- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20.—(1) Rhaid i'r apelydd neu'r hawlydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—
(a)datganiad achos; a
(b)pob tystiolaeth arall y bwriedir dibynnu arni ac nas cyflwynwyd eisoes.
(2) Rhaid i'r datganiad achos gynnwys—
(a)os rhiant y plentyn yw'r apelydd neu'r hawlydd—
(i)safbwyntiau'r plentyn ynglŷn â'r materion a godir yn yr apêl neu'r hawliad; neu
(ii)esboniad pam nad yw'r apelydd neu'r hawlydd wedi canfod safbwyntiau'r plentyn;
(b)os y plentyn yw'r apelydd neu'r hawlydd—
(i)safbwyntiau rhiant y plentyn ynglŷn â'r materion a godir yn yr apêl neu'r hawliad; neu
(ii)esboniad pam nad yw'r apelydd neu'r hawlydd wedi canfod safbwyntiau'r rhiant.
(3) Os rhoddir caniatâd gan y Llywydd, caiff yr apelydd neu'r hawlydd—
(a)diwygio'r cais apêl neu'r cais hawlio;
(b)cyflwyno datganiad atodol o resymau sy'n cefnogi'r cais apêl neu'r cais hawlio;
(c)diwygio datganiad atodol o resymau sy'n cefnogi'r cais apêl neu'r cais hawlio;
(ch)cyflwyno datganiad achos atodol;
(d)diwygio datganiad achos atodol.
(4) Rhaid i'r apelydd neu'r hawlydd gyflwyno copi i Ysgrifennydd y Tribiwnlys o bob diwygiad a datganiad atodol y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer o dan baragraff (3), o fewn y cyfnod o amser a ganiateir.
(5) Os diwygir cais apêl yn unol â pharagraff (3) fel bod yr apelydd yn gofyn am orchymyn bod ysgol a gynhelir i'w henwi yn natganiad y plentyn, ac eithrio'r un a enwir eisoes yn y datganiad hwnnw, neu, os nad oes un a enwir eisoes, bod ysgol a gynhelir i gael ei henwi, rhaid i'r apelydd hysbysu pennaeth yr ysgol a gynhelir a enwir yn y cais apêl diwygiedig, gan ddatgan enw a dyddiad geni'r plentyn.
(6) Os na chynhelir yr ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff (5) gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r apelydd hysbysu'r awdurdod sy'n cynnal yr ysgol.
(7) Pan roddir caniatâd o dan baragraff (3), caiff y Llywydd, os bydd angen, estyn y cyfnod datganiad achos, o dan reoliad 69 neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag cyfnod pellach a ystyrir yn briodol gan y Llywydd.
(8) Os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, ar yr adeg y rhoddir caniatâd o dan baragraff (3), wedi colli ei hawlogaeth i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliadau 25 neu 36, bydd rhoi'r caniatâd yn adfer y cyfryw hawlogaeth ac, os bydd angen, caniateir gohirio'r gwrandawiad neu ohirio gweddill y gwrandawiad, fel y bo'n briodol, er mwyn i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gael ei gynrychioli.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: