Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 26/07/2018

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/09/2017.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2705 (Cy.291)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Gwnaed

27 Hydref 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Hydref 2012

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(4) neu i unrhyw Atodiad i'r offerynnau UE eraill a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod yr egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Tachwedd 2012.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “Cyfarwyddeb 84/500/EEC” (“Directive 84/500/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(8);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

[F1“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;]

ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(9);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(10);

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(11);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(12);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu Reoliad 10/2011 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y CwmpasLL+C

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y deunyddiau a'r eitemau hynny a bennir ym mharagraff (3) Erthygl 1 (diben a phwnc) o Reoliad 1935/2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CGofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004LL+C

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).

(2Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).

(3Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi Cymunedol) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.

(4Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Trosedd mynd yn groes i Erthygl 4 yn Rheoliad 2023/2006LL+C

5.  Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004 a Rheoliad 2023/2006LL+C

6.—(1Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—

(a)o ran Erthyglau 9 (cais am awdurdodi sylwedd newydd) a 13 (awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau), yr Asiantaeth Safonau Bwyd; a

(b)o ran Erthyglau 16(1) (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CY Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Gweithredol a Deallus

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009LL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 14 (dod i rym a chymhwyso) o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n weithredol neu'n ddeallus ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 4 o'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.

F2(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009LL+C

8.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CY gofynion ar gyfer Eitemau Ceramig

Dehongli'r Rhan honLL+C

9.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem y mae Rheoliad 1935/2004 yn gymwys iddi yn rhinwedd ei Erthygl 1(2) fel y'i darllenir gydag 1(3) a honno'n eitem—

(i)a weithgynhyrchwyd o gymysgedd o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y mae'n bosibl bod meintiau bach o ddeunyddiau organig wedi eu hychwanegu atynt,

(ii)sy'n cael ei siapio'n gyntaf a bod y siâp a geir drwy hyn wedi ei osod yn barhaol drwy ei thanio, a

(iii)y gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno; a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o Gyfarwyddeb 84/500/EEC neu'r Atodiad hwnnw iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfeddLL+C

10.—(1Rhaid i'r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig beidio â mynd dros y terfynau a osodir yn Atodlen 2(4) fel y'i darllenir gydag Erthygl 2(3) a (5).

(2Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, mae cydymffurfedd â pharagraff (1) i'w benderfynu drwy gynnal profion a thrwy ddadansoddi yn unol ag Atodiadau I a II.

(3Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y'i darllenir gyda pharagraff (2).

(4Rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig sy'n cydymffurfio â pharagraff (5) i fynd gyda'r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

(5Rhaid i'r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan berson sydd wedi ymsefydlu yn yr UE ac a roddodd yr eitem geramig ar y farchnad a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodiad III.

(6Rhaid i berson sy'n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i'r UE drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig sy'n dangos cydymffurfedd â gofynion paragraff (1), gan gynnwys—

(a)canlyniadau'r dadansoddi a wnaed;

(b)amodau'r prawf; ac

(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(7Nid yw paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran eitem geramig sy'n ail law.

(8Nid yw'r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (6)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CY Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Dehongli'r Rhan honLL+C

11.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;

(b)ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;

(c)ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a

(d)ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.

(2Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—

(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.

(3Ac eithrio yn rheoliad 12(3), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Rheolaethau a therfynauLL+C

12.—(1Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad II (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr Atodiad hwnnw ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn Atodiad II gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—

(a)fel lliwiau a phigmentau; neu

(b)fel adlynion,

ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.

(2Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn y rhan gyntaf o Atodiad II yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn y rhan honno.

(3Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.

(4Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.

(5Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.

(6Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.

(7Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.

(8Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5)F3... neu (7).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 6LL+CY Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Plastig

Dehongli Rhan 6 [F4ac Atodlen 1] LL+C

13.  Yn y Rhan hon ac yn [F5Atodlen 1] mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 10/2011 neu'r Atodiad hwnnw iddo.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011LL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a nodir yn Erthygl 22(4) a (5) ac Erthygl 23(13), bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem blastig nad yw'n cydymffurfio â gofyniad yn Rheoliad 10/2011 a bennir yng ngholofn 1 [F6o Atodlen 1] yn euog o drosedd.

F7(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011LL+C

[F815.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau 8 ac 16(1) o Reoliad 10/2011 yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 7LL+CY gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)LL+C

16.—(1Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)mae [F9paragraff (2)] yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(14).

(2Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)(15), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

F10(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) F11...yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005LL+C

17.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 8LL+CY Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

18.—(1O ran deunyddiau ac eitemau, ac eithrio'r deunyddiau ac eitemau hynny a reolir gan Reoliad 10/2011, a weithgynhyrchir gan bolymerau neu gopolymerau finyl clorid—LL+C

(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid y mae ei faint yn fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu'r eitem; a

(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(2Ni chaiff unrhyw berson—

(a)rhoi ar y farchnad; neu

(b)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 9LL+CGorfodi

Troseddau a chosbauLL+C

19.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) F12..., 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.

F13(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.

[F14(5) Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

(a)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), neu 16(4)—

(i)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

(ii)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

(b)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.]

(6Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.

Gweithredu a gorfodiLL+C

20.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—

(a)Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 450/2009 a Rheoliad 10/2011; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.

[F15(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004;

(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009; ac

(c)Erthygl 16(1) o Reoliad 10/2011.]

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a bennwyd yn rheoliad 5 a'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau AlbanaiddLL+C

21.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, sef—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r trosedd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r trosedd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred trydydd partiLL+C

22.  Pan fo trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r trosedd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r trosedd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadauLL+C

23.—(1Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r trosedd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y trosedd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i drosedd o dan reoliad F16... 19(2) neu (3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cyffredinolLL+C

24.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (“y cyhuddedig”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y trosedd yn cael ei gyflawni ganddo neu gan berson a oedd o dan ei reolaeth.

(2Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid cymryd bod person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan reoliad 4(3), 7(1), 14(1), 16(4) neu 19(1) ac nad oedd wedi mewnforio na pharatoi'r deunydd neu'r eitem yr honnir bod y trosedd wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef neu hi wedi cadarnhau'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os bydd gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi eu bodloni.

(3Bydd gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)naill ai—

(i)bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad o'r fath, ar y deunydd neu'r eitem o dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno iddo; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, adeg cyflawni'r trosedd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os yw'r trosedd yn drosedd rhoi ar y farchnad ac os profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)nad oedd y weithred o roi ar y farchnad a ffurfiodd y trosedd wedi ei wneud o dan enw neu farc y cyhuddedig; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod adeg cyflawni'r trosedd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, onid yw—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r cyhuddedig wedi ymddangos o'r blaen gerbron y llys mewn cysylltiad â'r trosedd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa wybodaeth bynnag a oedd yn ei feddiant ar y pryd ar gyfer adnabod y person arall hwnnw neu fel cymorth i'w adnabod.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fydd sampl i'w dadansoddiLL+C

25.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid i bob lot gael ei thrin fel pe bai'n rhan.

(3Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a)gosod pob rhan, os bydd angen gwneud hynny, mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b)marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)rhoi un rhan, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i'r perchennog, a'i hysbysu mewn ysgrifen y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(d)cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac

(e)dal ei afael ar un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 26.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y LlywodraethLL+C

26.—(1Pan fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 25(3)(e) a bod—

(a)bwriad i achos cyfreithiol gael ei gychwyn neu iddo fod wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd yn rheoliad 25,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff, o'i wirfodd ei hun; neu

(b)rhaid iddo—

(i)os bydd yr erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) yn gofyn iddo wneud hynny,

(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y cyhuddedig yn gofyn iddo wneud hynny,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.

(5Yn union ar ôl i'r swyddog awdurdodedig gael tystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth, rhaid iddo ddarparu copi ohoni i'r erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) ac i'r cyhuddedig.

(6Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad mewn ysgrifen i'r cyhuddedig yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y cyhuddedig yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “y cyhuddedig” (“the accused”) yn cynnwys person y mae swyddog awdurdodedig yn bwriadu cychwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r DdeddfLL+C

[F1727.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)rheoliadau 10(4), 10(6) a 12(6);

(ii)Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004;

(iii)Erthygl 5 o Reoliad 1895/2005;

(iv)Erthyglau 12 a 13 o Reoliad 450/2009; a

(v)ail frawddeg Erthygl 8, Erthygl 15 fel y’i darllenir gydag Atodiad IV, ac Erthygl 16 o Reoliad 10/2011; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 10LL+CCyffredinol ac atodol

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990LL+C

28.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(16), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt)—

(a)hepgorer enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(17); a

(b)yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010(18) rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996LL+C

29.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(19) wedi eu diwygio'n unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle'r diffiniad o “ingredient”, rhodder y diffiniad a ganlyn—

“ingredient” means—

(a)

any substance, including any additive or food enzyme and any constituent of a compound ingredient, which is used in the preparation of a food and which is still present in the finished product, even if in altered form; or

(b)

any released active substance within the meaning of Article 3(f) of Commission Regulation (EC) No. 450/2009 on active and intelligent materials and articles intended to come into contact with food,

and a “compound ingredient” is composed of two or more such substances;.

(3Bydd paragraffau (1) a (2) yn dirwyn i ben ar 13 Rhagfyr 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

30.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006(20);

(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(21);

(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010(22);

(d)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011(23).

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2012

Rheoliad 14(1)

[F18Atodlen 1] LL+CDarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y ddarpariaeth benodedigY pwnc
Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad
Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 8, y frawddeg gyntafSafonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad ICyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad IICyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig
[F19Erthygl 11(1) ac Atodiad I, fel y’u darllenir gydag Erthygl 11(3) a (4)]Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd
Erthygl 12Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd
Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig
Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen
F20. . .F20. . .

Rheoliad 27

[F21ATODLEN 2LL+C

RHAN 1LL+CAddasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—LL+C

(1) If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the authorised officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the authorised officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

(1A) The provisions referred to in subsection (1) are—

(a)regulations 10(4), 10(6) and 12(6) of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012;

(b)Article 16 of Regulation 1935/2004;

(c)Article 5 of Regulation 1895/2005;

(d)Articles 12 and 13 of Regulation 450/2009; and

(e)the second sentence of Article 8, Article 15 as read with Annex IV, and Article 16 of Regulation 10/2011.

RHAN 2LL+CCymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf

Colofn 1

Darpariaeth y Ddeddf

Colofn 2

Yr addasiad

Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 30(6) ac (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 32 (pwerau mynediad)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd), rhodder “section 10(1) of this Act as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012 shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.

Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

“Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, may appeal to a magistrates’ court.”

Yn is-adran (6)—

yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; ac

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution.”.]

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu'r Cyfarwyddebau canlynol a gorfodi'r Rheoliadau UE canlynol—LL+C

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 78/142/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys monomer finyl clorid ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L44, 15.2.1978, t.15) (“Cyfarwyddeb 78/142/EEC”);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12) (“Cyfarwyddeb 84/500/EEC”);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (“Cyfarwyddeb 2007/42/EC”);

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (“Rheoliad 1935/2004”);

(e)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar y defnydd o ddeilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28) (“Rheoliad 1895/2005”);

(f)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (“Rheoliad 2023/2006”);

(g)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (“Rheoliad 450/2009”); ac

(h)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L12, 15.1.2011, t.1) (“Rheoliad 10/2011”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/481 (Cy.49)). Maent hefyd yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda rhai diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1704 (Cy.166)) a Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2288 (Cy.200)).LL+C

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn UE penodedig neu at rannau penodedig ohono i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu rannau ohono fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).LL+C

4.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, deunyddiau gorchuddio neu araenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef ac offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dŵr.LL+C

5.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i ofynion penodol yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4) a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd.LL+C

6.  Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliad 6).LL+C

7.  Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7) ac yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad hwnnw (rheoliad 8).LL+C

8.  Mae Rhan 4 yn gweithredu Cyfarwyddeb 84/500/EEC, ac mae'r diffiniad o eitem geramig wedi ei nodi yn rheoliad 9. Mae'n darparu na chaiff unrhyw berson roi eitem geramig ar y farchnad nad yw'n bodloni'r manylebau a nodir yn y Gyfarwyddeb (rheoliad 10). Mae'r rheoliad hwn yn cynnwys yn ychwanegol ofynion sy'n ymwneud â phrawf dogfennol o gydymffurfedd sy'n gymwys i eitemau ceramig newydd ond nid i eitemau ceramig ail-law.LL+C

9.  Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42/EC, yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig ac mae'n nodi'r mathau amrywiol o gaen y mae'r darpariaethau yn gymwys iddynt (rheoliad 11). Mae'r Rhan hon, yn rheoliad 12, yn cynnwys amodau sy'n ymwneud â'r sylweddau y caniateir eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig (paragraffau (1) i (4)), yn pennu bod rhaid i wyneb printiedig y caen atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwyd (paragraff (5)) ac yn pennu gofynion penodol o ran dogfennaeth a labelu (paragraffau (6) a (7)).LL+C

10.  Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 10/2011 ac yn nodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad yr UE y mae'n drosedd i fynd yn groes iddynt (rheoliad 14 a'r Atodlen). Mae'r awdurdodau cymwys, at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 10/2011 wedi eu dynodi yn rheoliad 15.LL+C

11.  Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer parhau i orfodi Reoliad 1895/2005 sy'n cadw gwaharddiad ar y deilliadau epocsi BFDGE a NOGE a chyfyngu ar ddefnyddio BADGE (rheoliad 16). Mae'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad UE hwn wedi eu dynodi yn rheoliad 17.LL+C

12.  Mae Rhan 8 yn cadw'r rheolaethau ar ddefnyddio finyl clorid a sefydlwyd gan Gyfarwyddeb 78/142/EEC i'r graddau nad yw Rheoliad 10/2011 yn effeithio bellach ar y rheolaethau hynny (rheoliad 18).LL+C

13.  Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau gorfodi a darpariaethau cysylltiedig—LL+C

(a)sy'n rhoi cosb am fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i'r rhai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 19);

(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer y swyddogaethau amrywiol o dan y Rheoliadau (rheoliad 20);

(c)sy'n darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau a gyflawnwyd gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 21);

(d) sy'n darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 22);

(e)sy'n pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 23);

(f)sy'n darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn trosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 24);

(g)sy'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 25);

(h)sy'n darparu ar gyfer dadansoddi sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 26); ac

(i)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 27).

14.  Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ac atodol—LL+C

(a)sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 28);

(b)sy'n cadw diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499) ac yn darparu bod y diwygiad hwnnw yn dod i ben ar ddyddiad pan fydd darpariaethau labelu bwyd yr UE, sy'n uniongyrchol gymwysadwy, yn cael effaith (rheoliad 29); ac

(c)sy'n darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau penodedig (rheoliad 30).

15.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.LL+C

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51) ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

(4)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2008 (OJ Rhif L86, 28.3.2008, t.9).

(5)

OJ Rhif. L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC (OJ Rhif L110, 30.4.2005, t.36).

(8)

OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi a hynny heb ddiwygio pellach Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.

(9)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.

(10)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.

(11)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.

(12)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(13)

Mae Erthygl 22(4) yn darparu bod yn rhaid i ychwanegion penodol a ddefnyddir mewn seis ffibr gwydr gael eu hasesu o dan Erthygl 19 a hynny hyd 31 Rhagfyr 2015. Mae Erthygl 22(5) yn darparu y caniateir i ddeunyddiau ac eitemau a roddwyd yn gyfreithlon ar y farchnad cyn 1 Mai 2011 gael eu rhoi ar y farchnad hyd 31 Rhagfyr 2012. Mae Erthygl 23 yn darparu, o ran y mathau penodol o ddefnydd a wneir ar ychwanegion, fod Erthygl 5 yn gymwys o 31 Rhagfyr 2015 ymlaen a bod darpariaethau Erthygl 18(2) a (4) ac Erthygl 20 yn gymwys o 31 Rhagfyr 2012 ymlaen.

(14)

Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.

(15)

Mae Erthygl 6(1) a (2) yn darparu ar gyfer y trefniadau trosiannol ar gyfer cymhwyso Erthyglau 2, 3 a 4 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig; mae Erthygl 6(4) yn caniatáu marchnata deunyddiau ac erthyglau penodedig os caiff gofynion penodol o ran labelu eu bodloni.

(16)

O.S. 1990/2463, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/481 (Cy.49) ac O.S. 2010/2288 (Cy.200); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(19)

O.S. 1996/1499. Yr oedd y diffiniad o “ingredient” wedi ei ddiwygio o'r blaen gan O.S. 2009/3377 (Cy.299) ac O.S. 2010/2288 (Cy.200).

(20)

O.S. 2006/1704 (Cy.166), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources