Grantiau ar gyfer ffioedd: amodau'r hawl i'w cael ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
16.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Pennir swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 17 neu 18.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—
(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu
(b)os yw'r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.