- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
13 Tachwedd 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Tachwedd 2013
Yn dod i rym
5 Rhagfyr 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2013.
2. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod)—
(a)yn lle Rhan E rhodder—
(i)yng ngholofn 1—
“E. Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Biliau preifat; a” |
---|
(ii)yng ngholofn 2—
“Adrannau 52 a 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(3).”; a |
(b)yn Rhan Ff (swyddogaethau amrywiol) ar ôl paragraff 17—
(i)yng ngholofn 1, mewnosoder—
“18. Swyddogaethau sy’n ymwneud ag absenoldeb teuluol aelodau awdurdod lleol”; a |
(ii)yng ngholofn 2 mewnosoder—
“Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013(4).”. |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod (y mae rhaid iddi fod ar un o’r ffurfiau a bennir yn adran 11 o’r Ddeddf honno) onid yw’r swyddogaethau hynny i beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399 (Cy.45)) (“y Prif Reoliadau”) yn pennu’r swyddogaethau hynny nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o’r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau.
Mae Atodlen 1 i’r Prif Reoliadau yn rhestru’r swyddogaethau hynny nad ydynt yn gyfrifoldeb gweithrediaeth awdurdod. Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr hon drwy ychwanegu swyddogaethau mewn perthynas â phwerau i hyrwyddo neu wrthwynebu biliau preifat yn unol ag adran 52 ac adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r rhestr hon drwy ychwanegu swyddogaethau mewn perthynas â Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013.
Effaith y diwygiadau hyn yw na all y swyddogaethau dan sylw fod yn gyfrifoldeb gweithrediaeth yr awdurdod.
2000 p.22. Diwygiwyd adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac amnewidiwyd cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan adran 22, Atodlen 3, paragraffau 8, 13(1) a (3) o’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: