RHAN 5LL+CY Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig
Dehongli'r Rhan honLL+C
11.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;
(b)ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;
(c)ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a
(d)ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.
(2) Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—
(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu
(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,
ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.
(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Rheolaethau a therfynauLL+C
12.—(1) Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn [Atodlen 6] (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr [Atodlen honno] ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn [Atodlen 6] gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—
(a)fel lliwiau a phigmentau; neu
(b)fel adlynion,
ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.
(2) Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn [Nhabl 1 o Atodlen 6 ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau yn y Tabl hwnnw].
(3) Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.
(5) Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.
(6) Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.
(7) Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.
(8) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5)... neu (7).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn