- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
7 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Hydref 2013
Yn dod i rym
31 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a),(e) ac (f),17(1) a (2), 26(1), (2)(e) ac (f) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a bennir yn rheoliad 2(4) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.
Yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu paratoi a’u gwerthuso.
1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), a’u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a’i ddiwygio gan Ran 1 o’r Atodlen i ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: