- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw gais am drwydded forol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag ef (1).
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal amgylcheddol sensitif” (“environmentally sensitive area” ) yw—
gwarchodfa natur forol o fewn yr ystyr a roddir i “marine nature reserve” yn adran 36 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981(2);
safle Ramsar o fewn yr ystyr a roddir i “Ramsar site” yn adran 37A o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981(3);
safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 28 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981(4);
ardal cadwraeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special area of conservation” gan Erthygl 1(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd)(5);
ardal gwarchodaeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special protection area” gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(6);
ystyr “cais am drwydded forol” (“application for a marine licence”) yw cais am drwydded i ymgymryd ag un neu ragor o weithgareddau morol trwyddedadwy;
ystyr “ffi” (“fee”) yw'r ffi sy'n daladwy am benderfynu cais am drwydded forol;
ystyr “tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol” (“environmental sensitivity supplement”) yw ychwanegiad at y ffi sy'n daladwy mewn perthynas â rhai ceisiadau am drwydded forol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at dabl â rhif yn gyfeiriad at y tabl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen.
4.—(1) Mae'r holl ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru.
(2) Mae'r holl ffioedd yn daladwy pan ofynnir am y tâl.
(3) Caniateir talu unrhyw ffi drwy ddull electronig.
(4) Bydd Gweinidogion Cymru wedi cael unrhyw ffi pan fydd arian cliriedig yn eu meddiant ar gyfer swm cyfan y ffi honno.
(5) Bydd unrhyw ffi neu ran o ffi na fydd wedi ei thalu yn adenilladwy gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.
5.—(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu nad yw'n dod o fewn rheoliad 9 (prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 1.
(2) Ond, ac eithrio yn achos cais y mae band 1 yn nhabl 1 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Os bwriedir ymgymryd ag un neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.
(4) Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2.
6.—(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir, nad yw'n dod o fewn paragraff (4), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 3.
(2) Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cyfalaf, mae'r raddfa ffioedd yn y drydedd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.
(3) Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cynnal a chadw, mae'r raddfa ffioedd yn y bedwaredd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.
(4) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir at ddefnydd llesiannol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 4.
(5) Ond mae paragraff (4) yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Os bwriedir ymgymryd ag neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais, y cyfeirir ato ym mharagraff (4), o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.
(7) Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2, yn ddarostyngedig i'r addasiad ym mharagraff (8).
(8) Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid darllen cyfeiriad yn nhabl 2 at gost y prosiect fel pe bai'n gyfeiriad at gost y prosiect y mae'r deunydd a dreillir ac y bwriedir ei waredu yn tarddu ohono.
(9) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “defnydd llesiannol” (“beneficial use”) yw defnydd sy'n llesiannol i'r amgylchedd;
ystyr “deunydd a dreillir” (“dredged material”) yw unrhyw sylwedd neu wrthrych sy'n tarddu o dreillio morol.
7. Pan fo cais am drwydded forol yn ymwneud â gwaredu gwastraff pysgod, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 5.
8.—(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio morol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at yr ail golofn yn nhabl 6.
(2) Ond mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Pan fo penderfynu cais am drwydded forol o dan baragraff (1) yn cynnwys cynnal ymchwiliad(7), mae'r ffi a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw yn daladwy yn ychwanegol at y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
9. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect ynni adnewyddadwy alltraeth, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 7.
10. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phiblinell danfor neu adeiledd cysylltiedig ac yn dod o fewn disgrifiad yn y golofn gyntaf yn nhabl 8, penderfynir y ffi briodol drwy gyfeirio at yr ail golofn o'r tabl hwnnw.
11. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â dyddodi olrheinyddion neu liwurau, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 9.
12. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag angorfeydd syml a chymhorthion mordwyo, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 10.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: