Search Legislation

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) (Diwygio) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 700 (Cy.107)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

8 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio(2) ynddynt hwy.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003

2.—(1Mae Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2) o reoliad 2—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (ch), hepgorer y gair “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (d), rhodder “; ac” yn lle'r atalnod llawn; ac

(c)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(dd)ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “fruit juice from concentrate”, os yw'n cydymffurfio â'r lefel Brix ofynnol a bennir yn Atodlen 6, o'i darllen ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno..

(3Yn rheoliad 5—

(a)yn lle paragraff (ch) rhodder—

(ch)yn achos—

(i)cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd sydd wedi ei farcio neu wedi ei labelu â'r un disgrifiad neilltuedig “fruit juice” (neu ddisgrifiad arall o'r fath y mae'n ofynnol ei gael yn lle'r disgrifiad “fruit juice” yn unol â'r amodau sy'n rhagflaenu Colofn 1 (disgrifiadau neilltuedig) yn Atodlen 1), neu

(ii)neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig,

bod ei labelu yn dwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”, bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;; a

(b)yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)yn achos neithdar ffrwythau a gafwyd yn gyfan gwbl o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, y mae ei labelu yn dwyn y geiriau “from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “from concentrates”, a bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;.

(4Yn Atodlen 1—

(a)yng ngholofn 2 o eitem 3 (Fruit juice from concentrate), mewnosoder ar y diwedd—

  • Mae'r lefelau Brix gofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd wedi eu nodi yn Atodlen 6.; a

(b)yng ngholofn 2 o eitem 5 (Fruit nectar), yn lle “Atodlen 4” rhodder “Atodlen 5” yn y naill le a'r llall.

(5Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder Atodlen 6 fel y mae wedi ei osod yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2011

Rheoliad 2(5)

YR ATODLEN

Rheoliad 2 ac Atodlen 1

ATODLEN 6Y LEFELAU BRIX GOFYNNOL AR GYFER SUDDOEDD FFRWYTHAU O DDWYSFWYD

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Enw Cyffredin y FfrwythYr Enw BotanegolY lefel gradd Brix ofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd (h.y. ar gyfer sudd ffrwythau ailansoddedig a phiwrî ffrwythau ailansoddedig)

Nodiadau:

1.

Os yw sudd o ddwysfwyd wedi ei weithgynhyrchu o ffrwyth nad yw wedi ei grybwyll yn y rhestr uchod, lefel Brix y sudd fel y'i hechdynnwyd o'r ffrwyth a ddefnyddiwyd i wneud y dwysfwyd fydd lefel Brix ofynnol y sudd ailansoddedig.

2.

Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â seren (*), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel sudd, penderfynir dwysedd cymharol ofynnol fel y cyfryw mewn perthynas â dŵr sy'n 20/20°C.

3.

Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â dwy seren (**), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel piwrî, dim ond darlleniad Brix gofynnol nas cywirwyd (heb ei gywiro ar gyfer asidedd) a benderfynir.

4.

Mewn cysylltiad â chyrains duon, gwafa, mango a ffrwyth y dioddefaint, dim ond i sudd ffrwythau ailansoddedig a phiwrî ffrwythau ailansoddedig sydd wedi eu cynhyrchu yn yr UE y mae'r lefelau gradd Brix gofynnol yn gymwys.

Afal (*)Malus domestica Borkh.11.2
Bricyll (**)Prunus armeniaca L.11.2
Banana (**)Musasp.21.0
Cyrains duon (*)Ribes nigrum L.11.6
Grawnwin (*)Vitis vinifera L. neu hybridiau ohono Vitis labrusca L. neu hybridiau ohono15.9
Grawnffrwyth (*)Citrus x paradise Macfad.10.0
Gwafa (**)Psidium guajava L.9.5
Lemon (*)Citrus limon (L.) Burm.f.8.0
Mandarin (*)Citrus reticulataBlanco11.2
Mango (**)Mangifera indica L.15.0
Oren (*)Citrus sinensis (L.) Osbeck11.2
Ffrwyth y Dioddefaint (*)Passiflora edulis Sims13.5
Eirin gwlanog (**)Prunus persica (L.) Batsch var. Persica10.0
Gellyg (**)Pyrus communis L.11.9
Pinafal (*)Ananas comosus (L.) Merr.12.8
Mafon (*)Rubus idaeus L.7.0
Ceirios Sur (*)Prunus cerasus L.13.5
Mefus (*)Fragaria x ananassa Duch.7.0

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn trosi Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/106/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC ynglŷn â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu hyfed gan bobl (OJ Rhif L212, 15.8.2009, t.42).

Mae Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/106/EC yn gwneud dau ddiwygiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.58). Yn gyntaf, mae'n gwneud newid ieithyddol bach mewn perthynas â chynhyrchion sudd cymysg sy'n cynnwys sudd ffrwythau a suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd ac mewn perthynas â neithdarau a gafwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, er mwyn lleddfu ar anawsterau cyfieithu ledled Aelod-wladwriaethau'r UE. Yn ail, mae'n cyflwyno tabl sy'n gosod y lefelau Brix gofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy.286)), er mwyn—

(a)darparu bod rhaid i sudd ffrwythau o ddwysfwyd gynnwys y lefelau Brix gofynnol a bennir yn Atodlen 6, o'u darllen ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno (rheoliad 2(2) a'r Atodlen) (mae lefelau Brix yn darparu mesur o ansawdd drwy osod solidau toddadwy (cynnwys siwgr) gofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau);

(b)gwneud newid ieithyddol bach i labelu a disgrifio cynhyrchion sudd cymysg sy'n cynnwys sudd ffrwythau a suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd, a neithdarau a gafwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig (rheoliad 2(3));

(c)diwygio Atodlen 1 (Disgrifiadau Neilltuedig ar gyfer Cynhyrchion Dynodedig) fel bod eitem 3 (Fruit juice from concentrate) o Atodlen 1 yn croesgyfeirio at Atodlen 6 (Y Lefelau Brix Gofynnol ar gyfer Suddoedd Ffrwythau o Ddwysfwyd) (rheoliad 2(4)(a) a'r Atodlen);

(ch)diwygio Atodlen 1 fel bod cyfeiriad anghywir o fewn eitem 5 (Fruit nectar) yn cael ei gywiro (rheoliad 2(4)(b));

(d)ychwanegu fel Atodlen 6, Atodlen newydd sy'n darparu 'Y Lefelau Brix Gofynnol ar gyfer Suddoedd Ffrwythau o Ddwysfwyd' (rheoliad 2(5) a'r Atodlen).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynghylch y costau a buddion tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 16, 17 a 48 gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”) a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd adran 17 hefyd gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 12 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 21 o Atodlen 5 iddi, a chan O.S. 2004/2990.

(2)

Cafodd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol sy'n ymwneud yn eu tro ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (2006 p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources