Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1428 (Cy.178)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

Gwnaed

29 Mai 2012

Yn dod i rym

6 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 49(4) a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(1).

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(a) o'r Mesur, a'i gymeradwyo gan benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 6 Mehefin 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion Rhannau 2 a 3 o'r Mesur

3.  Nid yw gwasanaethau a thriniaeth sydd yn cael eu rhoi ar gael fel gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol(2) mewn ardal awdurdod lleol benodol o dan gynllun(3) i'w hystyried fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd(4) at ddibenion Rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur yn yr ardal awdurdod lleol honno.

Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion hawl i asesiad yn Rhan 3 o'r Mesur

4.  Mae gwasanaeth a ddarperir yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, sy'n gyfwerth â gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru, i'w ystyried yn wasanaeth iechyd meddwl eilaidd at ddibenion adran 22 (hawl i asesiad) ac adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol) o'r Mesur.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

At ddibenion Rhannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”), mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol sy'n cael eu rhoi ar gael mewn ardal awdurdod lleol benodol o dan gynllun i'w hystyried fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn yr ardal awdurdod lleol honno.

Effaith erthygl 3 yw'r canlynol: nid yw'r gofynion sy'n ymwneud â chydgysylltu a chynllunio gofal a thriniaeth a ddarperir gan Ran 2 o'r Mesur yn gymwys i unigolyn nad yw ond yn derbyn y gwasanaethau neu driniaeth sy'n cael eu rhoi ar gael fel gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn yr ardal awdurdod lleol lle y mae preswylfa arferol yr unigolyn hwnnw. Hefyd, ni fydd unigolyn nad yw ond wedi derbyn gwasanaethau o'r fath yn gymwys ar gyfer asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd gwasanaethau yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, sy'n gyfwerth â gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru, yn cael eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion penodol yn Rhan 3 o'r Mesur.

Effaith erthygl 4 yw galluogi oedolion sydd wedi derbyn y gwasanaethau hynny yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, ond sydd bellach yn preswylio yng Nghymru, i fod yn gymwys ar gyfer asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer yr hawl a ddarperir yn adran 22 o'r Mesur.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 5 (ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”) o'r Mesur am ystyr gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.

(3)

Gweler adran 2 (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) ac adran 4 (methiannau i gytuno ar gynlluniau) o'r Mesur sy'n ymwneud â chynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol mewn ardaloedd awdurdod lleol.

(4)

Gweler adran 49 (ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur am ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources