- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Datblygu Economaidd, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2013
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 194 o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 194(5) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, a daw i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
2.—(1) Mae paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975(2) (pŵer i wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) The use of any land which has been acquired by the Welsh Ministers under section 21A above, whether the use is by the Welsh Ministers or by a person deriving title under them, is authorised by virtue of this paragraph if it is in accordance with planning permission even if the use involves—
(a)interference with an interest or right to which this paragraph applies, or
(b)a breach of a restriction as to the user of land arising by virtue of a contract.”
(3) Yn is-baragraff (4)—
(a)ar ôl “sub-paragraph (1)” mewnosoder “or (1A)”, a
(b)ar ôl “works on” mewnosoder “, or use of,”.
(4) Yn is-baragraff (7) ar ôl “sub-paragraph (1)” mewnosoder “or (1A)”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 194 o Ddeddf Cynllunio 2008 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (“Deddf 1975”) er mwyn awdurdodi Gweinidogion Cymru i wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill sy’n cyfyngu ar y defnydd o dir y maent wedi ei gaffael o dan adran 21A o Ddeddf 1975. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud hyn ond os yw’r defnydd yn unol â chaniatâd cynllunio. O dan baragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1975, y mae eisoes yn bosibl i Weinidogion Cymru wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill sy’n cyfyngu ar gyflawni gwaith ar dir o’r fath.
Drwy arfer y pŵer hwnnw, mae Gweinidogion Cymru, drwy’r Gorchymyn hwn, yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1975.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1975 p. 70. Mewnosodwyd paragraff 6 o Atodlen 4 gan baragraff 3 o Atodlen 13 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3226.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: