- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Animals, Wales
Animal Health
Gwnaed
29 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Mai 2013
Yn dod i rym
24 Mehefin 2013
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau UE yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Yn unol ag adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(3), mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
Yn unol ag adran 10(3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(4), mae’r ffioedd perthnasol wedi eu cymeradwyo gan y Trysorlys.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2013.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(9); ac
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at—
(a) Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Tachwedd 2003, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy’n ymledu drwy fwyd(10),
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy’n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnach o fewn y Gymuned mewn semen anifeiliaid domestig o’r rhywogaethau mochaidd, ac i fewnforion o’r semen hwnnw(11), neu
(c) Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(12),
i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
3. Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd pa bynnag gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn perthynas â’r cais hwnnw sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
4.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010” (“Commission Regulation (EU) No 200/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella mewn heidiau bridio llawn dwf o Gallusgallus(14);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011” (“Commission Regulation (EU) No 517/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella penodol mewn ieir dodwyGallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010(15);”.
(3) Yn erthygl 3 (yr awdurdod cymwys), yn lle paragraffau (a) a (b) (ond nid yr “ac” ar y diwedd) rhodder—
“(a)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010;
(b)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011;”.
(4) Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 8 (dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy)—
(i)yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”, a
(ii)yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”; a
(b)ym mharagraff 12 (dyletswyddau’r person sydd â gofal labordy)—
(i)yn is-baragraff (3)(a), yn lle “3.1.2 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “3.1.3 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”,
(ii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “3.1.3” rhodder “3.1.4”, a
(iii)yn is-baragraff (4)(a), yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”.
5.—(1) Mae Atodlen 1 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonella yn unol â’r Rhaglen Reoli Genedlaethol(16) berthnasol, a sefydlwyd gan neu o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor(17).
(2) Yn Atodlen 1—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; ac
(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
6. Mae ffioedd wedi eu pennu fel a ganlyn yn Atodlen 2, am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod(18) a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno ac a weithredwyd gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(19)—
(a)yn Nhabl 1, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr, am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
(b)yn Nhabl 2, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
7.—(1) Mae Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(20) (“Rheoliadau 2008”) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle rheoliad 41 rhodder—
“41. Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 7(4) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.”
(3) Hepgorer rheoliad 42.
(4) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn yn daladwy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno; ac y mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen honno ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliadau 2008 yr un ystyron ag yn Rheoliadau 2008.
8.—(1) Mae Atodlen 4 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau a chynnal profion ac archwiliadau o dan—
(a)Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964(21) (“Rheoliadau 1964”); neu
(b)Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE) 1992(22) (“Rheoliadau 1992”).
(2) Mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geisydd am drwydded neu’r gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 4, neu gan ddeiliad y cyfryw drwydded neu gymeradwyaeth, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” (“artificial insemination centre”) yw mangre—
(a)y mae trwydded mewn grym mewn perthynas â hi, o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b)sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 5 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995(23) (“Rheoliadau 1995”).
(2) Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth, o dan Reoliadau 1995 am weithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
10.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 6 yn daladwy pan gynhelir archwiliadau o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad mewn arolygfeydd ffin, yn unol â rheoliad 15 (gweithdrefn wrth fewnforio) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (24).
(2) Pennir y ffioedd sy’n daladwy am archwilio llwyth o anifeiliaid byw, a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 6, yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os ymgymerir ag archwilio unrhyw anifail byw mewn arolygfa ffin (naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol)—
(a)yn ystod penwythnos;
(b)ar ôl 17:00 o’r gloch ond cyn 08:30 o’r gloch ar ddiwrnod gwaith; neu
(c)yn ystod gŵyl gyhoeddus.
(4) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae ffi o £80 yn daladwy am bob cyflenwad sy’n ddarostyngedig i’w archwilio (yn ychwanegol at unrhyw ffi sy’n daladwy o dan Atodlen 6).
(5) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 6—
(a)ystyr “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yw porthladd neu faes awyr a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd(25);
(b)ystyr “llwyth” (“consignment”) yw casgliad o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif neu ddogfen filfeddygol;
(c)ystyr “cyflenwad” (“load”) yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio;
(d)ystyr “gŵyl gyhoeddus” (“public holiday”) yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(26); ac
(e)ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.
11. Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987(27);
(b)Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) (Ffioedd) 1995(28);
(c)Rheoliadau Anifeiliaid (Mewnforion o Drydydd Gwledydd) (Ffioedd) 1997(29);
(d)Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008(30); ac
(e)Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011(31).
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
29 Mai 2013
Rydym yn cydsynio
Mark Lancaster
Robert Goodwill
Dau oArglwyddi Gomisiynwyr Trysorlys EiMawrhydi
20 May 2013
Rheoliad 5
Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad ieir neu dyrcwn, y mae sampl swyddogol wedi ei gymryd ohono, ei brosesu a’i archwilio | |
---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
Amser a dreuliwyd yn cymryd sampl rheoli swyddogol i’w archwilio mewn labordy (yn ychwanegol at y ffioedd a bennir isod) | 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd |
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir dodwy | 60 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir bridio | 96 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) | 89 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol o heidiau o dyrcwn pesgi a bridio | 87 |
Archwilio sampl rheoli swyddogol mewn labordy | 15 am bob sampl a archwilir |
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy | ||
---|---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) | |
Prosesu cais am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy, neu am adnewyddiad blynyddol o gymeradwyaeth labordy | 43 | |
Cynnal archwiliadau a sicrwydd ansawdd, yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwywyd y labordy ar eu cyfer | un prawf | 642 |
dau brawf | 661 | |
tri phrawf | 681 | |
pedwar prawf | 700 | |
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer salmonela, fel sy’n ofynnol ar gyfer cael a chadw cymeradwyaeth fel labordy profi | 37 y prawf |
Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am gynnal profion o dan bwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 | |
---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid | 15 am bob sampl a brofir |
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid | 3,560 |
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid | 2,310 |
Rheoliad 6
Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion y cynllun iechyd dofednod | |
---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo sydd yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn), yn ychwanegol at y ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2 nad yw’r ffi amser hon yn gymwys | 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd |
Cofrestriad blynyddol fel aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) | 61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun | 210 |
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan wneir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol | 233 |
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, pan wneir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 74 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan wneir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 78 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, pan gyflawnir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol | 178 |
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan gyflawnir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol | 183 |
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyo at ddiben y cynllun iechyd dofednod | |
---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
Prosesu cais am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy neu adnewyddiad blynyddol o gymeradwyaeth labordy | 43 |
Prawf hyfedredd mewn perthynas â bacterioleg Salmonella ( pullorum, gallinarum ac arizonae ) | 131 y prawf |
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg Salmonella ( pullorum a gallinarum ) | 336 y prawf |
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg Mycoplasma mewn ieir ( gallisepticum ) | 336 y prawf |
Prawf hyfedredd mewn perthynas â meithrin Mycoplasma ( gallisepticum a meleagridis ) | 281 y prawf |
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn ( gallisepticum a meleagridis ) | 336 y prawf |
Rheoliad 7(4)
Ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) | ||
---|---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) | |
Amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo yn y Tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a restrir isod) | swyddog nad yw’n swyddog milfeddygol | 12 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd |
swyddog milfeddygol | 23 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd | |
Ystyried cais o dan reoliadau 7 a 10 o Reoliadau 2008 am gymeradwyo anifail buchol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfannau casglu domestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu | 38 | |
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 am gymeradwyo anifail buchol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu UE | Anifail buchol o dan 6 mis oed | 187 |
Anifail buchol dros 6 mis oed ac mewn grŵp o’r un rhyw | 187 | |
Anifail buchol dros 6 mis oed ac mewn grŵp cymysg o ran rhyw | 368 | |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 114 | |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 146 | |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan storio UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 63 | |
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2008 | 14 |
Rheoliad 8
Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (“Rheoliadau 1964”) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE)1992 | ||
---|---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) | |
Amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo sydd yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn), yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a restrir isod, oni phennir yng ngholofn 2 nad yw’r ffi amser hon yn gymwys | swyddog nad yw’n swyddog milfeddygol | 12 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd |
swyddog milfeddygol | 23 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd | |
Cais am gymeradwyo baeddod i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial | ||
Ystyried cais am gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen na fydd yn destun masnachu o fewn yr UE | 92 | |
Ystyried cais am gymeradwyo pob baedd ychwanegol a archwilir yr un pryd | 19 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | |
Profi baeddod yn rheolaidd | ||
Profion rheolaidd gorfodol ar faeddod yn unol â pharagraff 1 o Bennod II o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC mewn canolfannau ffrwythloni artiffisial y gall semen ohonynt fod yn destun masnachu o fewn yr UE | hyd at uchafswm o 10 baedd | 201 |
am bob baedd ychwanegol a brofir yn y fangre | 26 | |
Profion rheolaidd ar faeddod mewn canolfannau ffrwythloni artiffisial na fydd semen ohonynt yn destun masnachu o fewn yr UE | hyd at uchafswm o 10 baedd | 140 |
am bob baedd ychwanegol a brofir yn y fangre | 19 | |
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial | ||
Ystyried cais gan weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial | 29 | |
Ystyried cais am gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig (yn unol ag amodau a atodir i’r drwydded) | 29 | |
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial | 9 |
Rheoliad 9
Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (“Rheoliadau 1995”) | |
---|---|
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni archwiliadau a gwiriadau (yn ychwanegol at y ffioedd sylfaenol a restrir yn y Tabl hwn pan fo’n ofynnol archwilio’r cyfleusterau perthnasol neu’r fangre berthnasol, neu wirio’r cofnodion) | 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd |
Ystyried cais am gymeradwyo un tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, pan fo’n cynnwys archwilio un labordy | 131 |
Ystyried cais gan yr un ceisydd am gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol, pan fo pellter y labordy hwnnw neu’r storfa honno oddi wrth y timau embryonau eraill a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo yn fwy nag 8 cilometr | 86 |
Ystyried cais gan yr un ceisydd am gymeradwyo labordy neu storfa ychwanegol, pan wneir yr archwiliad ar yr un diwrnod a phan fo pellter y labordy neu’r storfa oddi wrth y timau embryonau eraill a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo yn 8 cilometr neu’n llai | 27 |
Ystyried cais am gymeradwyo: - tîm trosglwyddo embryonau buchol; neu - storfa o dan reoliad 13; - storfa o dan reoliad 16; neu - storfa a’i goruchwyliwr o dan reoliadau 16 a 19, o Reoliadau 1995 | 60 |
Ystyried cais am ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau | 71 |
Cynnal archwiliad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarchwilio un labordy neu storfa | 70 |
Cynnal archwiliad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol ac ailarchwilio pob labordy neu storfa ychwanegol | 41 am bob tîm a labordy neu storfa ychwanegol |
Ystyried cais am gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, heb archwilio labordy | 168 |
Rheoliad 10
Ffioedd am archwilio llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennau mewnforio mewn arolygfeydd ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 | |
---|---|
Colofn 1 Archwilio math o anifail a gwirio dogfennau | Colofn 2 Ffi (£) am bob llwyth |
Dofednod, ratidau ac adar hela bach | 44 |
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac ymlusgiaid | 40 |
Cwningod a chnofilod | 44 |
dAdar caeth | 44 |
Gwenyn, pryfed eraill ac infertebratau | 40 |
Anifeiliaid anwes digwmni | 44 |
Equidae | 54 |
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt | 54 |
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall | 44 |
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho | 44 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfuno a chynyddu nifer o ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid, o fewn un offeryn statudol. Cesglir y ffioedd gan asiantaeth weithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sef yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AIALM). Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn daladwy mewn perthynas â gweithgareddau sy’n ofynnol o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 ac yn unol â rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela ar gyfer dofednod. Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008 (O.S. 2008/524 (Cy.50)).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at ddiben y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy.252)).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 7 ac Atodlen 3 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040 (Cy.110)), a ddiwygir gan reoliad 7.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 8 ac Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen moch, yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (O.S. 1964/1172) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE) 1992 (O.S. 1992/3161).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 9 ac Atodlen 5 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gasglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol, yn unol â Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (O.S. 1995/2478).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 10 ac Atodlen 6 yn daladwy mewn perthynas ag archwilio llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin, yn unol â Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy.252)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu offerynnau ffioedd presennol mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid (rheoliad 11).
Fel yr esbonnir yn y Memorandwm Esboniadol, mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn wedi eu pennu fel rhan o symudiad fesul cam tuag at ffioedd a fydd yn adennill y gost lawn. Cynyddir rhai ffioedd yn sylweddol o gymharu â’r ffioedd presennol, gan eu bod wedi aros yn ddigyfnewid ers llawer o flynyddoedd. Mae cymhariaeth fanwl rhwng y ffioedd presennol a’r ffioedd newydd wedi ei darparu mewn atodiad i’r Memorandwm Esboniadol
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono drwy anfon e-bost at endemics@wales.gsi.gov.uk.
1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno.
1973 p.51 Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).
1973 p.51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 1 o Ddeddf 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae’r swyddogaethau hynny a oedd yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
1984 p.40; mae adran 10(8) yn diffinio’r “appropriate Minister” o ran Cymru at ddibenion adran 10 fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
1966 p.36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919 a pharagraff 1 o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824 a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw.
OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 (OJ Rhif L 281, 28.10.2011, t.7).
OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t.62, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 176/2012 (OJ Rhif L 61, 2.3.2012, t.1).
OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t.74, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/879/EU (OJ Rhif L 343, 23.12.2011, t.105).
OJ Rhif L 61, 11.3.2010, t.1, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011 (OJ Rhif L 138, 26.5.2011, t.45).
OJ Rhif L 138, 26.5.2011, t.45.
Mae rhaglenni cenedlaethol yn bodoli ar gyfer rheoli salmonela mewn ieir dodwy sy’n cynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl, ieir bridio, brwyliaid a thyrcwn; cynlluniwyd y rhaglenni ar gyfer gostwng nifer yr achosion o wahanol fathau o salmonela sy’n arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd, yn unol â thargedau’r UE.
OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 (OJ Rhif L 281, 28.10.2011, t.7).
Mae’r cynllun iechyd dofednod yn cynnig system gofrestru a chymeradwyo sy’n galluogi sefydliadau i wirio’u cydymffurfiaeth â deddfwriaeth UE, fel eu bod yn gymwys wedyn i allforio mwy nag 20 o gywion neu wyau deor i Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Yn ychwanegol, mae’n darparu ar gyfer cynnal profion ar hyfedredd y labordai sy’n profi samplau ar ran aelodau’r cynllun iechyd dofednod.
O.S. 1964/1172, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1995/2478, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi rhestrau o’r arolygfeydd ffin yn rheolaidd. Pennir y rhestr o arolygfeydd ffin cymeradwy ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2009/821/EC (OJ Rhif L 296, 12.11.2009, t.1) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/762/EU (OJ Rhif L 336, 8.12.2012, t.94).
1971 p.80. Gwnaed diwygiadau i’r Ddeddf hon, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: