- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Caiff y panel tribiwnlys benderfynu'r apêl neu'r hawliad heb wrandawiad neu drwy gynnal gwrandawiad—
(a)os na chaiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys ddatganiad achos gan yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o fewn y cyfnod datganiad achos;
(b)os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn datgan mewn ysgrifen nad yw'n gwrthwynebu—
(i)yr apêl sy'n ymwneud â chynnwys datganiad y plentyn neu benderfyniad i beidio â chynnal datganiad y plentyn; neu
(ii)yr hawliad;
(c)os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn tynnu'n ôl ei wrthwynebiad i'r canlynol—
(i)yr apêl sy'n ymwneud â chynnwys datganiad y plentyn neu benderfyniad i beidio â chynnal datganiad y plentyn; neu
(ii)yr hawliad.
(2) Os yw'r panel tribiwnlys yn penderfynu'r apêl neu'r hawliad heb wrandawiad, rhaid iddo wneud hynny ar sail y cais apêl neu'r cais hawlio ac unrhyw ddogfennaeth arall a ddaeth i law neu a ddiwygiwyd eisoes yn unol â rheoliad 20(3).
(3) Os yw'r panel tribiwnlys yn penderfynu cynnal gwrandawiad yn unol â pharagraff (1), caiff ddyroddi cyfarwyddyd sy'n gwahardd yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol rhag bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.
(4) Os yw'r apêl yn ymwneud ag—
(a)yr hyn a gynhwysir mewn datganiad plentyn, ni fydd datganiad nad yw'r awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r apêl, neu ei fod yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, yn cael effaith hyd nes y bo'r awdurdod lleol yn cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadarnhad ysgrifenedig o'r diwygiadau (os oes rhai) y mae'r awdurdod lleol yn cytuno i'w gwneud yn natganiad y plentyn;
(b)penderfyniad i beidio â chynnal datganiad, ni fydd datganiad nad yw'r awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r apêl, neu ei fod yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, yn cael effaith hyd nes y bo'r awdurdod lleol yn cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadarnhad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod lleol i beidio â gwrthwynebu'r apêl neu i dynnu ei wrthwynebiad yn ôl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: