Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 655 (Cy.93)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

5 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

2.—(1Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009(4) yn unol â pharagraff (2).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)ar ddiwedd y diffiniad o “Cyfarwyddeb 08/60” ychwaneger yr ymadrodd “fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/37/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/60 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer melysyddion”; a

(b)ar ddiwedd y diffiniad o “Cyfarwyddeb 08/84” ychwaneger yr ymadrodd “fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/67/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion”.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru ddwy Gyfarwyddeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â meini prawf purdeb ar gyfer rhai ychwanegion bwyd (“y Cyfarwyddebau sy'n diwygio”). Y canlynol yw'r Cyfarwyddebau sy'n diwygio—

(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/37/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/60/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer melysyddion (OJ Rhif L152, 18.6.2010, t.12); a

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/67/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L277, 21.10.2010, t.17).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith y Cyfarwyddebau sy'n diwygio drwy wneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300)) fel bod y diffiniadau o Gyfarwyddeb 08/60 a Chyfarwyddeb 08/84 yn y rheoliad hwnnw'n cynnwys cyfeiriad at y Gyfarwyddeb berthnasol sy'n diwygio (rheoliad 2(2)).

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwledig oedd â chyfrifoldeb yn eu tro dros iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru ac, mewn perthynas â'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources