- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
46.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 43(6), mae hawl gan y partïon yng nghwrs y gwrandawiad i roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dyst ac annerch y panel tribiwnlys ar y dystiolaeth, gan gynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd cyn y gwrandawiad, yn ogystal ag yn gyffredinol ar destun yr apêl neu'r hawliad.
(2) Nid oes hawl gan barti i alw mwy na dau dyst i roi tystiolaeth ar lafar (yn ychwanegol at unrhyw dyst y mae ei bresenoldeb yn ofynnol yn unol â pharagraff (6)).
(3) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ganiatáu i'r personau canlynol roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar destun yr apêl neu'r hawliad—
(a)y plentyn, pan nad yw'r plentyn yn barti i'r apêl neu'r hawliad;
(b)rhiant y plentyn, pan nad yw'r rhiant yn barti i'r apêl neu'r hawliad;
(c)person sydd wedi cyflwyno datganiad o addasrwydd i'r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 66 er mwyn gweithredu fel cyfaill achos.
(4) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ganiatáu—
(a)i'r person, os oes un, a enwyd mewn ymateb i ymholiad o dan reoliad 26(a)(vii) roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar safbwyntiau a dymuniadau'r plentyn;
(b)i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol i holi'r person a bennir yn is-baragraff (a) ynglŷn ag unrhyw dystiolaeth neu anerchiad a wnaed i'r panel tribiwnlys.
(5) Ceir rhoi tystiolaeth gerbron y panel tribiwnlys naill ai—
(a)ar lafar; neu
(b)drwy ddatganiad ysgrifenedig os cyflwynir y cyfryw dystiolaeth ynghyd â'r cais apêl neu'r cais hawlio neu'r datganiad achos neu'n unol â rheoliad 50.
(6) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o'r apêl neu'r hawliad, bennu bod presenoldeb personol unrhyw wneuthurwr o unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn ofynnol.
(7) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gymryd tystiolaeth ynghylch unrhyw ffaith sy'n ymddangos yn berthnasol i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys.
(8) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti neu dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhad, ac at y diben hwnnw ceir gweinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf gywir, neu ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw dystiolaeth a roddir drwy ddatganiad ysgrifenedig yn cael ei rhoi drwy ddatganiad o wirionedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: