- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
56.—(1) Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys am i benderfyniad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—
(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys;
(b)bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos;
(c)bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad; neu
(ch)bod buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny'n ofynnol.
(2) Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gael ei wneud—
(a)mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau;
(b)ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
(3) Caiff y Llywydd—
(a)ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, adolygu a gosod o'r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Llywydd, ar un o'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);
(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Llywydd yn unol â pharagraff (6).
(4) Caiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos—
(a)ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, adolygu a gosod o'r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y panel tribiwnlys ar un o'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);
(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys yn unol â pharagraff (6).
(5) Caiff Cadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron yr un panel tribiwnlys neu gerbron panel tribiwnlys sydd wedi'i gyfansoddi'n wahanol.
(6) Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wrthod y cyfan neu ran o gais am adolygiad os, ym marn y Llywydd neu'r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i'r cais cyfan hwnnw neu'r rhan honno lwyddo.
(7) Oni fydd cais am adolygiad wedi ei wrthod yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r adolygiad gael ei benderfynu, ar ôl rhoi cyfle i'r partïon gael eu clywed—
(a)gan y Llywydd, os gwnaed y penderfyniad gan y Llywydd;
(b)os gwnaed y penderfyniad gan banel tribiwnlys, gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad neu gan banel tribiwnlys arall a benodir gan y Llywydd.
(8) Os yw Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, yn cynnig y dylid adolygu penderfyniad—
(a)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i'r partïon ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon; a
(b)rhaid rhoi cyfle i'r partïon gael eu clywed.
(9) Wrth benderfynu cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o dan baragraffau (3), (4) neu (7), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy, cyn neu yn ystod y gwrandawiad o'r adolygiad.
(10) Os yw parti'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (9), caiff y panel tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu'r adolygiad neu benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer costau.
(11) Caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd, os gwneir cais gan barti, roi caniatâd i'r parti hwnnw newid tyst at ddibenion y gwrandawiad o'r adolygiad.
(12) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (11), ddod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a rhaid i'r ceisydd gyflwyno'r cais i'r parti arall, ddim hwyrach na 14 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad o'r adolygiad.
(13) Rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfle i'r partïon gael eu clywed ynglŷn ag unrhyw gais a wneir o dan baragraff (11).
(14) Os gosodir penderfyniad o'r neilltu neu os amrywir penderfyniad yn dilyn adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a rhaid iddo hysbysu'r partïon yn unol â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: