Search Legislation

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 282 (Cy.46)

Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

3 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Chwefror 2012

Yn dod i ry

29 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(1) a (2) a 10(2) o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Chwefror 2012.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen, yn y golofn ar yr ochr dde (Awdurdodau Lleol) yn y testun Cymraeg, gyferbyn â “Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr” yn y golofn ar yr ochr chwith (Bwrdd Iechyd Lleol), ar ôl “Sir y Fflint” mewnosoder “, Gwynedd”.

Dirymu

3.  Mae rheoliad 9(7) o Reoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Chwefror 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i gywiro gwall golygu yn Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”).

Mae Rheoliadau 2011 yn gymwys i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cyfeirir at y rhain fel “awdurdodau dynodedig”. Mae Rheoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru a'r awdurdodau lleol sy'n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda'i gilydd i lunio a chyhoeddi strategaeth sy'n nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Roedd rheoliad 9(7) o Rheoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau dynodedig i gyhoeddi'u strategaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 9(7) o Reoliadau 2011 er mwyn osgoi unrhyw oblygiad posibl bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r strategaethau yn cael eu trin yn wahanol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gan mai gwneud mân newidiadau i'r Rheoliadau presennol yn unig y maent, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources