- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Chwefror 2012.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “marchnata” (“marketing”) yw gwerthu, dal gyda golwg ar werthu, cynnig ar werth neu unrhyw waredu, cyflenwi neu drosglwyddo i drydydd partïon, sydd, ym mhob achos, yn amcanu i elwa'n fasnachol ar hadau, boed yn gyfnewid am gydnabyddiaeth ai peidio.
(2) Ond nid yw marchnata'n cynnwys masnachu nad yw'n amcanu i elwa'n fasnachol, megis—
(a)cyflenwi hadau i gyrff profi ac archwilio swyddogol; neu
(b)cyflenwi hadau i berson sy'n darparu gwasanaethau prosesu ond nad yw'n caffael teitl i'r hadau.
3.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)“Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom National List”) yw'r rhestr o amrywogaethau planhigion a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(1);
(b)y “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw'r catalog y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol(2) ac yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(3).
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae pob cyfeiriad at—
(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(4),
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(5),
(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(6),
(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(7),
(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau,
(dd)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, ac at ddibenion marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny(8),
(e)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny(9), ac
(f)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu'r amgylchedd naturiol(10),
yn gyfeiriadau at y Cyfarwyddebau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
4.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau'r planhigion yn y golofn gyntaf o'r tabl yn Atodlen 1, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu amaethyddol neu arddwriaethol, ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu defnyddio ar gyfer planhigion addurnol.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (ac eithrio rheoliad 26 sy'n ymwneud ag ardystio ar gyfer allforio).
5. Rhennir hadau i'r categorïau canlynol a adwaenir yn gyffredin yn ôl y talfyriadau a roddir—
(a)hadau bridiwr (“BR”);
(b)hadau cyn-sylfaenol (“PB”);
(c)hadau sylfaenol (“BS”);
(ch)hadau ardystiedig (“CS”);
(d)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (“C1”);
(dd)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (“C2”);
(e)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth (“C3”);
(f)hadau masnachol (“CM”);
(ff)hadau safonol (llysiau yn unig) (“ST”);
(g)hadau o safon wirfoddol uwch (“HVS”).
6. Hadau bridiwr yw hadau a gynhyrchir gan fridiwr, neu o dan gyfrifoldeb bridiwr ac y'u bwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol.
7. Ni cheir cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig y person a restrir fel cynheiliad yr hadau hynny yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.
8. Ni cheir marchnata hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fel hadau os nad ydynt—
(a)wedi eu hardystio o dan reoliadau 10 a 11 fel hadau o un o'r categorïau yn rheoliad 5;
(b)wedi eu pecynnu a'u selio yn unol â rheoliad 16;
(c)wedi eu labelu yn unol â rheoliad 17;
(ch)yn cael eu marchnata gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny yn unol â rheoliad 20.
9.—(1) Nid yw'r gofyniad i ardystio yn gymwys mewn perthynas â hadau bridiwr.
(2) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn â rheoliad 8.
10. Er mwyn eu hardystio o dan y Rheoliadau hyn fel un o'r categorïau yn rheoliad 5, rhaid i'r hadau fod—
(a)o amrywogaeth a gofnodwyd yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin;
(b)wedi eu tyfu o hadau sy'n gymwys ar gyfer cynhyrchu'r categori hwnnw yn unol ag Atodlen 2;
(c)yn dod o gnwd a archwiliwyd o dan y Rheoliadau hyn ac yr ardystiwyd ei fod yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 2;
(ch)wedi eu profi yn unol â'r Rheoliadau hyn.
11.—(1) Er mwyn eu hardystio, rhaid cofnodi sampl o'r hadau y caiff y cnwd ei gynhyrchu ohonynt gyda Gweinidogion Cymru, mewn da bryd er mwyn rhoi digon o amser i Weinidogion Cymru dyfu plot rheoli.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cofnodi sampl o'r hadau ar ôl yr amser hwnnw, ond mewn achos o'r fath, rhaid i'r cnwd a dyfir i gynhyrchu'r hadau gael ei archwilio gan arolygydd cnydau swyddogol yn unol â rheoliad 12.
(3) Rhaid i'r cnwd a ddefnyddir i gynhyrchu'r hadau gael ei archwilio gan arolygydd cnydau yn unol â'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r cnwd hwnnw yn Atodlen 2, a rhaid i'r arolygydd cnydau ardystio—
(a)bod y cnwd yn cyrraedd y safon ar gyfer y cnwd hwnnw a bennir yn Atodlen 2, neu
(b)bod y cnwd yn cyrraedd safon is, ond er hynny'n cyrraedd un o'r safonau yn Atodlen 2,
a chyflwyno adroddiad i'r perwyl hwnnw i Weinidogion Cymru.
(4) Caiff yr arolygydd cnydau ddynodi bod angen gwneud gwaith adferol neu gynnal archwiliad pellach cyn ardystio bod y cnwd yn cyrraedd y safon ofynnol.
(5) Unwaith y bydd y cnwd wedi ei gynaeafu a'i brosesu, rhaid i samplwr hadau trwyddedig gymryd sampl o'r hadau (gan ddefnyddio dulliau samplu rhyngwladol cyfredol, i'r graddau y maent yn bodoli) yn unol â'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r cnwd hwnnw yn Atodlen 2 (er mwyn osgoi amheuaeth, bydd meintiau y lotiau hadau a phwysau'r samplau yn cael eu pennu ym mhob un o'r Cyfarwyddebau yn yr Atodlen honno, sy'n ymdrin â'r hadau).
(6) Rhaid profi'r hadau mewn gorsaf brofi hadau (sydd naill ai wedi ei thrwyddedu neu'n cael ei gweithredu gan Weinidogion Cymru), a rhaid i'r orsaf honno brofi'r hadau (gan ddefnyddio dulliau samplu a phrofi rhyngwladol cyfredol, i'r graddau y maent yn bodoli) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r safonau ardystio yn Atodlen 2, a dyroddi adroddiad prawf hadau sy'n datgan y canlyniadau, a chyflwyno'r adroddiad hwnnw i Weinidogion Cymru.
12. Rhaid i archwiliad o gnwd ar gyfer ardystio gael ei gynnal gan arolygydd cnydau trwyddedig; ac eithrio archwiliad o—
(a)cnwd a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol, neu
(b)cnwd sy'n cynhyrchu hadau, pan gofnodir yr hadau o dan reoliad 11 yn rhy hwyr i ganiatáu i Weinidogion Cymru dyfu plot rheoli,
a rhaid i'r archwiliad, bryd hynny, gael ei gynnal gan arolygydd cnydau swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion archwiliadau o'r fath.
13. Ar yr adeg y cânt eu marchnata, rhaid i'r hadau gydymffurfio, o leiaf, â'r safonau yn Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r math hwnnw o hadau.
14. Er mwyn osgoi amheuaeth, os ardystiwyd bod cnwd neu hadau yn perthyn i un categori, ond y cnwd neu'r hadau yn cydymffurfio â gofynion categori arall ar gyfer yr hadau hynny, ceir ailraddio'r cnwd neu'r hadau fel unrhyw gategori y mae, neu y maent, yn bodloni'r gofynion ar ei gyfer.
15.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw brofion angenrheidiol ar yr hadau a gofnodir, ac yn benodol, rhaid iddynt dyfu'r hadau mewn plot rheoli.
(2) Os bydd y profion neu'r plot rheoli'n bodloni'r gofynion o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol, ni chymerir unrhyw gamau pellach.
(3) Fel arall, rhaid i Weinidogion Cymru gael rhagor o wybodaeth o gnydau a dyfir o'r hadau hynny ac, os penderfynant nad yw'r cnwd yn foddhaol, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd na cheir ardystio'r cnwd, neu fod rhaid ei israddio i gategori is.
16.—(1) Rhaid i'r holl hadau, ac eithrio hadau a werthir yn rhydd (ynglŷn â hynny gweler Rhan 5 o Atodlen 3), gael eu cyflenwi mewn pecynnau seliedig, gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny o dan reoliad 20.
(2) Rhaid i'r hadau a becynnir fod mewn lotiau unffurf.
(3) Rhaid i becyn gael ei selio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig.
(4) Rhaid i'r pecyn fod â system selio na ellir ei hailddefnyddio, neu gael ei selio mewn modd y byddai ei agor—
(a)yn difrodi'r system selio; neu
(b)yn gadael tystiolaeth o ymyrryd, naill ai ar y label neu ar y pecyn.
(5) Os agorir pecyn gan rywun ac eithrio'r defnyddiwr terfynol, rhaid ail-labelu'r pecyn a'i ailselio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig, a rhaid datgan, ar y label, y ffaith ei fod wedi ei ailselio, y dyddiad yr ailseliwyd ef ddiwethaf a'r awdurdod sy'n gyfrifol amdano.
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â marchnata pecynnau bach o hadau fel y'u diffinnir yn Atodlen 3.
17.—(1) Rhaid i'r holl hadau gael eu labelu yn unol ag Atodlen 3 gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny o dan reoliad 20.
(2) Ni chaiff neb atgynhyrchu, tynnu ymaith, newid, difwyno, cuddio na chamddefnyddio mewn unrhyw ffordd unrhyw label a gynhyrchwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
18. Ni cheir marchnata cymysgedd o hadau onid yw'r cymysgedd yn un a ganiateir o dan y tabl canlynol.
Pennawd colofn | Betys | Ydau | Porthiant | Olew a ffibr | Llysiau | Hadau y tu allan i gwmpas y Rheoliadau hyn |
---|---|---|---|---|---|---|
a Caniateir cymysgedd o amrywogaethau o un rhywogaeth o hadau ŷd os, yn unig, yw'n effeithiol yn erbyn lledaenu organeb niweidiol. Rhaid i'r hadau i gyd gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn cyn eu cymysgu. | ||||||
b Rhaid marchnata cymysgedd o hadau safonol o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth mewn pecyn sy'n cynnwys dim mwy na 5kg o hadau (yn achos codlysiau), 500g o hadau (yn achos merllys, betys coch, moron, dail betys neu fetys ysbigoglys, gowrdiau, maros, nionod, radis, ysbigoglys neu faip) neu 100g o hadau (yn achos unrhyw rywogaeth arall). | ||||||
Betys | Na cheir | Na cheir | Na cheir | Na cheir | Na cheir | Na cheir |
Ydau | Na cheir | Ceira | Ceir | Na cheir | Na cheir | Na cheir |
Porthiant | Na cheir | Ceir | Ceir | Ceir | Ceir | Ceir |
Olew a ffibr | Na cheir | Na cheir | Ceir | Na cheir | Na cheir | Na cheir |
Llysiau | Na cheir | Na cheir | Ceir | Na cheir | Ceirb | Na cheir |
19.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n—
(a)marchnata hadau,
(b)yn pecynnu, selio, labelu, ailbecynnu, ailselio neu ail-labelu hadau i'w marchnata,
(c)yn paratoi cymysgeddau o hadau i'w marchnata, neu
(ch)yn glanhau, trin neu brosesu rywfodd arall hadau y bwriedir eu marchnata,
wneud cofnodion (naill ai mewn ysgrifen neu'n electronig) sy'n ddigonol i greu trywydd archwilio, fel gellir darganfod hunaniaeth a tharddiad unrhyw hadau sy'n cael eu marchnata, neu'r ymdrinnir â hwy rywfodd arall yn ystod y gweithrediad.
(2) Rhaid cadw'r cofnodion am 3 blynedd o leiaf, a'u dangos os gofynnir am eu gweld, i un o swyddogion Gweinidogion Cymru (yn achos cofnodion electronig, rhaid darparu allbrint).
20.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithrediadau canlynol fod wedi ei drwyddedu i wneud hynny gan Weinidogion Cymru—
(a)marchnata hadau;
(b)pecynnu, selio neu labelu hadau;
(c)ailbecynnu, ailselio neu ail-labelu hadau;
(ch)paratoi cymysgeddau o hadau i'w marchnata;
(d)glanhau, trin neu brosesu mewn unrhyw ffordd arall hadau y bwriedir eu marchnata.
(2) Ond nid yw'r gofyniad am drwydded yn gymwys mewn perthynas â marchnata—
(a)pecynnau bach o hadau fel y'u diffinnir yn Atodlen 3;
(b)hadau nad ydynt wedi eu pecynnu; neu
(c)hadau, fel y'u tyfwyd, ar gyfer prosesu, ar yr amod y sicrheir hunaniaeth yr hadau o dan baragraff 2 o Atodlen 4.
21.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu arolygwyr cnydau, samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau i weithredu o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Cyn trwyddedu arolygydd cnydau neu samplwr hadau, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y person yn gymwys i weithredu fel y cyfryw, ac wedi pasio arholiad a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Cyn trwyddedu gorsaf brofi hadau, rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain bod gan yr orsaf fangre ddigonol, personél cymwysedig a chyfarpar ar gyfer profi at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Caiff arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a drwyddedwyd godi ffioedd rhesymol am ymgymryd â swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ond ni chânt ennill unrhyw elw preifat mewn cysylltiad â chyflawni'r cyfryw swyddogaethau.
22.—(1) Rhaid i drwydded fod yn ysgrifenedig, a cheir ei gwneud yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
23.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu ardystiad yn ôl oddi ar unrhyw hadau os bodlonir hwy—
(a)bod yr hadau, neu'r hadau y tyfwyd ohonynt y cnwd a gynhyrchodd yr hadau, wedi eu samplu yn anghywir;
(b)nad oedd y cnwd y cynaeafwyd yr hadau ohono yn bodloni'r amodau yn Atodlen 2; neu
(c)nad oedd yr hadau—
(i)yn bodloni'r amodau yn Atodlen 2 pan brofwyd hwy; neu
(ii)nad ydynt bellach yn bodloni'r amodau hynny.
(2) Os tynnir ardystiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd.
(3) O fewn 7 diwrnod ar ôl ei hysbysu, rhaid i'r ceisydd hysbysu unrhyw berson y gwerthwyd neu y cyflenwyd yr hadau iddo.
24.—(1) Rhaid i sampl o hadau a gymerir at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn gael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, a rhaid iddo rannu'r sampl yn dair rhan.
(2) Rhaid rhoi un rhan i berchennog yr hadau (neu gynrychiolydd y perchennog) a rhaid anfon y ddwy ran arall i orsaf brofi swyddogol, un ar gyfer profi a'r llall i'w chadw hyd nes ei dangos gerbron llys yn unol ag adran 26(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(11).
25.—(1) At ddibenion adran 26(3) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o'r modd y cymerwyd sampl at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn—
(a)cyfeirio at y Rheoliadau hyn, ac ardystio bod y sampl wedi ei gymryd a'i drin yn unol â rheoliad 24;
(b)pennu—
(i)enw a chyfeiriad y person a gymerodd y sampl;
(ii)y fangre lle y cymerwyd y sampl;
(iii)y math o hadau a samplwyd;
(iv)y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(v)rhif cyfeirnod y lot o hadau;
(vi)y maint a samplwyd.
(2) At ddibenion adran 24(5) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o ganlyniad prawf a wnaed mewn gorsaf brofi hadau swyddogol, ar sampl a gymerwyd gan swyddog awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno—
(a)cyfeirio at y Rheoliadau hyn;
(b)enwi'r hadau a brofwyd;
(c)cynnwys yr holl ganlyniadau prawf mewn perthynas â'r safon ofynnol ar gyfer yr hadau hynny.
26. Caiff Gweinidogion Cymru ardystio ansawdd unrhyw hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
27.—(1) Rhaid labelu hadau a fewnforir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gyda label a gymeradwyir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd(12) ar gyfer yr ardystiad amrywogaethol ar reolaeth hadau a symudir mewn masnach ryngwladol.
(2) Os bwriedir lluosi'r hadau ymhellach, rhaid i'r person sy'n bwriadu eu lluosi gyflwyno sampl i Weinidogion Cymru yn gyntaf, ar gyfer ei wirio.
(3) Rhaid i berson sy'n marchnata hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad ac sydd â'u pwysau'n fwy na dau gilogram, gyflenwi i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen ac o fewn un mis ar ôl marchnata'r hadau am y tro cyntaf, y manylion canlynol ynglŷn â'r hadau—
(a)y rhywogaeth;
(b)yr amrywogaeth;
(c)y categori;
(ch)y wlad lle'u cynhyrchwyd a'r awdurdod archwilio swyddogol;
(d)y wlad y'u hanfonwyd ohoni;
(dd)y mewnforiwr; ac
(e)y maint o hadau.
28.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan Weinidogion Cymru i—
(a)amrywio, atal dros dro, dirymu neu wrthod caniatáu trwydded arolygydd cnydau, samplwr hadau, gorsaf brofi hadau, neu berson y mae arno angen trwydded o dan reoliad 20,
(b)gwrthod ardystio hadau,
(c)tynnu ardystiad hadau yn ôl,
o fewn 21 diwrnod ar ôl ei hysbysu o'r penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad, i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod ynghyd ag argymhelliad ar sut i weithredu.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn wneud penderfyniad terfynol a hysbysu'r apelydd, ynghyd â'r rhesymau.
29. Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol am unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.
30. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 217/2006 sy'n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/54/EC, 2002/55/EC a 2002/57/EC mewn perthynas ag awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ganiatáu dros dro farchnata hadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion o ran yr egino lleiaf(13).
31. Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â datgelu'r disgrifiad o gydrannau achyddol hadau, os yw bridiwr yr hadau yn gofyn iddynt beidio â'i ddatgelu.
32.—(1) Ceir marchnata yng Nghymru unrhyw hadau a ardystiwyd mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig.
(2) Caiff arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a drwyddedwyd i weithredu fel y cyfryw mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.
33.—(1) Mae arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(14) yn parhau wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae person y mae'n ofynnol iddo fod yn drwyddedig o dan reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn, ac a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, yn drwyddedig o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005, yn awr yn drwyddedig i weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a hysbysir gan Weinidogion Cymru, a bydd yn parhau'n drwyddedig oni chaiff y drwydded ei hatal dros dro neu'i dirymu'n ddiweddarach gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.
34. Dirymir y Rheoliadau canlynol—
(a)Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004(15);
(b)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005(16);
(c)Rheoliadau Hadau ŷd (Cymru) 2005(17);
(ch)Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005(18);
(d)Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005(19);
(dd)Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(20);
(e)Rheoliadau Hadau ŷd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006(21);
(f)Rheoliadau Hadau (Cymru) (Diwygiadau ar gyfer Cynnal Profion a Threialu etc.) 2007(22);
(ff)Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywogaethau Cadwraeth) (Cymru) 2009(23);
(g)Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010(24);
(ng)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011(25).
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2012
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: