Search Legislation

Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 964 (Cy.138)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011

Gwnaed

24 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mawrth 2011

Yn dod i rym

11 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 12 a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations” ) yw Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Dyfarnu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) 2011;

  • ystyr “ceisydd” (“requester”) yw unrhyw berson—

    (a)

    y mae'n rhaid darparu datganiad iddo o dan adran 10(4) o'r Mesur ac sy'n gofyn i awdurdod lleol i adolygu ei benderfyniad i osod ffi arno, neu

    (b)

    y mae'n rhaid darparu datganiad iddo o dan reoliad 19 o'r Rheoliadau ac sy'n gofyn i awdurdod lleol i adolygu ei benderfyniad i ddyfarnu ar ad-daliad neu gyfraniad;

  • ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn cael cais am adolygiad ac sy'n dod i ben naill ai ar y dyddiad pan fo'r awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad i'r ceisydd neu'r dyddiad pan fo'r awdurdod lleol yn cael ei hysbysu bod y cais wedi ei dynnu'n ôl, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf;

  • ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad sydd ar fformat sy'n briodol i anghenion cyfathrebu'r ceisydd ac, os yw ceisydd wedi penodi cynrychiolydd, ei gynrychiolydd;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y Banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);

  • ystyr “ffi” (“charge”) yw ffi a osodir o dan adran 1 o'r Mesur;

  • ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth y gellir codi ffi amdano fel y'i diffinnir gan adran 13 o'r Mesur;

  • ystyr “taliadau gros” (“gross payments”) yw taliadau a wneir ar y raddfa honno y mae'r awdurdod yn amcangyfrif sydd yn gyfwerth â'r gost resymol o sicrhau darpariaeth o'r gwasanaeth o dan sylw;

  • ystyr “ymweliad â'r cartref” (“home visit”) yw ymweliad a wneir gan swyddog priodol awdurdod lleol i breswyliad cyfredol ceisydd neu i fan arall y mae'r ceisydd yn rhesymol ofyn amdano; ac

  • ystyr “yn ysgrifenedig” (“in writing”) yw unrhyw fynegiad sy'n eiriau neu'n ffigurau y gellir eu darllen, eu hatgynhyrchu ac yna'u cyfathrebu a gallai gynnwys gwybodaeth a drosglwyddwyd ac a storiwyd drwy gyfrwng electronig.

Yr hawl i ofyn am adolygiad

3.—(1Caiff ceisydd ofyn am adolygu penderfyniad i osod arno neu ddyfarnu, mewn perthynas â gwasanaeth y mae'r ceisydd yn ei gael—

(a)ffi;

(b)ad-daliad; neu

(c)cyfraniad(3).

(2Caiff cais ymwneud â'r amgylchiadau a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) —

(a)nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o'r dyletswyddau a osodwyd arno gan y Mesur neu gan reoliadau a wnaed odano;

(b)nad yw awdurdod lleol wedi cymhwyso'n gywir ei bolisi ei hun ar godi ffioedd wrth osod ffi, neu ddyfarnu ar ad-daliad neu gyfraniad;

(c)bod gwall wedi cael ei wneud wrth gyfrifo'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad;

(ch)bod ffi wedi cael ei gosod am wasanaeth na chafodd ar unrhyw adeg ei ddarparu i'r ceisydd;

(d)bod amgylchiadau ariannol y ceisydd wedi newid er pan gyfrifwyd y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad;

(dd)bod ceisydd yn ystyried nad oes ganddo'r modd ariannol i dalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad a byddai gwneud hynny'n peri caledi ariannol iddo.

(3Rhaid i gais am adolygiad ddatgan pa un neu ragor o'r amgylchiadau a restrir ym mharagraff (2) neu unrhyw amgylchiadau eraill yw'r rheswm dros ofyn am yr adolygiad.

(4Caniateir i gais gael ei wneud ar unrhyw adeg ar ôl i awdurdod lleol ddyroddi datganiad o dan—

(a)adran 10(4) o'r Mesur;

(b)rheoliad 19 o'r Rheoliadau.

(5Caniateir i gais gael ei wneud i awdurdod lleol naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

(6Rhaid i awdurdod lleol benodi person (“person penodedig”) sy'n aelod o staff yr awdurdod lleol i ymdrin â'r adolygiad, a rhaid dehongli cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “berson penodedig” yn unol â hynny.

(7Ni fydd rheoliadau 4 i 11 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn credu, yn rhesymol, na fu unrhyw newid perthnasol yn yr un o'r amgylchiadau a restrir ym mharagraff (2), a arweiniodd at gais blaenorol am adolygiad gan neu ar ran yr un person, a'r ceisydd heb ddatgan unrhyw amgylchiadau ychwanegol eraill.

(8Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod lleol anfon datganiad at y ceisydd, i ddatgan na fydd y cais am adolygiad yn cael ei ystyried gan yr awdurdod oherwydd bod yr awdurdod yn credu yn rhesymol—

(a)na fu unrhyw newid perthnasol yn yr un o'r amgylchiadau a restrir ym mharagraff (2), a arweiniodd at gais blaenorol am adolygiad gan neu ar ran yr un person; a

(b)nad yw'r ceisydd wedi datgan unrhyw amgylchiadau ychwanegol eraill.

Cynrychiolwyr

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff person sy'n gweithredu ar ran ceisydd (“cynrychiolydd”) ofyn am adolygiad ac mae cyfeiriadau at “cynrychiolydd” yn y Rheoliadau hyn i'w dehongli yn unol â hynny.

(2Os yw'r ceisydd yn dymuno penodi cynrychiolydd i ofyn am adolygiad ar ran y ceisydd, rhaid i'r ceisydd roi ei awdurdodiad o'r penodiad i'r awdurdod lleol naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

(3Os yw'r awdurdod lleol yn cael awdurdodiad llafar neu ysgrifenedig y ceisydd, rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r ceisydd a'i gynrychiolydd ddatganiad yn cadarnhau bod y ceisydd wedi rhoi ei awdurdodiad llafar neu ysgrifenedig o'r penodiad.

(4Pan fo cynrychiolydd wedi cael ei benodi yn unol â'r rheoliad hwn, caiff y cynrychiolydd weithredu ar ran y ceisydd am yr holl gyfnod adolygu onid yw awdurdodiad y ceisydd yn datgan fel arall neu fod y ceisydd wedi tynnu ei awdurdodiad yn ôl o dan baragraff (5).

(5Caiff ceisydd dynnu ei awdurdodiad yn ôl drwy roi hysbysiad, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, i'r person penodedig.

(6Pan fo cynrychiolydd wedi cael ei benodi yn unol â'r rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 5(1), 6(1)(h) ac (i), 7(1), 8(1), (2) a (5) a 9(2) at geisydd yn golygu cynrychiolydd y person hwnnw i'r graddau y mae'n gyson ag awdurdodiad y ceisydd.

Tynnu cais yn ôl

5.—(1Caniateir i gais gael ei dynnu'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig gan y ceisydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod adolygu.

(2Dim ond i'r person penodedig y caniateir gofyn am dynnu cais yn ôl.

(3Pan fo cais yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r ceisydd ac i unrhyw gynrychiolydd ddatganiad yn cadarnhau bod y cais wedi cael ei dynnu'n ôl ac o ganlyniad ni chymerir unrhyw gamau pellach ynglŷn ag ef.

Cydnabod y cais

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael unrhyw gais sy'n cydymffurfio â rheoliad 3 anfon at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd ddatganiad yn datgan—

(a)y dyddiad y cafwyd y cais;

(b)natur y cais;

(c)os nad yw'r ceisydd eisoes wedi penodi cynrychiolydd, y caiff y ceisydd benodi cynrychiolydd i'w gynorthwyo ac i weithredu ar ei ran yn ystod yr holl gyfnod adolygu neu yn ystod rhan o'r cyfnod hwnnw;

(ch)sut y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal yr adolygiad;

(d)nad oes angen i'r ceisydd dalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu;

(dd)os bydd y ceisydd yn penderfynu peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu, bod rhaid i'r ceisydd neu unrhyw gynrychiolydd hysbysu'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, am y penderfyniad hwnnw;

(e)a fydd yr awdurdod lleol, pe na bai ceisydd yn talu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu, yn ceisio adennill, ar ôl y cyfnod adolygu, unrhyw swm sydd wedi cronni ac sydd heb ei dalu yn ystod y cyfnod adolygu;

(f)os yw'r ceisydd wedi gofyn am adolygu cyfraniad ac wedi hysbysu'r awdurdod lleol na fydd yn talu'r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu, y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud taliadau gros i'r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu;

(ff)pa wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach (os oes rhai) sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol oddi wrth y ceisydd er mwyn cynnal adolygiad a'r terfyn amser ar gyfer rhoi gwybodaeth neu ddogfennau o'r fath a bennir yn rheoliad 8;

(g)y byddai swyddog priodol o'r awdurdod lleol ar gael i ymweld â'r cartref at ddibenion casglu'r wybodaeth bellach neu'r dogfennau pellach;

(ng)y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â'r cartref;

(h)manylion cyswllt y person penodedig a fydd yn gyfrifol am ddarparu ymateb i unrhyw ymholiadau a all fod gan y ceisydd ynghylch yr adolygiad;

(i)manylion cyswllt unrhyw gorff a allai gynorthwyo'r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ynglŷn â'r adolygiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd o fewn pump o ddiwrnod gwaith ar ôl cael y cais.

Ymweliad â'r cartref

7.—(1Caiff y ceisydd ddewis rhoi unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfennau sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol yn ystod ymweliad â'r cartref, drwy hysbysu'r person penodedig naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

(2Os gwneir y dewis o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod lleol ymweld â'r cartref.

Terfyn amser ar gyfer rhoi gwybodaeth bellach neu ddogfennau pellach

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw gwybodaeth bellach neu ddogfennau pellach yn rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r ceisydd roi'r wybodaeth bellach honno neu'r dogfennau pellach hynny i'r awdurdod lleol o fewn 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach.

(2O fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), caiff y ceisydd ofyn i'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, am estyniad amser i roi gwybodaeth bellach neu ddogfennau pellach.

(3Dylai unrhyw gais am estyniad ddatgan y rheswm pam na ellir rhoi'r wybodaeth neu'r dogfennau sy'n ofynnol o fewn y cyfnod a bennir gan baragraff (1).

(4Rhaid i awdurdod lleol ganiatáu unrhyw gais rhesymol am estyniad.

(5Os caniateir estyniad gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol gadarnhau mewn datganiad a anfonir at y ceisydd—

(a)bod y terfyn amser ar gyfer rhoi'r wybodaeth bellach neu'r dogfennau pellach wedi cael ei estyn; a

(b)hyd yr estyniad hwnnw.

(6Pe na bai'r awdurdod lleol yn cael yr wybodaeth bellach neu'r dogfennau pellach na chael cais am estyniad amser o fewn yr amser a bennir ym mharagraff (1), caiff drin y cais fel un a gafodd ei dynnu'n ôl.

(7Os bydd paragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod lleol anfon datganiad at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd yn datgan—

(a)bod yr awdurdod lleol yn awr yn trin y cais fel un a gafodd ei dynnu'n ôl;

(b)bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn awr yn daladwy;

(c)y swm (os oes un) sydd wedi cronni a heb ei dalu gan y ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu; ac

(ch)os yw'r awdurdod lleol yn ceisio adennill unrhyw swm sydd wedi cronni oddi wrth y ceisydd, y swm y mae'n rhaid ei dalu a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid ei dalu.

Penderfyniad

9.—(1Cyn gynted â phosibl, a beth bynnag o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael digon o wybodaeth a dogfennau i gynnal yr adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad ar yr adolygiad a'r camau sy'n angenrheidiol i'w weithredu;

(b)anfon datganiad at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd i ddatgan—

(i)y penderfyniad;

(ii)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(iii)bod gan y ceisydd hawl i wneud cwyn o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005(4) os nad yw'n fodlon ar y penderfyniad;

(c)os cafodd ffi'r ceisydd ei diwygio o ganlyniad i'r adolygiad, rhoi datganiad i'r ceisydd sy'n cynnwys yr wybodaeth a osodir yn adran 10(4) o'r Mesur; ac

(ch)os cafodd ad-daliad neu gyfraniad y ceisydd eu diwygio o ganlyniad i'r adolygiad, rhoi datganiad i'r ceisydd sy'n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau.

(2Os yw'r awdurdod lleol yn dod i'r casgliad nad yw'n gallu cyflawni ei waith cyn y dyddiad cau a bennir ym mharagraff (1), rhaid iddo cyn gynted â phosibl a beth bynnag o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) roi datganiad i'r ceisydd yn datgan—

(a)na fydd yn gallu rhoi penderfyniad cyn y dyddiad cau a bennir ym mharagraff (1);

(b)y rhesymau pam na all gydymffurfio â'r dyddiad cau hwnnw;

(c)y dyddiad erbyn pryd y bydd yn rhoi penderfyniad; ac

(ch)y caiff y ceisydd ddewis peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad am weddill y cyfnod adolygu drwy hysbysu'r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

(3Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r awdurdod lleol ystyried—

(a)manylion y cais;

(b)polisi presennol yr awdurdod lleol ar godi ffioedd;

(c)y Mesur;

(ch)y Rheoliadau;

(d)Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Dyfarnu Ffioedd) (Cymru) 2011;

(dd)Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011;

(e)unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(5);

(f)incwm a threuliau'r ceisydd; ac

(g)unrhyw amgylchiadau, y rhai cyfredol a'r rhai y gellir eu rhagweld a allai effeithio ar allu'r ceisydd i dalu'r ffi.

(4Bernir bod datganiad wedi ei ddarparu o dan baragraff (1) ar y dyddiad y dyroddir ef gan yr awdurdod lleol.

Talu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod ac ar ôl cyfnod adolygu

10.—(1Os gwneir cais, caiff y ceisydd ddewis peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfan o'r cyfnod adolygu ond bydd unrhyw swm sydd heb ei dalu yn cronni.

(2Os gwneir y dewis o dan baragraff (1) rhaid i'r ceisydd hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch ei ddewis, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael datganiad o dan reoliad 6(1).

(3Os yw awdurdod lleol yn anfon datganiad at y ceisydd o dan reoliad 9(2), caiff y ceisydd ddewis peidio â thalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, yn ystod y gweddill o'r cyfnod adolygu, ac ni fydd unrhyw swm nas telir yn ystod gweddill y cyfnod adolygu yn cronni.

(4Os gwneir y dewis o dan baragraff (3) rhaid i'r ceisydd hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch ei ddewis, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael datganiad o dan reoliad 9(2)

(5Pan hysbysir awdurdod lleol na fydd y ceisydd yn talu ei gyfraniad yn ystod y cyfan neu'r gweddill o'r cyfnod adolygu, rhaid i'r awdurdod lleol wneud taliadau gros i'r ceisydd yn ystod–

(a)y cyfan o'r cyfnod adolygu os gwneir y dewis o dan baragraff (1); neu

(b)y gweddill o'r cyfnod adolygu os gwneir y dewis o dan baragraff (3).

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), caiff awdurdod lleol adennill unrhyw swm sydd heb ei dalu sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod adolygu o dan baragraff (1) ar ôl y cyfnod adolygu.

(7Y swm sydd wedi cronni y caniateir ei adennill o dan baragraff (6) yw swm y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu sy'n gywir o dan reoliad 9(1)(a).

(8Ni chaiff awdurdod lleol adennill unrhyw ffi, ad-daliad neu gyfraniad, neu'r rhan sy'n destun yr adolygiad, nas talwyd rhwng anfon datganiad o dan reoliad 9(2) a diwedd y cyfnod adolygu.

(9Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad y dylai'r ceisydd ei dalu yn llai na'r un a osodwyd yn flaenorol ar y ceisydd, rhaid i'r awdurdod lleol o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl anfon ei benderfyniad at y ceisydd, dalu i'r ceisydd y gwahaniaeth rhwng y swm a ddylai fod yn daladwy a'r swm, os oes un, sydd eisoes wedi ei dalu gan y ceisydd.

(10Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod y swm a ddylai fod yn daladwy gan y ceisydd yn fwy na'r un a osodwyd yn flaenorol ar y ceisydd, caiff yr awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i baragraff (8), adennill y gwahaniaeth rhwng swm y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad a ddylai fod yn daladwy a'r swm, os oes un, sydd eisoes wedi ei dalu gan y ceisydd.

(11Ni all y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei dalu o dan baragraff (9) neu y caiff ei adennill o dan baragraff (10), pan fo swm y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad wedi cael ei ddiwygio oherwydd newid yn amgylchiadau ariannol y ceisydd, ymwneud ag unrhyw gyfnod o amser cyn y newid hwnnw yn yr amgylchiadau ariannol.

(12Wrth adennill unrhyw swm oddi wrth y ceisydd o dan baragraff (6) neu (10) —

(a)rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i amgylchiadau ariannol personol y ceisydd; a

(b)rhaid i'r awdurdod lleol gael ei fodloni na fydd adennill y swm yn peri bod y ceisydd yn dioddef caledi ariannol(6); neu

(c)os yw'r awdurdod lleol yn credu y byddai adennill y swm yn peri bod y ceisydd yn dioddef caledi ariannol, rhaid iddo gynnig y dewis i'r ceisydd i ad-dalu'r swm mewn rhandaliadau cyfnodol.

Darpariaeth drosiannol

11.  Pan fo cais wedi ei wneud, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, am adolygiad ar ffi, ad-daliad neu gyfraniad ond na chafodd ei benderfynu hyd yma gan yr awdurdod lleol, caiff yr awdurdod lleol barhau â'r adolygiad ac nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r adolygiad hwnnw ac eithrio bod yn rhaid i'r awdurdod lleol anfon penderfyniad at y ceisydd o fewn tri mis ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

24 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer yn ôl eu disgresiwn i osod ffi resymol ar oedolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Mae rheoliadau 10(2) a 11(2) o Reoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer yn ôl eu disgresiwn i ddyfarnu'r swm sy'n rhesymol ymarferol i'r sawl sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol i dalu drwy ad-daliad neu drwy gyfraniad tuag at sicrhau darparu'r gwasanaethau drwy daliad uniongyrchol.

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gosod ffi neu'n dyfarnu ar ad-daliad neu gyfraniad, mae rheoliad 3 o'r rheoliadau hyn yn rhoi i'r sawl sy'n derbyn y gwasanaeth y gosodwyd ffi ar ei gyfer neu y dyfarnwyd ar ad-daliad neu gyfraniad ar ei gyfer (“y ceisydd”) yr hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 4 yn darparu y caiff cynrychiolydd hefyd ofyn ar ran y ceisydd, ar yr amod bod y ceisydd yn rhoi ei awdurdodiad.

Mae rheoliad 5 yn rhoi i'r ceisydd yr hawl i dynnu cais a wnaeth yn ôl.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi i'r ceisydd gydnabyddiaeth ysgrifenedig o fewn pump o ddiwrnodau gwaith ar ôl derbyn y cais. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn rhagnodi'r hyn y mae'n rhaid i'r gydnabyddiaeth ei gynnwys.

Pe bai'r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach gan y ceisydd, mae rheoliadau 7 ac 8 yn darparu sut a phryd y mae'n rhaid rhoi'r wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi penderfyniad i'r ceisydd, ynghyd â rhesymau, o fewn deg o ddiwrnodau gwaith ar ôl cael digon o wybodaeth a dogfennau i gynnal yr adolygiad. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddo cyn gwneud ei benderfyniad.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â'r hyn sy'n digwydd i'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad o'r dyddiad y daw'r cais i law awdurdod lleol hyd nes ei fod yn cael ei dynnu'n ôl neu hyd nes bod yr awdurdod lleol yn anfon penderfyniad at y ceisydd (“y cyfnod adolygu”). Nid oes rwymedigaeth ar y ceisydd i dalu'r ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu ond mae'r atebolrwydd yn parhau i gronni. Caiff yr awdurdod lleol adennill unrhyw swm a gronnwyd ar ôl y cyfnod adolygu.

O ran taliadau uniongyrchol, os bydd ceisydd yn hysbysu'r awdurdod lleol na fydd yn talu ei gyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu, rhaid i'r awdurdod lleol wneud taliadau gros i'r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.

Pe bai'r awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn rhy uchel, rhaid iddo ddychwelyd y gordaliad i'r ceisydd o fewn deg o ddiwrnodau gwaith. Pe bai'r awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad yn rhy isel, caiff adennill unrhyw dandaliad oddi wrth y ceisydd.

Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, sy'n darparu mwy o fanylion am y broses adolygu.

(1)

2010 mccc 2 (“y Mesur”). Gweler adran 17 o'r Mesur i gael diffiniad o “rheoliadau”.

(3)

Diffinnir “ad-daliad” a “cyfraniad” yn adran 12(5) o'r Mesur.

(6)

I gael esboniad o ystyr “financial hardship”, gweler y canllawiau a gyhoeddir o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p.42).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources