- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi, drwy hysbysiad, osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 85(1) o'r Ddeddf (torri gofyniad i gael trwydded, neu dorri ei hamodau).
(2) Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, rhaid i'r awdurdod gorfodi fod wedi ei fodloni tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
(3) Swm y gosb ariannol benodedig yw £100 yn achos unigolyn, neu £300 ym mhob achos arall.
5.—(1) Pan fo'r awdurdod gorfodi'n bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn y bwriedir ei wneud (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnig cyfle i'r person gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'n cael yr hysbysiad o fwriad.
(3) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth hefyd am—
(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;
(b)swm y gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod;
(c)effaith talu'r swm y cyfeirir ato yn erthygl 6;
(ch)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau;
(d)yr amgylchiadau pan na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol benodedig;
(dd)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 6, y ceir cyflawni'r rhwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig ynddo;
(e)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 7(1), y ceir gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynddo.
(4) Ond ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith pan fo—
(a)cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw;
(b)hysbysiad stop(1) wedi ei gyflwyno i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
6. Caiff person sy'n cael hysbysiad o fwriad gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu i'r awdurdod gorfodi 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law.
7.—(1) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi cyflawni ei rwymedigaeth o dan erthygl 6.
8.—(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod y gosb ariannol benodedig.
(2) Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, os bodlonir yr awdurdod na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.
(3) Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth fel a ganlyn—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)swm y gosb;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;
(d)unrhyw ddisgowntiau am dalu'n gynnar neu gosbau am dalu'n hwyr;
(dd)hawliau i apelio; ac
(e)canlyniadau peidio â thalu.
(4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi cyflawni ei rwymedigaeth o dan erthygl 6.
(5) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30 (diwygio neu dynnu'n ôl hysbysiadau terfynol i ddadwneud neu leihau cosb neu gywiro gwallau).
9. Caiff person sy'n gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau yn unol ag erthygl 7 gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu i'r awdurdod gorfodi 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad terfynol i law.
10.—(1) Os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad i osod cosb ariannol benodedig, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 56 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, os na thelir cosb ariannol benodedig o fewn y cyfnod o 56 diwrnod, bydd y person sy'n atebol i dalu'r gosb ariannol benodedig yn atebol hefyd i dalu, i'r awdurdod gorfodi, gosb am dalu'n hwyr o 50% o swm y gosb ariannol benodedig.
(3) Pan fo apêl wedi ei gwneud, ond y gosb ariannol benodedig yn parhau'n daladwy ar ôl yr apêl honno, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y penderfynwyd yr apêl.
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys, os na thelir cosb ariannol benodedig o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, bydd y person sy'n atebol i dalu'r gosb ariannol benodedig yn atebol hefyd i dalu, i'r awdurdod gorfodi, gosb am dalu'n hwyr o 50% o swm y gosb ariannol benodedig.
11.—(1) Pan fo hysbysiad o fwriad wedi ei gyflwyno i berson—
(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol ynglŷn â'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, yn erbyn y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ef cyn diwedd cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law; a
(b)os yw'r person hwnnw yn cyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig yn unol ag erthygl 6, ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad o fwriad yn ymwneud ag ef mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
(2) Pan osodir cosb ariannol benodedig ar berson—
(a)ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y gosodwyd y gosb mewn cysylltiad ag ef, mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb;
(b)ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio na hysbysiad adfer(2) i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb.
(3) Ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith—
(a)pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw; neu
(b)pan fo'r person wedi cyflawni ei rwymedigaeth am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw, yn unol ag erthygl 6.
12.—(1) Caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod(3).
(2) Y seiliau apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer y diffiniad o'r term hwn.
Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffinad o'r termau hyn.
Gweler erthygl 28 am ddarpariaethau pellach ynglŷn ag apelau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: