- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Dangosydd | Indicator |
---|---|---|
DP 1/ PI 1 | Canran yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion lle y mae'r risg wedi ei rheoli. | The percentage of adult protection referrals where the risk has been managed. |
DP 2/ PI 2 | Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi cael tri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn. | The percentage of children looked after on 31 March who have had three or more placements during the year. |
DP 3/ PI 3 | Canran y plant 16/17 oed wedi eu targedu sydd â chynllun llwybr. | The percentage of targeted 16/17 year old children with a pathway plan. |
DP 4/ PI 4 | Canran y plant y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu gweld ar eu pennau eu hunain wrth eu hasesu. | The percentage of children who are seen alone by social workers at assessment. |
DP 5/ PI 5 | Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd. | The rate of delayed transfers of care for social care reasons per 1,000 population aged 75 or over. |
DP 6/ PI 6 | Cyfradd; (a) y bobl hŷn (sy'n 65 oed neu drosodd) y rhoddir cymorth iddynt yn y gymuned fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth; (b) y bobl hŷn (sy'n 65 oed neu drosodd) y mae'r awdurdod yn rhoi cymorth iddynt mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth. | The rate of; (a) older people (aged 65 or over) supported in the community per 1,000 population aged 65 or over at 31 March; (b) older people (aged 65 or over) whom the authority supports in care homes per 1,000 population aged 65 or over at 31 March. |
DP 7/ PI 7 | Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a chanddynt brofiad o symud ysgol unwaith neu ragor yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, ac nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. | The percentage of looked after children at 31 March who have experienced one or more changes of school during a period or periods of being looked after, which were not due to transitional arrangements, in the 12 months to 31 March. |
DP 8/ PI 8 | Cyfartaledd y sgôr pwyntiau mewn cysylltiad â chymwysterau allanol plant 16 oed sy'n derbyn gofal mewn unrhyw leoliadau dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol. | The average external qualifications point score for 16 year old looked after children in any local authority maintained learning settings. |
DP 9/ PI 9 | Canran; (a) y bobl ifanc a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ac y mae'r awdurdod mewn cysylltiad â hwy a hwythau'n 19 oed; (b) y bobl ifanc a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ac y mae'r awdurdod mewn cysylltiad â hwy, ac y gwyddys eu bod mewn llety addas, nad yw'n llety argyfwng a hwythau'n 19 oed; (c) y bobl ifanc a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ac y mae'r awdurdod mewn cysylltiad â hwy, ac y gwyddys eu bod yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a hwythau'n 19 oed. | The percentage of; (a) young people formerly looked after with whom the authority is in contact at the age of 19; (b) young people formerly looked after with whom the authority is in contact, and at the age of 19 who are known to be in suitable non-emergency accommodation; (c) young people formerly looked after with whom the authority is in contact, and at the age of 19 who are known to be engaged in education, training or employment. |
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Dangosydd | Indicator |
---|---|---|
DP 10/ PI 10 | Canran yr holl aelwydydd a allai fod yn ddigartref ac yr ataliwyd iddynt fod yn ddigartref am 6 mis o leiaf. | The percentage of all potentially homeless households for whom homelessness was prevented for at least 6 months. |
DP 11/ PI 11 | Nifer y diwrnodau calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i roi Grant Cyfleusterau i'r Anabl. | The average number of calendar days taken to deliver a Disabled Facilities Grant. |
DP 12/ PI 12 | Nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn fel canran yr holl unedau tai ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn. | The number of additional affordable housing units provided during the year as a percentage of all additional housing units provided during the year. |
DP 13/ PI 13 | Canran yr anheddau sector preifat a oedd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis ar 1 Ebrill ac a feddiannwyd eto yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i weithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol. | The percentage of private sector dwellings that had been vacant for more than 6 months at 1 April that were returned to occupation during the year through direct action by the local authority. |
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Dangosydd | Indicator |
---|---|---|
DP 14/ PI 14 | Canran y disgyblion a asesir ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd, fel y'i penderfynir gan Asesiadau Athrawon. | The percentage of pupils assessed at the end of Key Stage 2, in schools maintained by the local authority, achieving the Core Subject Indicator, as determined by Teacher Assessment. |
DP 15/ PI 15 | Canran y disgyblion a asesir, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. | The percentage of pupils assessed, in schools maintained by the local authority, receiving a Teacher Assessment in Welsh (first language) at the end of Key Stage 3. |
DP 16/ PI 16 | Canran y disgyblion 15 oed ar yr 31 Awst blaenorol, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a gyflawnodd drothwy Lefel 2 gan gynnwys TGAU gradd A*-C yn y Gymraeg fel iaith gyntaf neu Saesneg a mathemateg. | The percentage of pupils aged 15 at the preceding 31 August, in schools maintained by the local authority who achieved the Level 2 threshold including a GCSE grade A*-C in English or Welsh first language and mathematics. |
DP 17/ PI 17 | Canran: (a) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rhai sydd yng ngofal awdurdod lleol); a (b) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, a hwythau'n 15 oed ar yr 31 Awst blaenorol ac sy'n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb fod ganddynt gymhwyster allanol a gymeradwywyd. | The percentage of: (a) all pupils (including those in local authority care); and (b) pupils in local authority care, in any local authority maintained school, aged 15 at the preceding 31 August who leave compulsory education, training or work-based learning without an approved external qualification. |
DP 18/ PI 18 | Cyfartaledd y sgôr pwyntiau ar gyfer disgyblion sy'n 15 oed ar yr 31 Awst blaenorol, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol. | The average point score for pupils aged 15 at the preceding 31 August, in schools maintained by the local authority. |
DP 19/ PI 19 | Canran y datganiadau terfynol o anghenion addysgol arbennig a ddyroddir ymhen 26 o wythnosau; (a) gan gynnwys eithriadau; a (b) heb gynnwys eithriadau. | The percentage of final statements of special education needs issued within 26 weeks; (a) including exceptions; and (b) excluding exceptions. |
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Dangosydd | Indicator |
---|---|---|
DP 20/ PI 20 | Canran y gwastraff trefol a gesglir gan awdurdodau lleol ac a baratoir ar gyfer ei ailddefnyddio a/neu ei ailgylchu, gan gynnwys deunyddiau biowastraff wedi eu gwahanu yn eu tarddle ac a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall. | The percentage of municipal waste collected by local authorities and prepared for reuse and/or recycled, including source-segregated biowastes that are composted or treated biologically in another way. |
DP 21/ PI 21 | Canran y gwastraff trefol a gesglir gan awdurdodau lleol ac a anfonir i safle tirlenwi. | The percentage of municipal waste collected by local authorities sent to landfill. |
DP 22/ PI 22 | Canran yr achosion o dipio gwastraff yn anghyfreithlon y rhoddir gwybod amdanynt ac y clirir y gwastraff ymhen 5 niwrnod gwaith. | The percentage of reported fly tipping incidents cleared within 5 working days. |
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Dangosydd | Indicator |
---|---|---|
DP 23/ PI 23 | Canran yr oedolion sy'n 60 oed neu drosodd sydd â cherdyn teithio rhatach ar y bws. | The percentage of adults aged 60 or over who hold a concessionary bus pass. |
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Dangosydd | Headline indicator |
---|---|---|
DP 24/ PI 24 | Nifer yr ymweliadau â chanolfannau chwaraeon a hamdden awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn fesul 1,000 o'r boblogaeth, pan fydd yr ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. | The number of visits to local authority sport and leisure centres during the year per 1,000 population, where the visitor will be participating in physical activity. |
DP 25/ PI 25 | Nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn fesul 1,000 o'r boblogaeth. | The number of visits to public libraries during the year per 1,000 population. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: