- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
15 Medi 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Medi 2012
Yn dod i rym
10 Hydref 2012
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(2).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Maent yn dod i rym ar 10 Hydref 2012.
2.—(1) Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “brechlynnau anweithredol” (“inactivated vaccines”) yw brechlynnau nad ydynt yn frechlynnau byw a wanhawyd;”;
“ystyr “brechlynnau byw a wanhawyd” (“live attenuated vaccines”) yw brechlynnau a gynhyrchir drwy addasu arunigion maes firws y tafod glas drwy gyfres o dramwyfeydd mewn meithriniadau meinweoedd neu mewn wyau ieir embryonog;”.
(3) Yn lle rheoliad 3 (esemptiadau) rhodder—
“3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a)unrhyw beth y mae person wedi ei awdurdodi i'w wneud drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008(4);
(b)rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011(5).”
(4) Yn rheoliad 13 (cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau gwyliadwriaeth) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i barth gwyliadwriaeth a gafodd ei ddatgan gan Weinidogion Cymru beidio â chynnwys unrhyw dir lle y cafodd anifeiliaid eu brechu gan frechlynnau byw a wanhawyd yn erbyn y tafod glas o fewn y 12 mis diwethaf.
(1B) Ni chaiff neb frechu yn erbyn y tafod glas gan ddefnyddio brechlyn byw a wanhawyd mewn parth gwyliadwriaeth a gafodd ei ddatgan o dan y rheoliad hwn.”
(5) Yn lle Rhan 3 (brechu) rhodder—
17. Ni chaiff neb ac eithrio deiliad awdurdodiad marchnata, awdurdodiad gweithgynhyrchu neu awdurdodiad deliwr cyfanwerthu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011 gael gafael ar frechlyn ac eithrio at ddiben galluogi'r defnydd o frechlynnau o dan reoliad 19.
18. Ni chaiff neb frechu anifail yn erbyn y tafod glas ac eithrio yn unol â rheoliad 19.
19.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded benodedig neu drwydded gyffredinol sy'n caniatáu defnyddio brechlynnau anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd yn erbyn y tafod glas yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle y mae'n rhaid i unrhyw feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu brechu gan frechlynnau anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd a chydymffurfio ag unrhyw fesurau eraill sy'n ymwneud naill ai â brechu neu frechlyn a bennwyd yn y datganiad hwnnw.
(3) Pan fo parth wedi ei ddatgan o dan baragraff (2), caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd mangre neu i geidwad anifeiliaid ar fangre sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad hwnnw sicrhau brechu anifeiliaid yn y fangre â brechlynnau anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded o dan baragraff (1) neu ddatgan parth o dan baragraff (2) dim ond—
(a)os yw'r penderfyniad i ddefnyddio'r brechlyn wedi ei seilio ar ganlyniad asesiad risg penodedig a gyflawnwyd gan Weinidogion Cymru; a
(b)os hysbyswyd Comisiwn yr UE am y penderfyniad hwnnw cyn i'r brechu hwnnw gael ei wneud.
(5) Pryd bynnag y mae brechlynnau byw a wanhawyd i'w defnyddio, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan—
(a)parth gwarchod sy'n cynnwys o leiaf yr ardal frechu; a
(b)parth gwyliadwriaeth sy'n ymestyn y tu hwnt i derfynau'r parth gwarchod lle na chafodd unrhyw anifail ei frechu â brechlynnau byw a wanhawyd yn erbyn y tafod glas o fewn y 12 mis diwethaf.
(6) Ni chaiff neb frechu yn erbyn y tafod glas gan ddefnyddio brechlyn byw a wanhawyd mewn parth gwyliadwriaeth a gafodd ei ddatgan o dan y rheoliad hwn.”
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1090 (Cy.116)) (“Rheoliadau 2008”) drwy drosi Cyfarwyddeb 2012/5/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC o ran brechu yn erbyn y tafod glas (OJ Rhif L 81, 21.3.2012, t.1).
Mae rheoliad 2(4) yn ychwanegu dau baragraff newydd i reoliad 13 (cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau gwyliadwriaeth) sy'n ymwneud â gofynion ar gyfer parthau gwyliadwriaeth.
Mae rheoliad 2(5) yn amnewid Rhan 3 newydd (brechu). Mae rheoliad 17 yn dynodi'r cyfyngiadau sy'n ymwneud â chael gafael ar frechlynnau. Mae rheoliad 18 yn darparu gwaharddiad cyffredinol ar frechu. Mae rheoliad 19 yn gosod yr amgylchiadau a'r amodau pan fo brechu gorfodol a gwirfoddol yn erbyn y tafod glas yn gallu digwydd.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith newydd ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.
1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), adran 27(1)(a), a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7), Rhan 1 o'r Atodlen.
O.S. 2008/1270 (Cy.129), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: