- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Medi 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 104/2000, Rheoliad 2065/2001, Rheoliad 1224/2009 a Rheoliad 404/2011;
ystyr “Rheoliad 104/2000” (“Regulation 104/2000”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu;
ystyr “Rheoliad 2065/2001” (“Regulation 2065/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu;
ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae’r cyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o Reoliadau’r UE yn gyfeiriadau at Reoliadau’r UE dan sylw fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd; a
(b)mae gan y termau a ddefnyddir hefyd yn unrhyw un neu ragor o Reoliadau’r UE yr un ystyr ag a roddir yn Rheoliadau’r UE dan sylw.
3. Yn y Rhan hon, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990.
4.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)ystyr “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” (“consumer information requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (7); a
(b)ystyr “gofyniad gallu i olrhain” (“traceability requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), yn ddarostyngedig i baragraff (7).
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), y gofynion yw—
(a)gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd â’r darpariaethau canlynol o Reoliad 2065/2001—
(i)Erthyglau 2 a 3 (dynodiad masnachol),
(ii)Erthygl 4(1) a (3) (dull cynhyrchu),
(iii)Erthygl 5 (cylch y ddalfa), a
(iv)Erthygl 6 (gwerthiannau cyfun);
(b)gofyniad a bennir yn Erthygl 58(6) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthyglau 67(13) a 68 o Reoliad 404/2011.
(3) At ddibenion paragraff (1)(b), y gofynion yw Erthygl 58(2), (3) a (5) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(7) o’r Rheoliad hwnnw ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011.
(4) Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 4(1) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 4(2) o Reoliad 2065/2001.
(5) Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn rhagwahardd nodi amrywiol Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd fel y’i disgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001.
(6) Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff olaf Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000, fel y’i darllenir ar y cyd â brawddeg olaf Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, lle nad yw pob pryniant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 20 ewro mewn sterling neu, yn achos gwerthiant uniongyrchol o gwch pysgota, 50 ewro.
(7) Nid yw’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2)(b) a (3) yn gymwys mewn amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(14) o Reoliad 404/2011, lle nad yw’r gwerthiant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 50 ewro y diwrnod mewn sterling.
5.—(1) Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that an operator has not complied with, or is not likely to comply with, a consumer information requirement or a traceability requirement, the officer may, by notice served on that operator (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)state the officer’s grounds for believing that the operator is failing to comply with those requirements;
(b)specify the matters which constitute the operator’s failure so to comply;
(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the operator must take in order to secure compliance; and
(d)require the operator to take those measures, or measures which are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”
(3) Yn lle is-adran (3), rhodder—
“(3) In this section—
(a)“consumer information requirement” and “traceability requirement” have the meanings given by regulation 4(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013;
(b)“operator” has the same meaning as in the EU Regulations as defined in regulation 2(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013 as read with regulation 2(2)(a) of those Regulations.”
6.—(1) Mae adran 37 o’r Ddeddf(1) (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10, as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, may appeal to the magistrates’ court.”
(3) Hepgorer is-adrannau (2) i (5).
(4) Yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”.
7.—(1) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10, as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, the court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.”
(3) Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.
8.—(1) At ddibenion Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009, rhaid i weithredwr gadw cofnod o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(4) o Reoliad 404/2011.
(2) Rhaid cadw’r cofnod am dair blynedd o’r dyddiad y caiff y trafodyn ei gwblhau.
(3) Mae’n drosedd i fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn.
9. Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio ag ail frawddeg Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009 yn euog o drosedd.
10. Bydd person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 8 neu 9 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
11. Mae’r Atodlen (cymhwyso ac addasu’r Ddeddf) yn cael effaith.
12.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2) Mae pob awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn ei ardal at ddibenion Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009 ac Erthygl 67(5) o Reoliad 404/2011.
13. Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2010(2) wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Awst 2013
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: