Search Legislation

Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2494 (Cy. 243)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013

Gwnaed

30 Medi 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2013

Yn dod i rym

25 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 13A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(1), a drosglwyddwyd wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff cynrychioliadol hynny yr oeddent yn eu hystyried yn briodol yn unol ag adran 195(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 25 Hydref 2013.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) 1995(3).

Cymhwyso

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1995 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(2Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Diwygio Rheoliadau 1995

3.  Mae Rheoliadau 1995 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.

Cyrff awdurdodi

4.  Yn rheoliad 3—

(a)yn lle “Association of Rover Clubs Limited” rhodder “Association of Land Rover Clubs Limited”;

(b)yn lle “the Auto-Cycle Union” rhodder “Auto-Cycle Union Limited”; ac

(c)yn lle “the Royal Automobile Club” rhodder “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited”.

Ffioedd

5.  Yn rheoliad 5 ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Any fee determined by an authorising body must not exceed a reasonable amount.

(4) An authorising body must publish, in such manner as it considers appropriate for informing persons likely to be affected, the levels of any fees which it has determined in accordance with paragraph (1) as they apply from time to time.

(5) An authorising body may not increase any fee unless details of the increase are published in accordance with paragraph (4) not less than 3 months before the date on which the increase takes effect.

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

30 Medi 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) 1995 (O.S. 1995/1371) (“Rheoliadau 1995”). Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau moduro sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1995 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r rhestr o gyrff a benodir i awdurdodi digwyddiadau oddi ar y ffordd yng Nghymru. Mae’r newidiadau fel a ganlyn:

(a)mae “Association of Land Rover Clubs Limited” yn disodli “Association of Rover Clubs Limited”;

(b)mae “Auto-Cycle Union Limited” yn disodli “the Auto-Cycle Union”; ac

(c)mae “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” yn disodli “the Royal Automobile Club”.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn perthynas â gosod ffioedd am geisiadau gan y cyrff awdurdodi. Ni chaniateir i unrhyw ffi y penderfynir arni fod yn fwy na swm rhesymol. Mae’n ofynnol cyhoeddi lefelau ffioedd ac ni chaniateir eu cynyddu oni chyhoeddir manylion unrhyw gynnydd o leiaf 3 mis cyn iddo gymryd effaith.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1988 p.52; mewnosodwyd adran 13A gan adran 5 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag adran 13A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources