- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym yn unol â erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 23(9) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 35(3), Tabl 1, o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd drafft o’r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 a daw i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
2.—(1) Yn adrannau 444A neu 444B o Ddeddf Addysg 1996 dileer y geiriau “in England” ym mhob man lle y maent yn digwydd.
(2) Yn adran 569(2B) o Ddeddf Addysg 1996 yn lle “or 336” rhodder “, 336, 444A or 444B”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
2 Gorffennaf 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 23(9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddileu’r geiriau “in England” o adrannau 444A a 444B o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”).
Mae adrannau 444A a 444B o Ddeddf 1996 yn darparu pŵer i gwnstabl heddlu, swyddog o’r awdurdod lleol neu’r pennaeth (neu aelod o staff a awdurdodir gan y pennaeth) i ddyroddi, yn unol â’r rheoliadau, hysbysiadau cosb mewn cysylltiad â thriwantiaeth o’r ysgol (ac o fannau eraill lle y caiff addysg ei darparu).
Mae dileu’r geiriau “in England” yn golygu y bydd y darpariaethau hynny yn gymwys i Gymru.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i adran 569 o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn ei gwneud yn glir mai swyddogaethau Gweinidogion Cymru yw’r swyddogaethau o dan adrannau 444A a 444B o Ddeddf 1996.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adran hon i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) (p.32). Mae’r weithdrefn yn Neddf 2003 ar gyfer gwneud y Gorchymyn wedi ei haddasu gan Dabl 1 o baragraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf 2006 fel bod rhaid i Orchymyn a wneir o dan adran 29(3) o Ddeddf 2003 gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: