- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
45.—(1) Ar ddechrau'r gwrandawiad rhaid i'r Cadeirydd esbonio'r drefn y mae'r panel tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.
(2) Rhaid i'r panel tribiwnlys gynnal y gwrandawiad mewn modd yr ystyria'n briodol er mwyn egluro'r materion a thrin yr achos yn deg a chyfiawn, gan osgoi ffurfioldeb diangen yn yr achos, i'r graddau yr ystyria'n briodol.
(3) Rhaid i'r panel tribiwnlys benderfynu ym mha drefn y clywir y partïon a pha faterion sydd i'w penderfynu.
(4) Caiff y panel tribiwnlys, os bodlonir ef fod gwneud hynny'n deg a chyfiawn, ganiatáu—
(a)i'r apelydd neu'r hawlydd ddibynnu ar seiliau nas datganwyd yn y cais apêl neu'r cais hawlio nac yn y datganiad achos, a rhoi tystiolaeth nas cyflwynwyd i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, cyn nac ar y pryd y gwnaed y penderfyniad a herir;
(b)i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ddibynnu ar seiliau nas pennwyd yn ei ddatganiad achos.
(5) Os yw aelod o'r panel tribiwnlys ac eithrio'r Cadeirydd yn absennol, ar ddechrau'r gwrandawiad neu ar ôl hynny—
(a)caiff y ddau aelod arall, gyda chydsyniad y partïon, gynnal y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae'r panel tribiwnlys i'w ystyried wedi ei gyfansoddi'n briodol, a chaiff y ddau aelod hynny wneud penderfyniad y panel tribiwnlys;
(b)rhaid i'r aelod sy'n absennol beidio ag ailymuno â'r gwrandawiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: