DehongliLL+C
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
...
ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd();
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;
[ystyr “Rheoliad 2018/213” (“Regulation 2018/213”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd;]
[“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;]
ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd();
ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd();
ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd();
ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC();
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 [, Rheoliad 10/2011 neu Reoliad 2018/213] yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn