Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised) - English
  • Latest available (Revised) - Welsh
  • Original (As made) - English
  • Original (As made) - Welsh
 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN CHAMRYWIOL

Estyn yr amser

69.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Llywydd, pan wneir cais gan barti, neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, gyfarwyddo bod cyfnod o amser, yn y Rheoliadau hyn neu mewn cyfarwyddyd a wneir odanynt, i gael ei estyn.

(2Dim ond os yw'r Llywydd o'r farn bod gwneud hynny yn deg ac yn gyfiawn y caiff y Llywydd estyn cyfnod o amser yn unol â pharagraff (1).

(3Caiff y Llywydd estyn cyfnod o amser, o ba bynnag gyfnod a ystyrir yn briodol gan y Llywydd.

(4Pan fo'r Llywydd wedi estyn cyfnod o amser, rhaid dehongli cyfeiriad at y cyfnod hwnnw o amser yn y Rheoliadau hyn, neu mewn cyfarwyddyd a wneir odanynt, fel pe bai'n gyfeiriad at y cyfnod o amser a estynnwyd felly.

Tynnu'n ôl

70.  Caiff person dynnu apêl neu hawliad yn ôl—

(a)drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg cyn gwrandawiad; neu

(b)ar lafar mewn gwrandawiad.

Gorchmynion ar gyfer costau a threuliau

71.—(1Fel rheol, rhaid i Lywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos beidio â gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath—

(a)yn erbyn parti pan fo'r Llywydd neu'r Cadeirydd o'r farn bod y parti wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi, neu, fod ymddygiad y parti, wrth wneud neu wrthwynebu'r apêl neu'r hawliad, wedi bod yn afresymol;

(b)yn erbyn cynrychiolydd os yw'r Llywydd neu'r Cadeirydd o'r farn bod y cynrychiolydd yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi;

(c)yn erbyn parti a fethodd â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw ohono yn briodol;

(ch)yn erbyn yr awdurdod lleol neu gorff cyfrifol a fethodd â chyflwyno datganiad achos o dan reoliad 21;

(d)yn erbyn yr awdurdod lleol neu gorff cyfrifol os yw'r Llywydd neu'r Cadeirydd o'r farn bod y penderfyniad a herir yn afresymol.

(2Ceir gwneud unrhyw orchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gostau a threuliau a achoswyd, neu unrhyw lwfansau a dalwyd; neu

(b)mewn perthynas â'r cyfan, neu unrhyw ran, o unrhyw lwfans (ac eithrio lwfansau a delir i aelodau o'r Tribiwnlys) a delir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson at ddibenion, neu mewn cysylltiad â phresenoldeb y person hwnnw mewn gwrandawiad Tribiwnlys.

(3Ceir gwneud gorchymyn ar gyfer costau ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan.

(4Rhaid i barti sy'n gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)cyflwyno cais ysgrifenedig a rhestr o'r costau a hawlir i Ysgrifennydd y Tribiwnlys; a

(b)cyflwyno copi o'r cais a'r rhestr o gostau i'r person y bwriedir gwneud y gorchymyn yn ei erbyn.

(5Ceir gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3) ar unrhyw adeg yn ystod yr apêl neu'r hawliad ond ni cheir ei wneud yn hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad—

(a)pan ddyroddwyd yr hysbysiad gan y panel tribiwnlys a oedd yn cofnodi'r penderfyniad a oedd yn penderfynu'n derfynol ar bob mater yn yr apêl neu'r hawliad;

(b)ar ôl tynnu'n ôl yr apêl neu'r hawliad, pan wnaed gorchymyn gan y panel tribiwnlys yn gwrthod yr apêl neu'r hawliad;

(c)yn dilyn ildiad yr awdurdod lleol i'r apêl, pan ddyroddwyd yr hysbysiad o benderfyniad gan y panel tribiwnlys.

(6Yn achos cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd ei wrthod os yw'r parti yn gofyn i'r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i'w bwerau;

(b)caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd ei wrthod yn gyfan gwbl neu'n rhannol os, ym marn y Llywydd neu'r Cadeirydd, nad oes siawns resymol y gall y cyfan neu'r rhan ohono lwyddo.

(7Oni wrthodir cais am orchymyn o dan baragraff (6), rhaid ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i'r parti a'r person y bwriedir gwneud y gorchymyn yn ei erbyn gael eu clywed gan y Llywydd neu'r Cadeirydd.

(8Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (3), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad costau.

(9Os digwydd i barti fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan baragraff (8), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a wneir gorchymyn ar gyfer costau ai peidio.

(10Caiff gorchymyn o dan baragraff (3) ei gwneud yn ofynnol bod y parti neu'r cynrychiolydd y gwneir y gorchymyn yn ei erbyn yn talu i barti naill ai swm penodedig mewn perthynas â'r costau a'r treuliau a achoswyd i'r parti arall hwnnw mewn cysylltiad â'r apêl neu'r hawliad, neu'r cyfan neu ran o'r cyfryw gostau, fel y'u hasesir, oni chytunir arnynt rywfodd arall.

(11Rhaid i orchymyn ar gyfer asesu costau o dan y rheoliad hwn ganiatáu i'r llys sirol wneud asesiad manwl o gostau yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Sifil 1998, naill ai ar y sail safonol neu, os pennir hynny yn y gorchymyn, ar sail indemniad.

Pŵer i arfer swyddogaethau'r Llywydd a'r Cadeirydd

72.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Cadeirydd arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ofynnol i'r Llywydd, neu yr awdurdodir y Llywydd i'w harfer o dan y Rheoliadau hyn.

(2Ni chaiff Cadeirydd arfer swyddogaeth o dan reoliad 28 o'r Rheoliadau hyn.

(3Os yw, yn unol â pharagraff (1)—

(a)yn ofynnol bod Cadeirydd yn dewis Cadeirydd i banel tribiwnlys, caiff ddewis ei hunan;

(b)Cadeirydd yn gwneud penderfyniad, bydd rheoliadau 56 a 57 yn gymwys mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw fel pe baent yn cyfeirio at Gadeirydd yn lle'r Llywydd.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 77(6), os bydd farw'r Cadeirydd neu os â'n analluog, neu os yw'n peidio â bod yn aelod o banel y cadeiryddion, yn dilyn penderfyniad o'r panel tribiwnlys, caiff y Llywydd neu Gadeirydd arall a benodir o banel y cadeiryddion arfer swyddogaethau'r Cadeirydd.

Pŵer i arfer swyddogaethau aelod o'r panel addysg mewn perthynas ag adolygiad

73.—(1Os bydd farw, neu os â'n analluog, aelod o'r panel tribiwnlys ac eithrio'r Cadeirydd, neu os yw person yn peidio â bod yn aelod o'r panel addysg, yn dilyn penderfyniad o'r panel tribiwnlys, caiff y ddau aelod arall ymgymryd â swyddogaethau'r panel tribiwnlys mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o benderfyniad.

(2Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i banel tribiwnlys—

(a)a gyfansoddir o ddau aelod yn unol â rheoliad 45(5);

(b)yr awdurdodwyd unrhyw berson i weithredu yn lle ei Gadeirydd yn unol â rheoliad 72(4).

Ysgrifennydd y Tribiwnlys

74.  Caiff aelod arall o staff y Tribiwnlys, a awdurdodir gan y Llywydd, gyflawni un o swyddogaethau Ysgrifennydd y Tribiwnlys.

Y Gofrestr

75.—(1Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadw Cofrestr o'r apelau a'r hawliadau a gofrestrir gan y Tribiwnlys.

(2Rhaid gwneud cofnod yn y Gofrestr o bob apêl a hawliad, a rhaid i'r cofnod ym mhob achos gynnwys y manylion canlynol pan fo'n briodol—

(a)enwau a chyfeiriadau'r partïon;

(b)manylion cryno o natur yr apêl neu'r hawliad;

(c)dyddiad unrhyw wrandawiad, gan gynnwys unrhyw wrandawiad ar faterion rhagarweiniol neu achlysurol, a phan fo'n briodol, natur y gwrandawiad;

(ch)manylion o unrhyw gyfarwyddiadau neu orchmynion a ddyroddir; a

(d)y ddogfen y cofnodwyd penderfyniad y panel tribiwnlys ynddi o dan reoliad 55(3).

(3Ceir cadw'r Gofrestr neu unrhyw ran ohoni mewn ffurf electronig.

Cyhoeddi

76.—(1Caiff y Llywydd wneud pa bynnag drefniadau a ystyrir yn briodol gan y Llywydd ar gyfer cyhoeddi penderfyniadau panel tribiwnlys.

(2Ceir cyhoeddi penderfyniadau yn electronig.

(3Ceir cyhoeddi penderfyniad mewn ffurf olygedig, neu'n ddarostyngedig i unrhyw ddileadau, os yw'r Llywydd o'r farn bod hynny'n briodol, gan roi sylw i—

(a)yr angen i ddiogelu lles a buddiannau'r plentyn neu unrhyw berson arall;

(b)yr angen i barchu bywyd preifat unrhyw berson;

(c)unrhyw sylwadau ar y mater a ddarparwyd gan unrhyw berson mewn ysgrifen i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ar unrhyw adeg cyn cyhoeddi, o dan y trefniadau a wnaed o dan baragraff (1).

(4Rhaid cyhoeddi penderfyniad y panel tribiwnlys mewn modd a fydd yn sicrhau bod enw'r plentyn yn parhau'n anhysbys.

Afreoleidd-dra

77.—(1Ni chaiff afreoleidd-dra, sy'n tarddu o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn, o gyfarwyddyd ymarfer neu o unrhyw gyfarwyddyd gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys cyn i'r panel tribiwnlys gyrraedd ei benderfyniad beri, yn ei hunan, bod yr achos yn ddi-rym.

(2Os daw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r panel tribiwnlys, caiff y panel tribiwnlys, os tybia y gallai unrhyw berson fod wedi ei ragfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyria'n gyfiawn cyn cyrraedd ei benderfyniad i gywiro'r afreoleidd-dra.

(3Caiff y Cadeirydd neu'r Llywydd (yn ôl fel y digwydd), ar unrhyw adeg, gywiro camgymeriadau clerigol mewn unrhyw ddogfen sy'n cofnodi cyfarwyddyd neu benderfyniad y panel tribiwnlys neu gyfarwyddyd neu benderfyniad y Llywydd ac a baratowyd gan neu ar ran y Tribiwnlys, neu wallau mewn dogfennau o'r fath a achoswyd gan lithriadau neu hepgorion damweiniol, drwy gyfrwng tystysgrif a lofnodir gan y Cadeirydd neu'r Llywydd.

(4Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon copi at bob parti o unrhyw ddogfen gywiredig sy'n cynnwys rhesymau dros benderfyniad y panel tribiwnlys.

(5Pan fo person wedi penodi cynrychiolydd yn unol â rheoliad 18, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys (er gwaethaf rheoliad 15(11)(a)) anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (4) at y person yn ogystal ag at y cynrychiolydd.

(6Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod Cadeirydd yn llofnodi dogfen, ond na all y Cadeirydd wneud hynny oherwydd marwolaeth neu analluedd, rhaid i aelodau eraill y panel tribiwnlys lofnodi'r ddogfen ac ardystio bod y Cadeirydd yn analluog i'w llofnodi.

Profi dogfennau ac ardystio penderfyniadau

78.—(1Mae dogfen sy'n honni bod yn ddogfen a ddyroddwyd gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ran y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, oni phrofir i'r gwrthwyneb, i'w hystyried yn ddogfen a ddyroddwyd felly.

(2Bydd dogfen sy'n honni ei bod wedi ei hardystio gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys fel copi cywir o ddogfen sy'n cynnwys penderfyniad y panel tribiwnlys, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o gynnwys y ddogfen honno.

Y dull o anfon, rhoi neu gyflwyno hysbysiadau a dogfennau

79.—(1Rhaid i hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen, a rhaid i barti y mae'n ofynnol iddo, o dan y Rheoliadau hyn, hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fater, wneud hynny mewn ysgrifen.

(2Rhaid i hysbysiadau a dogfennau sydd i'w darparu o dan y Rheoliadau hyn gael—

(a)eu hanfon drwy'r post rhagdaledig at Ysgrifennydd y Tribiwnlys neu'u danfon â llaw i swyddfa'r Tribiwnlys neu ba bynnag swyddfa arall yr hysbysir y partïon ohoni gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys;

(b)eu hanfon drwy drawsyriad ffacsimili i'r rhif a bennwyd ar gyfer y Tribiwnlys;

(c)eu hanfon drwy e-bost i'r cyfeiriad a bennwyd ar gyfer y Tribiwnlys; neu

(ch)eu hanfon neu'u danfon drwy ba bynnag ddull arall a ganiateir neu a gyfarwyddir gan y Tribiwnlys.

(3Rhaid i barti sy'n anfon hysbysiad neu ddogfen at y Tribiwnlys drwy e-bost neu drawsyriad ffacsimili beidio â thrin yr hysbysiad neu'r ddogfen fel pe bai wedi ei ddanfon neu'i danfon oni cheir cydnabyddiaeth o hynny gan y Tribiwnlys.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw parti'n darparu rhif ffacsimili, cyfeiriad e-bost neu fanylion eraill ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddogfennau iddo, rhaid i'r parti hwnnw dderbyn danfon dogfennau ato drwy'r dull hwnnw.

(5Os yw parti'n rhoi gwybod i'r Tribiwnlys ac i'r parti arall rhaid peidio â defnyddio dull cyfathrebu penodol, ac eithrio'r post rhagdaledig neu ddanfon â llaw, i ddarparu dogfennau i'r parti hwnnw, rhaid peidio â defnyddio'r dull hwnnw o gyfathrebu.

(6Os yw'r Tribiwnlys neu barti yn anfon dogfen at barti neu at y Tribiwnlys drwy e-bost neu unrhyw ddull cyfathrebu electronig arall, caiff y derbynnydd ofyn i'r anfonwr ddarparu copi caled o'r ddogfen honno i'r derbynnydd. Rhaid i'r derbynnydd wneud cais o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael y ddogfen yn electronig.

(7Caiff y Tribiwnlys a phob parti gymryd yn ganiataol mai'r cyfeiriad a ddarperir gan barti neu gynrychiolydd yw'r cyfeiriad y mae'n rhaid anfon neu ddanfon dogfennau iddo, ac y bydd yn parhau felly oni chânt hysbysiad ysgrifenedig i'r gwrthwyneb.

(8Ceir anfon yr hysbysiadau a'r dogfennau yr awdurdodir neu y gwneir yn ofynnol bod y Llywydd, y panel tribiwnlys neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn (yn ddarostyngedig i baragraff (10)) naill ai drwy'r post dosbarth cyntaf, drwy drawsyriad ffacsimili, drwy e-bost, neu gellir eu danfon—

(a)yn achos parti—

(i)i gyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno fel a bennir yn y cais apêl neu'r cais hawlio neu mewn ateb ysgrifenedig neu mewn hysbysiad o dan baragraff (9), neu

(ii)os nad oes cyfeiriad ar gyfer cyflwyno wedi ei bennu felly, i'r cyfeiriad olaf sy'n hysbys ar gyfer y parti hwnnw; a

(b)yn achos unrhyw berson arall, i breswylfa neu fan busnes y person hwnnw, neu, os yw'r person yn gorfforaeth, i swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth.

(9Caiff parti, ar unrhyw adeg, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid cyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.

(10Rhaid defnyddio'r gwasanaeth danfon cofnodedig yn lle'r post dosbarth cyntaf i gyflwyno gwŷs sy'n mynnu cael presenoldeb tyst a ddyroddir o dan reoliad 48.

(11Rhaid tybio bod hysbysiad neu ddogfen a anfonwyd gan y Tribiwnlys drwy'r post dosbarth cyntaf yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac nas dychwelwyd at y Tribiwnlys, wedi ei gael neu'i chael gan y derbynnydd ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

(12Rhaid tybio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb, mai'r dyddiad postio yw'r dyddiad a ddangosir yn y marc post ar yr amlen sy'n cynnwys yr hysbysiad neu'r ddogfen.

(13Rhaid tybio bod hysbysiad neu ddogfen a anfonir gan y Tribiwnlys at barti drwy e-bost neu drawsyriad ffacsimili wedi ei ddanfon neu'i danfon pan geir yr hysbysiad neu'r ddogfen mewn ffurf ddarllenadwy.

(14Os, am unrhyw reswm digonol, na ellir cyflwyno unrhyw ddogfen neu hysbysiad yn y modd a ragnodir o dan y rheoliad hwn, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys naill ai hepgor y cyflwyno, neu wneud gorchymyn ar gyfer cyflwyno ym mha bynnag ddull amgen a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, a rhaid bod cyflwyno yn y dull amgen hwnnw'n cael yr un effaith â chyflwyno yn y modd a ragnodir o dan y rheoliad hwn.

Cyfrifo amser

80.—(1Rhaid i weithred sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn, gan gyfarwyddyd ymarfer neu gyfarwyddyd ac sydd i'w gwneud ar ddiwrnod penodol neu erbyn diwrnod penodol gael ei gwneud erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw.

(2Os yw'r amser a bennir gan y Rheoliadau hyn, gan gyfarwyddyd ymarfer neu gan gyfarwyddyd ar gyfer gwneud unrhyw weithred yn gorffen ar ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith, mae'r weithred wedi ei gwneud yn brydlon os yw wedi ei gwneud ar y diwrnod gwaith canlynol.

(3Os yw'r amser ar gyfer cychwyn achos drwy ddarparu'r cais apêl neu'r cais hawliad i'r Tribiwnlys o dan reoliad 12 yn gorffen ar ddiwrnod rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr gan gynnwys y dyddiadau hynny, neu ar unrhyw ddiwrnod ym mis Awst—

(a)mae'r cais apêl neu'r cais hawliad wedi ei ddarparu yn brydlon os daw i law'r Tribiwnlys ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl 1 Ionawr neu 31 Awst, fel y bo'n briodol; a

(b)rhaid peidio â chyfrif y dyddiau rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr gan gynnwys y dyddiau hynny nac unrhyw ddiwrnod ym mis Awst wrth gyfrifo'r amser erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud unrhyw weithred arall.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys pan fo'r Tribiwnlys yn cyfarwyddo bod rhaid i weithred gael ei gwneud erbyn dyddiad penodedig neu ar ddyddiad penodedig.

Llofnodi dogfennau

81.  Pan yw'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod dogfen wedi ei llofnodi, bodlonir y gofyniad hwnnw—

(a)os yw'r llofnod wedi ei ysgrifennu; neu

(b)yn achos dogfen a gyfathrebwyd yn electronig yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan lofnod electronig y person y mae'n ofynnol iddo'i llofnodi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources