- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
55.—(1) At y diben o gyrraedd ei benderfyniad rhaid i'r panel tribiwnlys, ac at y diben o drafod mater gweithdrefnol caiff y panel tribiwnlys, er gwaethaf unrhyw beth a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, orchymyn i bob person adael yr eisteddiad o'r panel tribiwnlys ac eithrio aelodau'r panel tribiwnlys ac unrhyw rai o'r personau a grybwyllir yn rheoliad 43(4)(c) i (dd), neu, fel y mynno'u priod ddyletswyddau, rheoliad 43(4)(e) ac (f).
(2) Caiff y panel tribiwnlys wneud penderfyniad drwy fwyafrif, a phan gyfansoddir y panel tribiwnlys o ddau aelod o dan reoliad 45(5) bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(3) Ceir naill ai roi penderfyniad y panel tribiwnlys ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio'r penderfyniad, ac ym mhob achos, pa un a gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi'r penderfyniad ar unwaith mewn dogfen y mae'n rhaid cynnwys ynddi neu fel atodiad iddi hefyd, ac eithrio mewn achos a benderfynir drwy gydsyniad, ddatganiad o'r rhesymau (mewn ffurf gryno) dros benderfyniad y panel tribiwnlys, a rhaid i ddogfen o'r fath gael ei llofnodi a'i dyddio gan y Cadeirydd.
(4) Ni chaiff penderfyniad a roddir ar lafar na'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys unrhyw gyfeiriad at wneud y penderfyniad drwy fwyafrif (os dyna a ddigwyddodd) nac at unrhyw farn lleiafrif.
(5) Rhaid cofnodi pob penderfyniad y panel tribiwnlys yn y Gofrestr.
(6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3), cyn gynted ag y bo'n ymarferol, at bob parti ynghyd â chanllawiau, mewn ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ar yr amgylchiadau pan fo hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel tribiwnlys ac ar y weithdrefn sydd i'w dilyn.
(7) Pan fo rheoliadau 15(11)(a) neu 67(2) yn gymwys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o'r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) at yr apelydd neu'r hawlydd yn ogystal ag at y cynrychiolydd neu'r cyfaill achos.
(8) Mae pob penderfyniad i'w drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad yr anfonir copi o'r ddogfen sy'n ei gofnodi at yr apelydd neu'r hawlydd (pa un a gyhoeddwyd y penderfyniad yn gynharach ar ddiwedd y gwrandawiad ai peidio).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: