Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 435 (Cy.63)

CAFFAEL TIR, CYMRU

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011

Gwnaed

15 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Chwefror 2011

Yn dod i rym

1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.

Terfyn gwerth blynyddol

2.  £34,800 yw'r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005(3) wedi ei ddirymu.

Ieuan Wyn Jones

Y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

15 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn galluogi personau sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir, a bennir yn Atodlen 13 i'r Ddeddf (gan gynnwys tir y mae cynigion cynllunio a chynigion priffyrdd penodol yn effeithio arno), i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir.

Un o'r buddiannau mewn tir sy'n gymwys i'w ddiogelu yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament (sef hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) pan na fydd gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (adran 149(3)(a) o'r Ddeddf).

Mae'r pŵer i ragnodi'r swm hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy o ran Cymru, wedi ei freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Drwy arfer y pŵer hwnnw, mae Gweinidogion Cymru, drwy'r Gorchymyn hwn yn codi'r terfyn gwerth blynyddol o £29,200 i £34,800 er mwyn cymryd i ystyriaeth ailbrisio'r ardrethi yn y flwyddyn 2010.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/367) (Cy.33) wedi ei ddirymu.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ynglŷn ag effaith y Gorchymyn hwn wedi cael ei baratoi a'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau gan Lywodraeth y Cynulliad, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i amrywir gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources