- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
2 Mai 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 269(3) ac (8) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
2.—(1) 10 Mai 2013 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a ganlyn i rym—
(a)adran 2;
(b)adran 7;
(c)adran 8;
(d)adran 9;
(e)adran 10;
(f)adran 18;
(g)adran 19;
(h)adran 20;
(i)adran 21;
(j)adran 22;
(k)adran 28;
(l)adran 29;
(m)adran 30; ac
(n)adran 31.
(2) 10 Mai 2013 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a ganlyn i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru—
(a)adran 11;
(b)adran 12; ac
(c)adran 39.
Jeff Cuthbert
O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mai 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r pedwerydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) (“Deddf 2009”) sy'n dwyn darpariaethau penodol yn Neddf 2009 i rym. Disgrifir y darpariaethau isod.
Mae adran 2 yn nodi'r amgylchiadau pan fo person yn cwblhau prentisiaeth Gymreig mewn perthynas â fframwaith prentisiaeth. Y gofyniad yw bod y person yn bodloni'r amodau cwblhau Cymreig safonol neu'r amodau cwblhau Cymreig amgen.
Mae adrannau 7 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau prentisiaethau. Yn benodol, mae adran 10 yn darparu mai'r awdurdod ardystio ar gyfer prentisiaethau fydd personau a ddynodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru neu Weinidogion Cymru eu hunain.
Mae adran 11 yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn tystysgrif brentisiaeth.
Mae adran 12 yn ddarpariaeth ddehongli sy'n diffinio “apprenticeship framework”.
Mae adrannau 18 i 22 yn ymwneud â fframweithiau prentisiaethau. Yn benodol, mae adran 18 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi person i ddyroddi fframweithiau prentisiaethau, mewn perthynas â sector penodol. Mae'r adrannau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi fframweithiau prentisiaethau.
Mae adrannau 28 i 31 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phennu safonau prentisiaethau. Rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru lunio safonau drafft a bennir ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru, ac ymgynghori arnynt.
Mae adran 39 yn ddarpariaeth ddehongli sy'n diffinio'r termau a ddefnyddir ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf 2009.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”) yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 hefyd wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr yn unig drwy'r Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2010/303, O.S. 2011/200.
Gweler hefyd adran 269(1) o Ddeddf 2009 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 12 Tachwedd 2009 (y diwrnod y pasiwyd Deddf 2009).
Gweler hefyd adran 269(2) o Ddeddf 2009 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 12 Ionawr 2010 (ar ddiwedd cyfnod o ddau fis gan ddechrau ar y dyddiad y pasiwyd Deddf 2009).
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
adran 49 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2011/829 (Cy.124) |
adran 50 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2011/829 (Cy.124) |
adran 51 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2011/829 (Cy.124) |
adran 52 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2011/829 (Cy.124) |
adran 174 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy.207) |
adran 192 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy.207) |
adran 205 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3341 (Cy. 292) |
adran 259 | 1 Hydref 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy.207) |
adran 266 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy.207) |
Atodlen 6 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2011/829 (Cy.124) |
Atodlen 12 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 | O.S. 2010/2413 (Cy.207) |
Atodlen 14 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3341 (Cy. 292) |
Atodlen 16 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2010 yn rhannol ac 1 Hydref 2010 yn rhannol | O.S. 2010/2413 (Cy.207) |
Mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
adran 1 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 3 i 6 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 13 i 16 | 1 Mawrth 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 17 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 23 i 27 | 30 Medi 2010 | O.S. 2010/2374 |
adrannau 32 i 36 | 6 Ebrill 2011 (o ran Lloegr ) ac 1 Awst 2011 (o ran Cymru) | O.S. 2011/200 |
adran 37 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 38 | 1 Mawrth 2011 | O.S. 2011/200 |
adran 40 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 41 i 44 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 46 a 47 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 53 a 54 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 55 a 56 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 57 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 59 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adrannau 60 i 90 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 100 i 104 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 105 | 6 Ebrill 2011 | O.S. 2011/200 |
adrannau 106 i 111 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 112 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adrannau 113 i 124 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 125 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adran 126 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 127 i 144 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 147 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 148 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 149 i 154 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 56 a 157 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 158 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 159 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 160 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 161 i 173 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 174 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 175 i 177 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 178 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/1151 |
adran 179 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 180 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adrannau 181 i 191 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 192 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
adran 193 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adran 194 | 26 Chwefror 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2010/303 |
adran 195 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 196 a 197 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 202 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) a 28 Chwefror 2011 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/2374 |
adrannau 203 a 204 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 206 i 224 | 19 Ebrill 2010 (yn rhannol) ac 1 Medi 2010 (yn rhannol) | O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151 |
adran 225 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
adran 226 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 227 i 241 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adrannau 242 i 245 | 1 Medi 2010 | O.S. 2010/303 |
adran 249 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 251 i 255 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 256 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
adrannau 257 a 258 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 261 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
adran 266 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/3317, O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151 |
Atodlen 1 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010, 1 Ebrill 2010 ac 1 Medi 2010 | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
Atodlenni 4 i 7 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/303 |
Atodlen 8 | 12 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill) | O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303 |
Atodlenni 9 i 11 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
Atodlen 12 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/1151 |
Atodlen 13 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
Atodlen 15 | 12 Ionawr 2010 | O.S. 2009/3317 |
Atodlen 16 (yn rhannol) | 12 Ionawr 2010, 1 Ebrill 2010, 19 Ebrill 2010 ac 1 Medi 2010 | O.S. 2009/3317, O.S. 2010/0303 ac O.S. 2010/1151 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: