- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
63. Mae rheoliadau 64 i 68 yn gymwys i apelydd neu hawlydd ac eithrio apelydd neu hawlydd sy'n rhiant plentyn sy'n destun y cais apêl neu'r cais hawlio.
64.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff apelydd neu hawlydd gynnal achos mewn perthynas ag apêl neu hawliad heb gyfaill achos.
(2) Ni chaiff apelydd neu hawlydd gynnal achos pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys wedi gwneud canfyddiad nad oes gan yr apelydd neu'r hawlydd ddealltwriaeth ddigonol i gyfranogi, neu barhau i gyfranogi fel parti yn yr apêl neu'r hawliad heb gyfaill achos.
(3) Rhaid i'r cwestiwn a oes gan yr apelydd neu'r hawlydd ddealltwriaeth ddigonol ai peidio i gynnal achos heb gyfaill achos, pa un a godir y cwestiwn—
(a)gan barti i'r apêl neu'r hawliad; neu
(b)gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan,
gael ei benderfynu gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys.
(4) Pan fo paragraff (3)(a) yn gymwys, mater i'r parti hwnnw fydd bodloni'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys nad oes gan yr apelydd neu'r hawlydd ddealltwriaeth ddigonol i gynnal achos heb gyfaill achos.
(5) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys glywed unrhyw dystiolaeth a ystyrir yn berthnasol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, er mwyn penderfynu'r cwestiwn o dan baragraff (3).
(6) Rhaid i unrhyw wrandawiad a gynhelir i benderfynu'r cwestiwn beidio â chael ei gynnal yn gyhoeddus.
(7) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys allgáu o'r gwrandawiad, neu o ran ohono, unrhyw berson y mae ei bresenoldeb, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn debygol o'i gwneud yn anodd i'r apelydd neu'r hawlydd wneud sylwadau.
(8) Pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys wedi gwneud canfyddiad yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys gyfarwyddo'r apelydd neu'r hawlydd i benodi cyfaill achos.
65. Caiff person weithredu fel cyfaill achos ar yr amod, yn unig nad yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o fewn ystyr adran 3(2)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1).
66.—(1) Rhaid i berson sy'n dymuno gweithredu fel cyfaill achos gyflwyno datganiad o addasrwydd i'r Tribiwnlys.
(2) Rhaid i'r datganiad o addasrwydd ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y person sy'n dymuno gweithredu fel cyfaill achos i'r apelydd neu'r hawlydd ac, os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;
(b)enw a dyddiad geni'r apelydd neu'r hawlydd;
(c)perthynas neu gysylltiad y person â'r apelydd neu'r hawlydd;
(ch)bod y person yn bodloni'r amodau a'r gofynion a bennir yn rheoliad 65 ac yn adran 332ZC(2) o Ddeddf 1996(2).
(3) Rhaid i'r datganiad o addasrwydd gynnwys—
(a)safbwyntiau rhiant yr apelydd neu riant yr hawlydd ynglŷn â dymuniad y person i weithredu fel cyfaill achos yr apelydd neu'r hawlydd; neu
(b)esboniad pam nad yw'r person wedi canfod safbwyntiau'r rhiant.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid cyflwyno'r datganiad addasrwydd ynghyd â thystysgrif datgeliad manylach a ddyroddwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol sy'n cadarnhau addasrwydd y person i weithio gyda phlant.
(5) Nid yw'r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo'r person sy'n dymuno gweithredu fel cyfaill achos yn rhiant, llys-riant, brawd, llysfrawd, chwaer, llyschwaer, taid (tad-cu), nain (mam-gu), ewythr, modryb, nai neu nyth i'r apelydd neu'r hawlydd.
(6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—
(a)cofnodi ar gofrestr y Tribiwnlys rif y dystysgrif datgeliad ynghyd â'r dyddiad dechrau a'r dyddiad gorffen;
(b)defnyddio'r gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig i ddychwelyd y dystysgrif datgeliad i'r person.
(7) Caniateir i'r datganiad addasrwydd gael ei gyflwyno ynghyd â thystiolaeth i gefnogi addasrwydd y person i weithredu fel cyfaill achos.
(8) Rhaid i'r datganiad o addasrwydd gael ei lofnodi gan y person sy'n dymuno gweithredu fel cyfaill achos yr apelydd neu'r hawlydd.
(9) Rhaid i'r person sy'n dymuno gweithredu fel cyfaill achos y plentyn gyflwyno copi o'r datganiad addasrwydd i—
(a)y partïon yn yr achos; a
(b)rhiant yr apelydd neu riant yr hawlydd.
67.—(1) Os yw'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn ystod yr apêl neu'r hawliad, yn gwneud canfyddiad o dan reoliad 64(2), ni chaiff unrhyw barti gymryd cam pellach yn yr apêl neu'r hawliad heb ganiatâd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, hyd nes y bydd ac oni fydd person sy'n dymuno gweithredu fel cyfaill achos yr apelydd neu'r hawlydd wedi cyflwyno datganiad o addasrwydd i'r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 66.
(2) Pan fo person wedi cyflwyno datganiad addasrwydd o dan reoliad 66, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau sy'n ymwneud â'r apêl neu'r hawliad at y cyfaill achos yn hytrach nag at yr apelydd neu'r hawlydd.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y'u mynegir) at anfon dogfennau at yr apelydd neu'r hawlydd, neu roi hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd, fel cyfeiriadau at anfon dogfennau at y cyfaill agos, neu roi hysbysiad i'r cyfaill achos.
68.—(1) Caiff person weithredu fel cyfaill achos oni fydd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn cyfarwyddo na chaiff y person weithredu, neu na chaiff barhau i weithredu, fel cyfaill achos.
(2) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi cyfarwyddyd yn unol â pharagraff (1), ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan neu ar gais, os bodlonir ef—
(a)nad yw'r person yn bodloni unrhyw un o'r amodau a bennir yn rheoliad 65 ac yn adran 332ZC(2) o Ddeddf 1996; neu
(b)bod rheswm da arall yn bodoli.
(3) Caiff y canlynol wneud cais am gyfarwyddyd i ddiswyddo cyfaill achos—
(a)un o'r partïon;
(b)y cyfaill achos.
(4) Rhaid i gais am gyfarwyddyd i ddiswyddo cyfaill achos gael ei gefnogi gan dystiolaeth.
(5) Os gwneir cyfarwyddyd o dan baragraff (1), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
(a)cyfarwyddo'r apelydd neu'r hawlydd i benodi cyfaill achos newydd; a
(b)gohirio ystyriaeth o'r apêl neu'r hawliad hyd nes y penodir cyfaill achos newydd gan yr apelydd neu'r hawlydd.
(6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i'r partïon ynglŷn ag unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (1) gan ddatgan—
(a)nad yw'r person yn gweithredu bellach fel cyfaill achos yr apelydd neu'r hawlydd; a
(b)pan fo person arall wedi ei roi yn ei le fel cyfaill achos, enw a chyfeiriad y cyfaill achos newydd ar gyfer cyflwyno hysbysiadau a dogfennau.
(7) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o'r cyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (1) i'r person a ddiswyddwyd fel y cyfaill achos.
2006 p.47. O dan adran 3(2)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, gwaherddir person o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant os yw enw'r person wedi ei gynnwys yn y rhestr yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno (“the children’s barred list”) (“y rhestr wahardd ar gyfer plant”).
Mae adran 332ZC(2) o Ddeddf 1996 yn darparu bod rhaid i gyfaill achos plentyn gyflwyno sylwadau ac arfer hawliau yn deg a chymwys, bod heb unrhyw fuddiant sy'n groes i fuddiant y plentyn, a sicrhau y cymerir pob cam ac y gwneir pob penderfyniad gan y cyfaill achos er budd y plentyn a chan ystyried safbwyntiau'r plentyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: