- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
21.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—
(a)copi o'r penderfyniad a herir;
(b)os gwneir yr apêl o dan adran 326 o Ddeddf 1996 neu baragraffau 8 neu 11 o Atodlen 27 i'r Ddeddf honno, copi o ddatganiad y plentyn, unrhyw ddogfennaeth a atodwyd i'r datganiad neu sy'n ffurfio rhan ohono, ac os yw ar gael, copi o'r adolygiad diwethaf;
(c)datganiad achos; ac
(ch)pob tystiolaeth arall y bwriedir dibynnu arni ac nas cyflwynwyd eisoes.
(2) Rhaid i ddatganiad achos yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gael ei lofnodi gan berson a awdurdodwyd i lofnodi dogfennau o'r fath ar ran yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, a rhaid iddo ddatgan a yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu'r apêl neu'r hawliad ai peidio.
(3) Os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu'r apêl neu'r hawliad, rhaid i'w ddatganiad achos ddatgan—
(a)ar ba seiliau y gwrthwynebir yr apêl neu'r hawliad, neu unrhyw ran o'r apêl neu'r hawliad;
(b)enw a chyfeiriad cynrychiolydd yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ac, os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd;
(c)y cyfeiriad lle y dylid anfon neu ddanfon dogfennau ar gyfer yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol;
(ch)crynodeb o'r ffeithiau mewn perthynas â'r penderfyniad a herir;
(d)y rheswm neu'r rhesymau dros y penderfyniad a herir os nad yw'r rheswm neu'r rhesymau'n gynwysedig yn y penderfyniad; ac
(dd)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.
(4) Rhaid i ddatganiad achos yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gynnwys—
(a)safbwyntiau'r plentyn ynglŷn â'r materion a godir yn yr apêl neu'r hawliad; neu
(b)esboniad pam nad yw wedi canfod safbwyntiau'r plentyn.
(5) Caiff yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ddiwygio'i ddatganiad achos, cyflwyno datganiad achos atodol, neu ddiwygio datganiad achos atodol, os rhoddir caniatâd gan y Llywydd.
(6) Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gyflwyno i'r Tribiwnlys gopi o bob diwygiad a datganiad atodol y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod o amser a ganiateir.
(7) Os rhoddir caniatâd o dan baragraff (5), caiff y Llywydd estyn y cyfnod datganiad achos o dan reoliad 69, neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag cyfnod pellach a ystyrir yn briodol gan y Llywydd.
(8) Os yw'r apelydd neu'r hawlydd, ar yr adeg y rhoddir caniatâd o dan baragraff (5), wedi colli hawlogaeth i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliad 36, bydd rhoi'r caniatâd yn adfer y cyfryw hawlogaeth ac, os bydd angen, caniateir gohirio'r gwrandawiad neu weddill y gwrandawiad, fel y bo'n briodol, er mwyn i'r apelydd neu'r hawlydd gael ei gynrychioli.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: