Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr a Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1965 (Cy. 190)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr a Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2013

Gwnaed

1 Awst 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Awst 2013

Yn dod i rym

30 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr a Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2013.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Awst 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011

2.  Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 11.

3.  Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(4);

ystyr “cynllun gostyniadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012(5) neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(6);..

4.  Yn rheoliad 29(3), ar ôl “2002” mewnosoder—

neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(7) (yr elfen costau gofal plant).

5.  Yn rheoliad 32(6)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “ac”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “; ac”; ac

(c)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(ff)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn)..

6.  Yn rheoliad 42, yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—

(a)yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(8);

(b)os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(9); neu

(c)os yw’n atebol, neu os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013..

7.  Yn rheoliad 77(1)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) yn lle “,” rhodder “;”;

(c)ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;.

8.  Yn rheoliad 93(5)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;.

9.  Yn rheoliad 98(3), ar ôl “2002” mewnosoder—

neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant).

10.  Yn rheoliad 101(6)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “ac”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(ff)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn)..

11.  Ym mharagraff 5(7)(a) o Atodlen 5 hepgorer y geiriau “, yn preswylio fel arfer” bob tro y maent yn digwydd.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

12.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012(10) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 i 24.

13.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;; a; a

(b)yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur, ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;.

14.  Yn rheoliad 32(3), ar ôl “2002” mewnosoder—

neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant).

15.  Yn rheoliad 35(6) —

(a)ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “ac”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (h) yn lle “.” rhodder “; ac”; ac

(c)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn)..

16.  Yn rheoliad 45, yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—

(a)yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(b)os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno; neu

(c)os yw’n atebol, neu os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013..

17.  Yn rheoliad 56—

(a)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “28(5)” rhodder “28(7)”; a

(b)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “28(5)” rhodder “28(7)”.

18.  Yn rheoliad 63(j)(i) yn lle “28(5)” rhodder “28(7)”.

19.  Yn rheoliad 81(1)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) yn lle “,” mewnosoder “;”;

(c)ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;.

20.  Yn rheoliad 97(5)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;.

21.  Yn rheoliad 102(3), ar ôl “2002” mewnosoder—

neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant).

22.  Yn rheoliad 105(6)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “ac”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (h) yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn)..

23.  Yn Rhan 2 o Atodlen 1—

(a)yn lle paragraff 5(2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud;;

(b)yn lle paragraff 5(3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud;

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;; ac

(c)yn lle paragraff (5)(3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud;.

24.  Ym mharagraff 5(7)(a) o Atodlen 5 hepgorer y geiriau “, yn preswylio fel arfer” bob tro y maent yn digwydd.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013

25.  Mae Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013(11) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 26 i 27.

26.  Yn rheoliad 28(2)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “ac”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (h) yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn)..

27.  Ym mharagraff 4(6)(a) o Atodlen 2 hepgorer y geiriau “, yn preswylio fel arfer” bob tro y maent yn digwydd.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

1 Awst 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio:

(a)Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/886 (Cy.130)) (“Rheoliadau 2011”);

(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/3097 (Cy.313)) (“Rheoliadau 2012”); ac

(c)Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013 (O.S. 2013/765 (Cy.91)) (“Rheoliadau 2013”).

Mae Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yn y blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 neu 1 Medi 2013 yn y drefn honno. Mae Rheoliadau 2013 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau ôl-raddedig yn yr ysgol i raddedigion mewn cysylltiadau rhyngwladol a sefydlwyd gan Brifysgol Johns Hopkins yn Bologna (a elwir yn Ganolfan Bologna) ac yng Ngholeg Ewrop.

Mae rheoliadau 2 i 10 yn gwneud amryw ddiwygiadau i Reoliadau 2011 sy’n ymwneud â newidiadau i’r system budd-daliadau lles a gyflwynwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2012. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys cyflwyno budd-dal newydd a elwir ‘credyd cynhwysol’ a fydd, dros gyfnod o amser, yn disodli ystod o fudd-daliadau presennol. Mae cymhwystra ar gyfer mathau a lefelau penodol o gymorth ariannol a ddarperir o dan Reoliadau 2011 yn ddibynnol ar hawlogaeth myfyriwr i gael budd-daliadau lles presennol. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2011 er mwyn cyfeirio at gredyd cynhwysol (a chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor newydd) ochr yn ochr â chyfeiriadau at fudd-daliadau presennol.

Mae rheoliadau 12 i 16 a 19 i 22 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau 2012 ac mae rheoliad 26 yn gwneud diwygiadau tebyg, ond llai niferus i Reoliadau 2013.

Mae rheoliad 13 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2012. Mae hyn yn estyn cymhwystra ar gyfer cymorth ariannol i’r personau hynny y rhoddwyd caniatâd yn ôl disgresiwn iddynt (a’u priod, eu partneriaid sifil a’u plant), p’un a yw’r personau hynny wedi bod yn ddarostyngedig i gais aflwyddiannus am loches o’r blaen ai peidio. Mae rheoliad 23 hefyd yn gwneud diwygiadau i Atodlen 1 i Reoliadau 2012 sy’n ganlyniadol ar y diwygiad hwn.

Mae rheoliadau 11, 24 a 27 yn dileu’r term ‘preswylio fel arfer’ o’r Atodlenni i Reoliadau 2011, Rheoliadau 2012 a Rheoliadau 2013 sy’n ymdrin ag asesiadau ariannol o fyfyrwyr.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn diweddaru croesgyfeiriadau penodol yn Rheoliadau 2012.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7 a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(6)

1992 p.14; mewnosodwyd Atodlen 1B gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012, adran 10 ac Atodlen 4.

(8)

1992 p.4 . Mae diwygiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae’r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi gan reoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1997/2197, O.S. 2000/636, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2006/2144, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/583, O.S. 2009/2655 ac O.S. 2009/3152.

(9)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/718, O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2009/583 ac O.S. 2010/641).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: