- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR
Gwnaed
15 Medi 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
2. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Hydref 2012—
(a)Adran 3 (dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);
(b)Adran 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol);
(c)Adran 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill);
(d)Adran 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd);
(e)Adran 9 (cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol);
(f)Adran 10 (camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol);
(g)Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h)Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(i)Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j)Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(k)Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(l)Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; ac
(m)Adran 48 (dyletswydd i adolygu'r Mesur).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 1 Hydref 2012.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn gweddill Rhan 1 o'r Mesur sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Byrddau Iechyd Lleol a'r awdurdod lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol (“partneriaid iechyd meddwl lleol”) ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â chynllun y mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer yr ardal honno wedi cytuno arno neu a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru. Mae Rhan 1 o'r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol gwneud asesiad iechyd meddwl sylfaenol o unigolion mewn amgylchiadau penodol.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn gweddill darpariethau'r Mesur.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 2 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 4 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 5 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 11 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 12 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 13 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 14 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 15 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 16 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 17 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 18 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 19 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 20 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 21 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 22 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 23 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 24 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 25 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 26 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 27 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 28 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 29 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 30 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 31 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 32 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 33 | 2 Ebrill 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 34 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 35 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 36 | 2 Ebrill 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 37 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 38 | 2 Ebrill 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 39 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 40 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 41 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 42 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 43 | 8 Mai 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) | |
Adran 44 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 45 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 46 | 6 Mehefin 2012 | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 47 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | 2012/1397 (Cy.169) (C.52) |
Adran 53(1) | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 54 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Atodlen 1 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Atodlen 2 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) |
Gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: