yn erthygl 12(2), yn electronig ar y diwrnod y mae'r moch yn cyrraedd y ganolfan gasglu.
15. Nid oes raid i geidwad sy'n symud mochyn i bractis milfeddygol ar gyfer triniaeth frys roi hysbysiad ynglŷn â'r symudiad.
16.—(1) Pan fo ceidwad yn bwriadu symud mochyn o'i ddaliad i sioe, ac yntau'n gwybod i ba ddaliad y mae'n bwriadu symud y mochyn ar ôl y sioe, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol ag erthygl 12, o'r symudiad i'r sioe yn ogystal â'r symudiad oddi yno, cyn symud y mochyn i'r sioe.
(2) Pan fo ceidwad yn symud mochyn i sioe, ac yntau ddim yn gwybod i ba ddaliad y bwriada symud y mochyn ar ôl y sioe, rhaid iddo ddarparu i BPEX mewn perthynas â'r symudiad o'r sioe, yr wybodaeth yn erthygl 12(2), neu adrodd hynny wrth MLCSL, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad o'r sioe.
17.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen sy'n pennu—
(a)cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH, y daliad y symudir y mochyn ohono a'r daliad y'i symudir iddo;
(b)dyddiad y symudiad;
(c)nifer y moch a gynhwysir yn y ddogfen;
(ch)marc adnabod pob mochyn a symudir, ac yn achos symudiad a bennir yn erthygl 9 neu 10 rhaid i'r marc adnabod hwnnw gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw sy'n ofynnol gan yr erthyglau hynny; a
(d)yn achos symudiad o farchnad, rhifau lot y moch a symudir,
ac os nad adroddir am y symudiad yn electronig, llofnodir y ddogfen honno gan y ceidwad.
(2) Rhaid i'r cludydd roi dau gopi o'r ddogfen i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan os na all y ceidwad newydd hwnnw hysbysu BPEX, yn electronig, bod y ceidwad newydd wedi cael yr anifeiliaid hynny.
18.—(1) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan gadw'r ddogfen y cyfeirir ati yn erthygl 17(1) am 6 mis o leiaf, oni fydd y ceidwad yn rhoi hysbysiad o'r symudiad o dan baragraff (2)(a).
(2) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r moch gyrraedd, naill ai—
(a)cofnodi ar system gofnodi symudiadau BPEX y nifer o foch sy'n cyrraedd yn ei ddaliad; neu
(b)cyflwyno'r un wybodaeth i MLCSL dros y teleffon, drwy ffacs neu mewn ysgrifen.
19. Yn achos mochyn a symudir o ddaliad i borthladd ac y bwriedir ei gludo allan o Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw adrodd am y symudiad drwy BPEX neu anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati yn erthygl 17 at MLCSL o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.
20. Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded gerdded i geidwad mochyn anwes i ganiatáu iddo fynd â'r mochyn am dro oddi ar y daliad heb gydymffurfio ag erthygl 5 neu 12, ond rhaid i'r person sy'n mynd â'r mochyn am dro gario copi o'r drwydded tra bydd allan am dro gyda'r mochyn.
21.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo daliad at ddibenion symud moch a fwriedir ar gyfer bridio neu besgi.
(2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y caniateir symud moch ohonynt a pha ddaliadau y caniateir eu symud iddynt.
(3) Nid yw symud moch rhwng daliadau sydd wedi eu cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003.
22. Ni chaiff neb, onid awdurdodir gan Weinidogion Cymru, ddileu neu ddifrodi marc adnabod.
23.—(1) Rhaid i geidwad osod marc adnabod newydd yn lle'r un blaenorol os yw—
(a)wedi mynd yn annarllenadwy;
(b)wedi ei dynnu ymaith am resymau lles; neu
(c)wedi mynd ar goll.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n gosod marc adnabod newydd yn lle'r un blaenorol naill ai—
(a)gosod yr un math yn union o farc adnabod; neu
(b)gosod marc adnabod newydd a chroes-gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5.
24. Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw gofnod a wneir o dan y Gorchymyn hwn, os gofynnir am ei weld, a'i gwneud yn ofynnol gwneud copi neu allbrint ohono.
25.—(1) Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag unrhyw achos penodol, mai hwy fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn lle'r awdurdod lleol.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru.
26.—(1) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008(3).
(2) Yn erthygl 12(2) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, yn lle “erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002” rhodder “erthygl 20 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011”.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2011
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: