- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad osod cosb ariannol newidiol ar berson mewn perthynas ag—
(a)tramgwydd o dan adran 85(1) o'r Ddeddf (torri gofyniad i gael, neu dorri amodau, trwydded);
(b)tramgwydd o dan adran 89(1) o'r Ddeddf (gwybodaeth);
(c)tramgwydd o dan adran 92(3)(b) o'r Ddeddf (methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer).
(2) Ond cyn gwneud hynny rhaid i'r awdurdod gorfodi fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
14.—(1) Pan fo'r awdurdod gorfodi'n bwriadu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth fel a ganlyn—
(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol newidiol;
(b)swm y gosb ariannol newidiol a fwriedir;
(c)yr amgylchiadau pan na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol newidiol; ac
(ch)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 15, y ceir gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynddo.
(3) Ond ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith pan fo—
(a)cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw; neu
(b)pan fo'r person wedi cyflawni ei rwymedigaeth am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw, yn unol ag erthygl 6.
15. Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb.
16.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymrwymiad y cymerir camau gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd.
(2) Caiff yr awdurdod gorfodi naill ai dderbyn neu wrthod ymrwymiad o'r fath.
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod cosb ariannol newidiol, ac os felly, swm y gosb.
(2) Wrth benderfynu felly, rhaid i'r awdurdod gorfodi gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad a dderbyniwyd ganddo o dan erthygl 16(2).
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad a godir gan y person hwnnw, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.
(4) Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)swm y gosb;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;
(d)hawliau i apelio; ac
(dd)canlyniadau peidio â thalu.
(5) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30.
18.—(1) Os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad i osod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 56 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law, neu ba bynnag gyfnod diweddarach a gytunir gan yr awdurdod gorfodi mewn ysgrifen.
(2) Pan fo apêl wedi ei gwneud, ond y gosb ariannol newidiol yn parhau'n daladwy ar ôl yr apêl honno, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y penderfynwyd yr apêl.
19. Pan fo cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar berson—
(a)ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y gosodwyd y gosb mewn cysylltiad ag ef, mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb;
(b)ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb.
20.—(1) Caiff y person y gosodir cosb ariannol newidiol arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod neu yn erbyn swm y gosb.
(2) Y seiliau apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(d)unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
21.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad wneud yn ofynnol bod person y gosodwyd cosb ariannol newidiol arno yn talu'r costau a achoswyd i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â gosod y gost, hyd at yr amser y'i gosodwyd.
(2) Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo wneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n darparu dadansoddiad manwl o'r swm a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Nid yw'r person y mae'n ofynnol ei fod yn talu costau dan rwymedigaeth i dalu unrhyw gostau a ddangosir, gan y person hwnnw, eu bod yn gostau a achoswyd yn ddiangen.
(5) Yn yr erthygl hon, mae “costau” yn cynnwys yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau caffael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
22. Caiff y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau o dan erthygl 21 apelio yn erbyn y penderfyniad—
(a)i osod y gofyniad i dalu costau;
(b)ynglŷn â swm y costau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: