Search Legislation

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 167 (Cy.26)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012

Gwnaed

20 Ionawr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Ionawr 2012

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), gan eu bod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried eu hamcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir yn y Gorchymyn hwn ac, yn unol ag adran 7(2), wedi iddynt gyflawni pa bynnag ymgynghori yr ymddengys iddynt ei fod yn briodol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012.

(2Daw erthygl 2(2)(b) ac (c) o'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011(3) i rym, a daw erthygl 2(2)(a) i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o'r Ddeddf honno i rym.

Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000

2.—(1Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000(4) fel a ganlyn.

(2Yn Rhan II o'r Atodlen,

(a)ar ôl paragraff 22A, mewnosoder y canlynol—

22B  Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002..

(b)ym mharagraff 23A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(c)ym mharagraff 23B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Ionawr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 (“Gorchymyn 2000”), o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011 (“Deddf 2011”) sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr (“CACLl”) ac yn darparu mewn perthynas â gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu.

Mae erthygl 2(2) yn diwygio Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn 2000 drwy ychwanegu paragraff 22B newydd sy'n darparu y bydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) yn cynnwys yn ei gofnodion delerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) yn gwahardd person rhag cyflawni gwaith addysgu. Mewnosodir adran 141B yn Neddf 2002 gan Ddeddf 2011.

Mae erthygl 2(2) hefyd yn diwygio paragraffau 23A a 23B o Ran II o'r Atodlen er mwyn dileu cyfeiriadau at CACLl.

(1)

1998 p. 30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys o ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources