- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
29 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Mawrth 2012
Yn dod i rym
1 Ebrill 2012
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo(3) wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai(4).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf.
Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012, a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.
2. Ar 1 Ebrill 2012, diddymir Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai, a throsglwyddir ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo, corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
3. Mae Adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn union cyn 1 Ebrill 2012, fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno at—
(a)berson y mae'r adran honno'r gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogir fel hynny;
(b)y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2012;
(c)y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai; ac
(ch)y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Chwefror 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu, yn effeithiol o 1 Ebrill 2012, y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg y sefydliad addysgol a elwir yn Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo'i heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo, ac yn diogelu hawliau ei gweithwyr drwy gymhwyso, gydag addasiad, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).
1992 p.13; diwygiwyd adran 27 gan O.S. 2005/3238 (Cy. 243), erthygl 9 ac Atodlen 1, paragraffau 13 ac 16; a chan O.S. 2010/1080, erthygl 2 ac Atodlen 1, paragraffau 18 a 19.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Y'i sefydlwyd fel Coleg Technegol Llandrillo gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Cafodd yr enw ei newid yn Goleg Llandrillo yn effeithiol o 1 Awst 1994.
Y'i sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1994 (O.S. 1994/1449).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: