- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo cais dilys wedi dod i law awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(1) roi i'r ceisydd hysbysiad o'i benderfyniad neu'i ddyfarniad neu roi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru.
(2) Y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw—
(a)y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod cynllunio lleol;
(b)ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod; neu
(c)os yw unrhyw ffi sy'n ofynnol mewn perthynas â chais wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, y cyfnod priodol fel a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) uchod, a gyfrifir gan ddiystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi derbyn swm llawn y ffi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais sy'n cynnwys—
(a)cais sy'n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 neu erthygl 5, yn ôl fel y digwydd;
(b)pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;
(c)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad neu'r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd;
(ch)mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;
(d)y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;
(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y manylion y gofynnir am eu cynnwys, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(2); ac
(e)unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais, ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,
a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo'r cais a'r cyfryw ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu'u cyflwyno ynghyd â'r cais, ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.
(4) Nid yw paragraff (3)(dd) yn gymwys ac eithrio—
(a)pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais wedi ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion paragraff(3); ac
(c)y manylion neu'r dystiolaeth y mae'n ofynnol gan yr awdurdod eu cynnwys, neu ei chynnwys, yn y cais, yn dod o fewn y rhestr honno.
(5) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ddarparu pa bynnag wybodaeth ynghylch ceisiadau a wnaed o dan erthygl 4 neu erthygl 5 (gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y modd yr ymdriniwyd ag unrhyw gais o'r fath) a wneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd. Caiff unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gynnwys darpariaeth ynglŷn â pha bersonau sydd i'w hysbysu a'r modd y darperir yr wybodaeth.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu cais am ganiatâd cynllunio, pan fo unrhyw hysbysiad o'r cais, neu wybodaeth yn ei gylch—
(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;
(b)wedi ei gyflwyno neu'i chyflwyno—
(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu
(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,
cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r person hwnnw; neu
(c)wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,
a'r cyfnodau yn y paragraff hwn yw'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(1) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(3).
(7) Os oes mwy nag un o'r cyfnodau rhagnodedig o dan baragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais cyn diwedd y diweddaraf neu'r diweddarach o'r cyfnodau hynny.
Mae O.S. 1999/293 yn estyn y cyfnod amser ar gyfer dyfarnu ceisiadau am ddatblygiad AEA.
Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004.
Amnewidiwyd adran 71(1) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: