- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
10 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym
10 Gorffennaf 2013
Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 320 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1).
Yn unol ag adran 320(8)(a) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013, a daw i rym ar 10 Gorffennaf 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gytundeb y mae Deddf Cartrefi Symudol 1983(2)yn gymwys iddo, cyn dyfodiad i rym adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008.
2.—(1) Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn
(2) Yn adran 1(8A) ar ôl “England” rhodder “and Wales”
(3) Yn adran 2(6) ar ôl “England” rhodder “and Wales”
Jeff Cuthbert
Y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) yn diwygio adran 5 o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”), er mwyn dwyn tir, a feddiennir gan awdurdod lleol ar gyfer safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr, o fewn y diffiniad o safleoedd gwarchodedig at ddibenion Deddf 1983. Pwrpas y Gorchymyn hwn yw gwneud diwygiadau yn Neddf 1983 sy’n ganlyniadol ar ddwyn i rym adran 318 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Chymru ac ar wneud darpariaethau trosiannol perthynol, a wnaed o dan adran 322 o’r Ddeddf honno. Mae’r diwygiadau canlyniadol hyn yn efelychu’r diwygiadau a wnaed yn Neddf 1983 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) 2011(3)
Effaith y diwygiadau canlyniadol a bennir yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yw—
(a)bod hawl meddiannydd i wneud cais i’r llys neu i dribiwnlys, os yw’r perchennog yn methu â darparu datganiad ysgrifenedig, wedi ei datgymhwyso ar gyfer meddianwyr lleiniau pontio ar safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol yng Nghymru; a
(b)bod hawl sydd gan barti i’r cytundeb, i wneud cais i’r llys neu i dribiwnlys ynglŷn â thelerau’r cytundeb, o fewn 6 mis ar ôl gwneud y cytundeb neu ar ôl rhoi’r datganiad ysgrifenedig, wedi ei datgymhwyso ar gyfer lleiniau pontio yng Nghymru.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1983 p.34. Yng Nghymru a Lloegr, amnewidiwyd adran 1 a diwygiwyd adran 2 gan adrannau 206 a 265 o Ddeddf Tai 2004 (p.34) a pharagraff 9 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: