8. Pan ddyfernir gostyngiad o dan gynllun awdurdod i berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol ac nad yw’n bensiynwr, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o’r canlynol—LL+C
(a)y materion a bennir ym mharagraff 7(1);
(b)swm cymwysadwy’r person (gweler paragraff 3 o Atodlen 6 (swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)); ac
(c)incwm y person (gweler paragraff 9 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 8 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)