- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gwnaed
1 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mai 2013
Yn dod i rym
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013, ac mae'n dod i rym ar 24 Mai 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae paragraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (m)(4) yn lle “.” rhodder “;”;
(b)ar ôl is-baragraff (m) mewnosoder—
“(n)armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011(5).”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
1 Mai 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Gorchymyn 1992”) yn rhagnodi amodau y mae'n rhaid i bersonau sydd â nam meddyliol difrifol a gwahanol bersonau o ddisgrifiadau eraill eu cyflawni er mwyn cael eu diystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor y mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhagnodi ar eu cyfer.
Mae Gorchymyn 1992 yn rhagnodi bod yn rhaid i berson sydd â nam meddyliol difrifol fod yn derbyn budd-dal cymwys er mwyn cael ei ddiystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor. Mae erthygl 2 yn diwygio amodau Gorchymyn 1992 i gynnwys taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o fewn y diffiniad o fudd-dal cymwys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol ar y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32).
O.S. 1992/548. Diwygiwyd paragraff (2) gan O.S. 1994/543; O.S. 1995/619; O.S. 1996/636; O.S. 1997/656; O.S. 2013/388; O.S. 2013/591; O.S. 2013/630 ac O.S. 2013/638 (W.71) (Cy.71).
Mewnosodwyd is-baragraffau (l) ac (m) gan O.S. 2013/638 (Cy.71)..
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: