- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cytundeb awdurdod lleol” (“local authority agreement”) yw cytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “cytundeb presennol” (“existing agreement”) yw cytundeb awdurdod lleol a wnaed cyn y diwrnod penodedig;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symuol1983(1);
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008;
ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan erthygl 2;
ystyr “llain” (“pitch”) yw tir, sy’n ffurfio rhan o safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru, ac sy’n cynnwys unrhyw ran ar gyfer gardd, y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arno;
ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ac nad yw’n llain bontio;
ystyr “llain bontio” (“transit pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo, am gyfnod penodedig o hyd at 3 mis:
ystyr “safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol” (“local authority gypsy and traveller site”) yw unrhyw dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr; ac
ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw personau sydd ag arferion byw nomadig, beth bynnag fo’u hil neu’u tarddiad, ond nid yw’n cynnwys aelodau o grŵp trefnedig o bobl sioe neu bobl sy’n ymwneud â syrcasau teithiol ac yn cyd-deithio fel y cyfryw(2).
(3) Mae i ymadroddion eraill, a ddefnyddir ond nas diffinnir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Neddf 1983 yn ogystal, yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn â’r ymadroddion Saesneg hynny yn Neddf 1983.
2.—(1) 10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) of the 2008 Act;
(b)adran 321(1) (diddymiadau) o Ddeddf 2008 ac Atodlen16 iddi, i’r graddau y mae a wnelont â’r diddymiadau canlynol—
Enw | Diddymiad |
---|---|
Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p.34) | Yn adran 5(1), yn y diffiniad o “protected site”, y geiriau o “does not include” i “that,”; |
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) | Yn adran 80(4), y geiriau o “in the definition” i “1983 or”. |
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 3 i 7.
3. Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn gymwys at ddibenion adrannau 1(3), (4) a (6) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983(3), i’r graddau y maent yn ymwneud â llain bontio.
4. Mae Deddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol fel y byddai’n gymwys i gytundeb awdurdod lleol a wnaed wedi i’r darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 Ddiwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013(4) ddod i rym, ond mae hyn yn ddarostyngedig i erthygl 5.
5.—(1) Nid yw adrannau 1(2) i (9) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol.
(2) Mewn perthynas â chytundeb presennol—
(i)os cychwynnir achos cyfreithiol y mae terfynu’r cytundeb yn fater sy’n codi ynddo cyn y diwrnod penodedig, nid yw paragraffau 3 a 4 (terfynu) o Bennod 3, na pharagraffau 3 i 6 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (pa bynnag Bennod sy’n gymwys yn yr achos penodol dan sylw) yn gymwys;
(ii)nid yw paragraff 8 (ailosod cartref symudol) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys i ofyniad bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy, am unrhyw gyfnod, mewn perthynas â llain arall os gwneir y gofyniad cyn y diwrnod penodedig;
(iii)nid yw paragraff 15(2) a (6) i (11) (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â’r adolygiad cyntaf o’r ffi llain o dan y cytundeb hwnnw os yw dyddiad adolygu’r ffi llain, ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig;
(iv)nid yw paragraff 16 (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys os cyflawnwyd gwaith mewn perthynas â gwelliant cyn y diwrnod penodedig;
(v)ni cheir gorfodi paragraff 19(c) a (d) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno mewn perthynas ag unrhyw doriad o’r cytundeb sy’n digwydd o fewn 3 mis i’r diwrnod penodedig;
(vi)nid yw paragraff 19(e) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â chostau a threuliau a dynnwyd cyn y diwrnod penodedig;
(vii)nid yw paragraff 20(f) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys pan fo gwaith mewn perthynas â’r gwelliannau yn cychwyn cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig; a
(viii)nid yw paragraff 20(g) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig.
6.—(1) Mewn perthynas â chytundeb presennol ynghylch llain sydd, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, yn dod yn llain barhaol, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig, roi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â’r paragraffau canlynol.
(2) Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig—
(a)nodi enwau a chyfeiriadau’r partïon;
(b)cynnwys manylion am y llain sy’n ddigonol ar gyfer ei hadnabod;
(c)nodi’r telerau a gynhwysir yn benodol yn y cytundeb;
(d)nodi’r telerau a fydd yn oblygedig yn rhinwedd cymhwyso Deddf 1983 i’r cytundeb; ac
(e)bod yn y ffurf a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn neu ffurf sydd â’r un effaith o ran ei sylwedd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw deler penodol a gynhwysir yn y cytundeb yn anorfodadwy gan awdurdod lleol neu gan unrhyw berson o fewn adran 3(1) o Ddeddf 1983, oni fydd y teler hwnnw wedi ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r parti arall yn unol â pharagraff (1).
(4) Os yw’r awdurdod lleol yn methu â rhoi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), caiff y parti arall, ar unrhyw adeg wedi i’r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddod i ben, wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol—
(a)yn rhoi i’r parti hwnnw ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a) i (e), a
(b)yn gwneud hynny ddim hwyrach na’r cyfryw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.
(5) Ym mharagraff (4), mae i “tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “tribunal” yn Neddf 1983 ac y mae awdurdodaeth tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw i’w thrin fel awdurdodaeth o dan Ddeddf 1983.
(6) Ceir cyflwyno datganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr erthygl hon naill ai i’r person hwnnw’n bersonol neu ei anfon drwy’r post.
(7) Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion adran 1 neu 2 o Ddeddf 1983.
(8) Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion Pennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
7. Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth sydd wedi cronni mewn perthynas â chytundeb presennol, nac unrhyw rwymedi mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedigaeth o’r fath.
Huw Lewis
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2013
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: