- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Rhaid i'r cais hawlio ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud yr hawliad ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;
(b)enw a dyddiad geni'r plentyn;
(c)os yw'n berthnasol, y berthynas neu'r cysylltiad rhwng y person sy'n gwneud yr hawliad a'r plentyn;
(ch)enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu sy'n rhannu'r cyfrifoldeb rhiant, dros y plentyn neu sy'n gofalu am y plentyn, neu'r rhesymau pam na ddarparwyd enwau a chyfeiriadau'r personau hynny;
(d)enw a cyfeiriad unrhyw gynrychiolydd a benodir gan y person sy'n gwneud yr hawliad, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw;
(dd)cyfeiriad ac os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy'n gwneud yr hawliad;
(e)enw a chyfeiriad—
(i)yr ysgol neu'r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir; neu
(ii)yr awdurdod ar gyfer yr ysgol a enwir o dan baragraff (1)(e)(i) os yw'r cyfryw ysgol yn ysgol a gynhelir;
(f)manylion y penderfyniad a herir, y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef;
(ff)y dyddiad neu'r dyddiadau y digwyddodd y penderfyniad a herir;
(g)y rheswm neu'r rhesymau dros wneud yr hawliad;
(ng)y canlyniad a geisir; ac
(h)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.
(2) Rhaid i'r cais hawlio gynnwys disgrifiad o anabledd y plentyn.
(3) Os yw ar gael, dylid cyflwyno ynghyd â'r cais hawlio dystiolaeth o ddiagnosis meddygol neu ddiagnosis proffesiynol arall mewn perthynas ag anabledd y plentyn.
(4) Rhaid cyflwyno'r cais hawlio ynghyd â chadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu'r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(ch), fod y person wedi gwneud hawliad i'r Tribiwnlys; neu gadarnhad ysgrifenedig sy'n esbonio pam nad yw'r person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu unrhyw un o'r personau hynny.
(5) Rhaid i'r cais hawlio gael ei lofnodi gan y person sy'n gwneud yr hawliad, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.
(6) Yn unol â rheoliad 38, caiff y cais hawlio gynnwys cais am i'r hawliad gael ei glywed ar y cyd ag apêl yn erbyn awdurdod lleol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: