Sylwadau sydd i'w cymryd i ystyriaeth
21.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed, pan oedd unrhyw hysbysiad neu wybodaeth ynglŷn â'r cais—
(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, o fewn cyfnod o 21 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;
(b)wedi ei gyflwyno neu'i chyflwyno—
(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10; neu
(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,
o fewn cyfnod o 21 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r person hwnnw, ar yr amod y gwnaed y sylwadau gan unrhyw berson y bodlonwyd yr awdurdod ei fod yn berchennog, tenant neu feddiannydd o'r fath; neu
(c)wedi ei gyhoeddi neu'i chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,
a'r sylwadau a'r cyfnodau yn yr erthygl hon yw'r sylwadau a'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)().
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad i bob person a wnaeth sylwadau yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1)(b)(i), a'r cyfryw hysbysiad yw'r hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(b) o Ddeddf 1990.
(3) Mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys i geisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)() ac i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)() ac y mae paragraffau (1)(b) a (2) yn gymwys i apelau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(), fel pe bai cyfeiriadau—
(a)at awdurdod cynllunio lleol, yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a
(b)at benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, yn gyfeiriadau at benderfynu cais o'r fath neu apêl, yn ôl fel y digwydd.