Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2274 (Cy. 220)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013

Gwnaed

5 Medi 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Medi 2013

Yn dod i rym

1 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 26(1)(a) a (2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2013.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad” (“assessment”) yw’r asesiad a gynhelir gan awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “darparydd gofal plant” (“childcare provider”) yw unrhyw berson sy’n darparu gofal plant;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;

ystyr “hyd sesiwn” (“session length”) yw’r cyfnod hiraf o amser y bydd darparydd gofal plant yn gofalu am blentyn mewn diwrnod.

(2Yn y Rheoliadau hyn, y mathau o ofal plant yw—

(a)gwarchod plant;

(b)gofal dydd llawn;

(c)gofal sesiynol;

(d)gofal y tu allan i oriau ysgol; ac

(e)crèches.

Dyletswydd i lunio asesiadau

3.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol lunio asesiadau o ddigonolrwydd y gofal plant a ddarperir yn ei ardal.

(2Rhaid cyhoeddi’r asesiad cyntaf a lunnir gan bob awdurdod lleol, yn unol â’r Rheoliadau hyn, erbyn 30 Ebrill 2014 a phob 3 blynedd wedi hynny.

(3Wrth lunio asesiadau rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Materion i’w cynnwys yn yr asesiad

4.—(1Rhaid i asesiad yr awdurdod lleol gynnwys, ar gyfer ei ardal awdurdod lleol, mewn cysylltiad â phob math o ofal plant ac o ystyried gwahanol oedrannau’r plant, fanylion am—

(a)nifer y lleoedd sy’n ofynnol;

(b)nifer y lleoedd sydd ar gael;

(c)nifer y lleoedd sy’n ofynnol y caniateir i’r elfen gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol gael ei defnyddio ar eu cyfer;

(d)nifer y lleoedd sydd ar gael y gallai rhieni ddefnyddio’r elfen gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol ar eu cyfer;

(e)yr adegau pan fo’r gofal plant yn ofynnol;

(f)yr adegau pan fo’r gofal plant ar gael;

(g)ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan ddarparwyr gofal plant;

(h)nifer y lleoedd sy’n ofynnol sy’n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;

(i)nifer y lleoedd sydd ar gael sy’n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;

(j)nifer y lleoedd sy’n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog;

(k)nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog;

(l)nifer y lleoedd gwag a’r lleoedd sydd heb eu defnyddio; ac

(m)ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.

(2Rhaid i’r asesiad gynnwys crynodeb o anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)y mathau o ofal plant sydd ar gael;

(b)oedran y plant y mae gofal plant ar gael iddynt;

(c)fforddiadwyedd gofal plant;

(d)adegau pan fo gofal plant ar gael;

(e)anghenion penodol plant anabl;

(f)argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog; ac

(g)lleoliad y gofal plant.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol” (“child care costs element of universal credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan adran 12 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(3) ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013(4).

Ymgynghori

5.  Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)plant;

(b)rhieni neu ofalwyr;

(c)darparwyr gofal plant;

(d)personau sy’n cynrychioli plant, rhieni neu ofalwyr a darparwyr gofal plant;

(e)personau a chanddynt fuddiant mewn gofal plant a phersonau sy’n cynrychioli’r rheini a chanddynt fuddiant mewn gofal plant;

(f)personau sy’n cynrychioli cyflogwyr a chyrff cyflogwyr lleol;

(g)cyflogwyr lleol;

(h)awdurdodau lleol cyfagos;

(i)ysgolion; a

(j)colegau addysg bellach

sydd yn ardal yr awdurdod lleol sy’n briodol yn ei farn ef.

6.—(1Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ymgynghori â’r Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant; a

(b)hysbysu unrhyw swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith yn ardal yr awdurdod lleol a’u gwahodd i gyflwyno unrhyw sylwadau.

Crynodeb Drafft

7.  Cyn cyhoeddi crynodeb o’r asesiad a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod lleol anfon drafft o’r crynodeb o’r asesiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi at y personau a restrir yn rheoliadau 5 a 6 er mwyn rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ar y drafft.

8.  Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r crynodeb drafft o’r asesiad yn y dull sy’n briodol yn ei farn ef wrth ymateb i unrhyw sylwadau a geir gan bersonau a restrir yn rheoliadau 5 a 6.

Cyhoeddi’r Asesiad

9.  Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o’r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol.

10.  Rhaid i’r awdurdod lleol adneuo copïau o’r crynodeb o’r asesiad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, lleoliadau gofal plant, ysgolion a mannau cyhoeddus eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

11.  Rhaid i’r crynodeb o’r asesiad gynnwys—

(a)yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 4(1) mewn cysylltiad ag ardal yr awdurdod lleol; a

(b)yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 4(2).

Dirymu

12.  Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008(5) wedi eu dirymu.

Jeff Cuthbert

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi un o Weinidogion Cymru

5 Medi 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) ac yn eu hail-wneud er mwyn cywiro gwallau technegol yn Rheoliadau 2008 a chynnwys cyfeiriadau at gredyd cynhwysol yn ogystal â chredyd treth gwaith a gaiff, yn rhinwedd Deddf Diwygio Lles 2012, ei ddisodli gan gredyd cynhwysol.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau o ddigonolrwydd gofal plant yn ardal yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r materion i’w cynnwys yn yr asesiad.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi’r personau i ymgynghori â hwy wrth lunio’r asesiadau ac mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi cyfle i’r personau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 5 a 6 gyflwyno sylwadau ar grynodeb drafft o’r asesiad cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Mae rheoliadau 9 i 11 yn ymdrin â’r gofynion o ran cyhoeddi’r crynodeb o’r asesiad.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru ac maent wedi eu breinio bellach ynddynt.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources