- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Pan ddaw'r cais apêl neu'r cais hawlio i law, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—
(a)cofnodi ei fanylion yn y Gofrestr; a
(b)anfon at yr apelydd neu'r hawlydd—
(i)cydnabyddiaeth o'i dderbyn a nodyn o rif yr achos a gofnodwyd yn y Gofrestr;
(ii)nodyn o'r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys;
(iii)hysbysiad y gellir cael cyngor ynghylch y weithdrefn apelau neu hawliadau o swyddfa'r Tribiwnlys;
(iv)yn ddarostyngedig i reoliad 19(2), hysbysiad sy'n datgan yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth yr apelydd neu'r hawlydd o dan reoliad 19(1); a
(v)datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad os na fydd y parti'n cydymffurfio â rheoliad 7 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).
(2) Yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)(iv) at yr apelydd neu'r hawlydd, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon at yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol—
(a)copi o'r cais apêl neu'r cais hawlio ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig;
(b)nodyn o'r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys;
(c)hysbysiad sy'n datgan yr amser ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o dan reoliad 19(1), a'r canlyniadau os na wneir hynny; a
(ch)datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad os nad yw parti'n cydymffurfio â rheoliad 7 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).
(3) Pan fo'n ofynnol canfod enw'r corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Llywydd wneud pa bynnag ymholiadau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.
(4) Os yw'n ymddangos i'r Llywydd neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys y gall fod mwy nag un corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Tribiwnlys anfon y ddogfennaeth a bennir ym mharagraff (2) at unrhyw rai neu at bob un o'r cyfryw gyrff, fel y bo'n briodol.
(5) Os yw Llywydd ac Ysgrifennydd y Tribiwnlys o'r farn, ar sail y cais apêl neu'r cais hawlio, bod y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn gofyn i'r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i bwerau'r Tribiwnlys, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i'r person hwnnw—
(a)sy'n datgan y rhesymau dros y farn honno; a
(b)sy'n rhoi gwybod i'r person rhaid peidio â chofnodi'r cais apêl neu'r cais hawlio yn y Gofrestr oni fydd y person, o fewn amser penodedig (rhaid iddo fod yn ddim llai na 5 niwrnod gwaith) wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fwriad y person i fynd ymlaen â'r apêl neu'r hawliad.
(6) Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (5), rhaid trin y cais apêl neu'r cais hawlio fel un sydd wedi ei gael at ddibenion paragraff (1) os yw'r person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o ddymuniad y person i fynd ymlaen â'r apêl neu'r hawliad.
(7) Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys o'r farn bod gwall amlwg yn y cais apêl neu'r cais hawlio, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys gywiro'r gwall hwnnw.
(8) Pan fo gwall wedi ei gywiro yn unol â pharagraff (7), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad o'r cywiriad, a datgan effaith paragraff (9).
(9) Oni fydd y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod y person yn gwrthwynebu'r cywiriad, o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl rhoi'r hysbysiad o dan baragraff (8), rhaid trin y cais apêl neu'r cais hawlio fel y'i cywirwyd fel y cais apêl neu'r cais hawlio at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(10) Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(2) a (3) a pharagraff (11), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â'r apêl neu'r hawliad at yr apelydd neu'r hawlydd.
(11) Mae paragraff (10) yn gymwys—
(a)oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod rhaid anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â'r apêl neu'r hawliad at y cynrychiolydd yn hytrach nag at yr apelydd neu'r hawlydd;
(b)yn ddarostyngedig i reoliadau 55(7) a 79(5).
(12) Pan fo paragraff (11)(a) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y'u mynegir) at anfon dogfennau at yr apelydd neu'r hawlydd, neu roi hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd neu roi hysbysiad i'r cynrychiolydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: