- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
24.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—
(a)anfon copi at yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o unrhyw ddiwygiad i'r cais apêl neu'r cais hawlio a ddaw i law yn ystod y cyfnod datganiad achos;
(b)ar ddiwedd y cyfnod datganiad achos, anfon copi o ddatganiad achos a thystiolaeth ysgrifenedig y naill barti at y llall;
(c)anfon copïau ar unwaith o unrhyw ddiwygiadau neu ddatganiadau atodol, sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig (ac eithrio tystiolaeth ysgrifenedig y ceir copi ohoni yn unol â rheoliad 50 (tystiolaeth ysgrifenedig sy'n hwyr)) neu ddogfennau eraill a geir gan barti ar ôl diwedd y cyfnod datganiad achos, at y parti arall.
(2) Os cyflwynir cais apêl neu gais hawlio, datganiad achos, diwygiad, datganiad atodol, sylw ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfen arall i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ôl yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon copi o'r hyn a gyflwynir felly at y parti arall, onid estynnir y terfyn amser gan y Llywydd o dan reoliad 69.
(3) Pan fo Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn anfon unrhyw gopïau o ddogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at barti sydd eisoes wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys, wrth ymateb i ymholiadau a wnaed o dan reoliad 26(a)(i) a (ii), nad yw'r parti'n dymuno bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ofyn a yw'r parti'n dymuno newid yr ymateb hwnnw ar sail y copïau a gafwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: