Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 16/03/2016
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/06/2015. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
21.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed, pan oedd unrhyw hysbysiad neu wybodaeth ynglŷn â'r cais—
(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, o fewn cyfnod o 21 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;
(b)wedi ei gyflwyno neu'i chyflwyno—
(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10; neu
(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,
o fewn cyfnod o 21 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r person hwnnw, ar yr amod y gwnaed y sylwadau gan unrhyw berson y bodlonwyd yr awdurdod ei fod yn berchennog, tenant neu feddiannydd o'r fath; neu
(c)wedi ei gyhoeddi neu'i chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,
a'r sylwadau a'r cyfnodau yn yr erthygl hon yw'r sylwadau a'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(1).
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad i bob person a wnaeth sylwadau yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1)(b)(i), a'r cyfryw hysbysiad yw'r hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(b) o Ddeddf 1990.
(3) Mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys i geisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(2) ac i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(3) ac y mae paragraffau (1)(b) a (2) yn gymwys i apelau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(4), fel pe bai cyfeiriadau—
(a)at awdurdod cynllunio lleol, yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a
(b)at benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, yn gyfeiriadau at benderfynu cais o'r fath neu apêl, yn ôl fel y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 21 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 15 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.
Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.
Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: