Swm y grantiau ar gyfer ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
17.—(1) Oni fydd un o'r achosion a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r canlynol—
(a)£1,380; a
(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (4) yw'r lleiaf o'r canlynol—
(a)£680; a
(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(3) Os cyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o'r grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 64.
(4) Y canlynol yw'r achosion—
(a)blwyddyn academaidd derfynol y cwrs dynodedig os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—
(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf)—
(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(iii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs,
blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;
(ch)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—
(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)os bydd, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
(5) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,465.
(6) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,030.
(7) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r lleiaf o £1,285 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys.
(8) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £680 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os yw un neu fwy o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys.
(9) Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (7) neu (8) yn unol â rheoliad 64.